Dangos 839215 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Y Beibl, cyhoeddi a hawlfraint

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi, yn enwedig cyhoeddi'r Beibl. Ymhlith y nodiadau mae llungopi o'r 'Report of the priviledged Presses Committee' yn ymwneud â chyhoeddi'r Beibl; nodiadau ar hanes y Beibl Cymraeg o dan y pennawd '250 Years Ago: The Welsh Bible'; ynghyd â dau lythyr ac amgaeëdigion oddi wrth y Bible Society.

'Y Beibl yng Nghymru: Arddull Lenyddol y Beibl',

G19: Dau ddrafft inc, pensel a theipysgrif o'r ddarlith gyntaf, 16 tt. G20: Drafft inc o'r ail ddarlith, 9 tt. G21: Drafft inc o'r drydedd ddarlith, 16 tt. G22: Teipysgrif I. Dau gopi, gydag ychwanegiadau inc a phensel, 14 tt. G23: Teipysgrif II. Dau gopi, gydag ychwanegiadau inc,16 tt. G24: Teipysgrif III. Dau gopi, 26 tt. G25: Sgript I, 5 Mehefin [1938], 6 tt. G26: Sgript II, 12 Mehefin [1938], 6 tt. G27: Sgript III, 19 Mehefin [1938], 7 tt. Gweler hefyd FF43-58.

'Y Beibl Cymraeg',

Deunydd amrywiol yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau THP-W. FF43: 'Meithrin chwaeth at ffurfiau llenyddol y Beibl'. Traddodwyd yn Undeb y Bala, Llandudno, 2 Gorffennaf 1934. Drafft inc, gyda chywiriadau inc a phensel, 12 tt. FF44: 'Dylanwad y Beibl ar ein llenyddiaeth'. Traddodwyd mewn cyfarfod i ddathlu Seithfed Jiwbili Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, Capel Jewin, Llundain, 1 Tachwedd 1938. Drafft inc, gyda chywiriadau pensel, 22 tt.; ynghyd â chopi o Rhaglen Cymdeithasfa Chwarterol Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru a gynhelir yn Jewin, Llundain, Tachwedd 1, 2, 3, 1938. FF45-52: Ysgol Undydd dan nawdd y WEA a'r WETUC i'w chynnal yn Ysgol Gynradd Pengelli, 2 Ebrill 1955:. FF45: Llythyrau (8), Rhagfyr 1954 i Mawrth 1955, oddi wrth Mansel Grenfell, Trefnydd Gorllewin Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. FF46: Cerdyn post, Tachwedd 1954, oddi wrth D. W[illiams], Aberystwyth. FF47: Llythyr, [d.d.], oddi wrth E. D. T. Jenkins. FF48: Nodiadau amrywiol, inc a phensel. FF49: Y Drysorfa, Mehefin 1938. D. Gwenallt Jones, 'Cymraeg Cyfieithiadau'r Beibl', tt. 216-20. FF50: Yr Haul, Ebrill 1952, yn cynnwys sylwadau ymyl y ddalen yn llaw THP-W. FF51: Ffotograff o faen coffa William Morgan ac Edmwnd Prys yng Nghapel Coleg Ieuan Sant, Caergrawnt; ynghyd â deunydd perthynol. FF52: Torion papur newydd, 1938, 1951-6. FF53-6. Darlith gyhoeddus yn Neuadd Bethel, Aberhonddu, 20 Mawrth 1957, dan nawdd Pwyllgor Addysg Brycheiniog:. FF53: Llythyr, 28 Ionawr 1957, oddi wrth H. Prosser Roberts, Pwyllgor Addysg Brycheiniog. FF54: Nodiadau, 6 tt. FF55: 'Y Beibl Cymraeg'. Drafft inc, gyda chywiriadau inc a phensel, 7 tt. FF56: Drafft inc a theipysgrif, gyda chywiriadau inc a phensel o 'Y Beibl (Cymraeg): Gwerthfawrogiad o'i Arddull ac o Rai o'i ddulliau neu Ffurfiau Llenyddol', 12 tt.

Canlyniadau 2321 i 2340 o 839215