Showing 54 results

Archival description
Wales Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Papurau Alwyn D. Rees,

  • GB 0210 ADREES
  • fonds
  • [c. 1930]-1974 /

Papurau'r cymdeithasegydd Alwyn D. Rees, 1911-1974, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Phrifysgol Cymru, yn bennaf â Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1920au-1974, gan gynnwys papurau'n ymwneud â'r comisiwn a sefydlwyd i archwilio strwythur ffederal Prifysgol Cymru yn y 1960au; papurau ynglŷn â lle'r Gymraeg yn y Brifysgol a'r ymgyrch i sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth,1967-1974; papurau'n ymwneud â llyfrau, erthyglau a darlithoedd Alwyn D. Rees, 1933-1973, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, [c.1964]-1974; papurau'n ymwneud â Barn, 1966-1967; papurau'n ymwneud â darlledu yng Nghymru, 1938-1974; papurau'n ymwneud â'r diwydiant llechi yng Nghymru,1946; papurau'n ymwneud â gwleidyddiaeth yng Nghymru, 1911-1974; gohebiaeth gyffredinol, 1935-1974; a phapurau a gohebiaeth bersonol , 1930-1974 = Papers of the sociologist Alwyn D. Rees, 1911-1974, including papers relating to the University of Wales, mainly the University College of Wales, Aberystwyth, 1930s-1974, including papers relating to the commission established to examine the federal structure of the University of Wales in the 1960s; papers concerning the place of the Welsh language in the University and the campaign to establish a Welsh student hostel at Aberystwyth, 1967-1974; papers relating to the University of Malta, 1940-1951; Alwyn D. Rees's research papers, 1933-1973; papers relating to Alwyn D. Rees's books, articles and lectures, and further related research papers assembled by him, 1925-1974; papers relating to the Welsh language, 1952-1974, and 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', [c. 1964]-1974; papers relating to 'Barn', 1966-1975; papers relating to broadcasting in Wales, 1938-1974; papers relating to the Welsh slate industry, 1946; papers relating to politics in Wales, 1911-1974; general correspondence, 1935-1974; and personal papers and correspondence, 1930-1974.

Rees, Alwyn D.

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Toriadau o'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth W. O. Jones ac eraill, 1888-1901, ynglŷn â Phwnc y Tir, ymddiriedolaeth elusennol Waunfawr 1893, 'Cymry yn y Senedd', ac etholiad Bwrdeistref Arfon 1888, ynghyd ag erthyglau gwleidyddol, crefyddol a llenyddol gan W. O. Jones ac eraill, ac hefyd adroddiadau, sylwebaeth a gohebiaeth ynglŷn â'r anghydfod rhwng W. O. Jones ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghapel Chatham Street, Lerpwl, 1900-1901, gan gynnwys ei amddiffyniad ohono'i hun ar dudalennau Y Cymro.

Free Church of the Welsh (Liverpool)

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Papurau, [1936]-1970, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod pan oedd Norah Isaac yn Brifathrawes Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 1939-1949, gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r gwersi a gweithgareddau allgyrsiol.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Aberystwyth, Wales)

Is-Bwyllgor yr Amgylchedd,

Cofnodion cyfarfodydd Is-Bwyllgor yr Amgylchedd, ynghyd â gohebiaeth rhwng y Gymdeithas a chyrff cyhoeddus (Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn bennaf), mudiadau cyhoeddus, gwleidyddion a gweision sifil. Ymgyrchoedd i ddiogelu amgylchedd cefn gwlad Cymru yw prif bwnc yr ohebiaeth, gyda phwyslais ar effeithiau niweidiol chwareli, y diwydiant olew, ffermydd gwynt a phrosiectau ynni dŵr, yn arbennig mewn Parciau Cenedlaethol. Ceir hefyd gohebiaeth am brosiectau ymchwil a grantiau ymchwil, a phabell amgylcheddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â deunydd perthynol yn cynnwys papurau trafod, dogfennau ymgynghorol, taflenni, cylchlythyr y Gymdeithas, a thoriadau o'r wasg.

Gohebiaeth gyffredinol 1980,

Ymhlith y gohebwyr mae Dyfed Thomas, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod, Derrick K. Hearne, Eleri Llewelyn Morris yn trafod Pais a bod Robat Gruffudd yn tynnu lluniau ar gyfer y cylchgrawn, a Catrin Stevens. Trafodir hefyd Y Camau Cyntaf: Dwylo ar y Piano a threfniadau Te Parti'r Taeogion, sef noson LOL yn Abertawe yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1980. Ceir hefyd restr, 1982, a luniwyd gan staff Archifdy Dyfed (Ceredigion), o gofnodion yr heddlu yn Nhalybont a roddwyd i'r archifdy gan Robat Gruffudd.

Results 41 to 54 of 54