Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 39 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif John Eilian
Rhagolwg argraffu Gweld:

Archif John Eilian

  • GB 0210 JOHIAN
  • Fonds
  • 1911-2018, 2022

Papurau John Eilian, 1911-2018, 2022, yn cynnwys gohebiaeth, ei awdl ‘Maelgwn Gwynedd’, awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947, a'r bryddest ‘Meirionnydd’ y dyfarnwyd iddo'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949, a cherddi eraill ganddo; papurau’n deillio o’i gyfnod fel newyddiadurwr; ac erthyglau ganddo a gyhoeddwyd mewn cylchgronau. = Papers, 1911-2018, 2022, of John Eilian, comprising correspondence, his poem in strict metre ‘Maelgwn Gwynedd’ which was awarded the chair at The National Eisteddfod held at Colwyn Bay in 1947, and the winning crown poem ‘Meirionnydd’ at The National Eisteddfod at Dolgellau in 1949 and other poems by him; papers relating to his work as a journalist; and articles published in periodicals.

Jones, J. T. (John Tudor), 1904-1985

Ysgrifau coffa

Teyrngedau o’r wasg, 1985, i John Eilian, ynghyd â chopi o Barn, Ebrill 2012, yn cynnwys erthygl Geraint Percy Jones am ‘Arloeswr y wasg John Eilian (1903-85)'.

Bywyd a gwaith John Eilian

Allbrint o grynodeb o fywyd a gwaith John Eilian a luniwyd gan ei fab Goronwy Tudor Jones yn Saesneg. Fe'i diweddarwyd ganddo yn 2022.

Llythyrau oddi wrth Lydawyr

Llythyrau oddi wrth yr ysgolhaig o Lydaw Francois Vallée, yn Gymraeg, a llythyr oddi wrth L. P. Nemo [Roparz Hemon] yn Saesneg.

Vallée, F. (François), 1860-1949

T. Gwynn Jones

Llawysgrif Llyfr Nia fach a’r copi printiedig a gyhoeddwyd yn 1932, caneuon a gyfieithiwyd gan T. Gwynn Jones, ynghyd ag adroddiad John Eilian ar angladd y llenor yn Y Cymro, 1949.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Timothy Lewis

Erthyglau Cymraeg a Saesneg, wedi’u cyflwyno i John Eilian, 1929-1947, a llythyrau oddi wrtho, 1937-1947.

Lewis, Timothy, 1877-1958

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, [1939]-[1978], gan gynnwys torion o gerddi gan feirdd eraill a gadwyd yn ei lyfr nodiadau Gwaed ifanc.

Sgwrs am Gymru

Nodiadau bywgraffyddol yn ei law ar gyfer y gyfrol Awdlau cadeiriol detholedig 1926-1950 (1953), a thudalen olaf llythyr a ysgrifennodd at ei wraig Lilian, ynghyd ag anerchiad gan Goronwy Tudor Jones, mab John Eilian, i Glwb y Rotari yn Berkeley, Califfornia, yn 1967, ond a luniwyd gan John Eilian. Yr oedd yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer MA mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, ar y pryd.

Ffotograffau

Ffotograffau a thorion yn ymwneud â'i lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol; ei daflen etholiad fel ymgeisydd Ceidwadol yn Ynys Môn mewn Etholiad Cyffredinol, [1964x1970]; gweithio gyda’r BBC; llungopïau o’r Radio Times am y ddrama ‘Y darn arian’ a gyfieithiwyd ganddo o’r Saesneg ac a ddarlledwyd yn 1936, a sgwrs ganddo ‘Alltud o Gymro yn Ceylon’ a ddarlledwyd yn 1937.

Wil Ifan o Fôn

Llythyrau, cerddi, a thorion o erthyglau ganddo a gyhoeddwyd yn Y Clorianydd, 1932-1950, ynghyd ag atgynyrchiad o siart Wil Ifan o Fôn 'The Bardic Circle ... A Primary Attempt at Dissection' yn darlunio strwythur a hanes y cylch barddol.

Evans, William, 1875-1952

Adroddiadau ysgol

Adroddiadau ysgol John Eilian, 1911-1915, tra'n ddisgybl yn Ysgol y Cyngor Penysarn, ynghyd â phapurau amrywiol.

Hanes teulu

Gwybodaeth achyddol o Gyfrifiad 1891 a 1911, adroddiad o'r wasg am ddadorchuddio plac iddo ar ei gartref yn 2004, ac ysgrif ‘Miss Jones (Miss Jôs)’ am fam John Eilian gyda nodiadau esboniadol gan [y rhoddwr].

Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau

Copi llawysgrif a phrintiedig gyda chywiriadau o’i bryddest fuddugol ‘Meirionnydd’, Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949, ynghyd â chopi o'r dystysgrif a gyflwynwyd iddo gan Gyngor yr Eisteddfod, a'i atgofion: 'I nearly missed my coronation'.

Cyfieithiadau o ganeuon

Cyfieithiadau o 38 cân ar gais W. S. Gwynn Williams a gyhoeddwyd gan Gwmni Gwynn, 1951-1965. Yn eu plith mae 'Hwn yw dydd geni Crist ein Iôr' (Hodie Christus natus est) a'i addasiad o ddwy gân werin Gymreig 'Modryb Neli' a 'Yr hen ŵr mwyn', a'r 'Gleisiad' (The trout).

Englynion beddau a cherddi eraill

Englynion coffa a luniodd i'w briod Lilian Maud Jones a fu farw yn 1972, ei gyfaill Percy Ogwen Jones (1982) a Bedwyr Lewis Jones [1992], a cherddi eraill ganddo a gyhoeddwyd mewn papurau newydd, allbrintiau o wefan Cylchgronau Cymru yn cynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Cymru a'r Llenor, ynghyd â chyfrol C. Davies and E. K. Prosser (golygyddion), A Book of Aberystwyth (Y Drenewydd, 1926), yn cynnwys tair cerdd Gymraeg ganddo.

Canlyniadau 1 i 20 o 39