Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 839148 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

A. Gwynn Jones, Capel Garmon,

Anfon tair cân i'r Llenor. Y mae dylanwad W. J. Gruffydd ar y cyfnod yn fwy nag y tybia. Y mae cynnwys Y Llenor yn gyfoethog. Wfft i'r 'Junior Member' a chriw ffals y Western Mail.

A. H. Dodd, Bangor,

Pwyllgor Unedig y Dosbarthiadau Tiwtorial am fynegi gwerthfawrogiad o'i wasanaeth a dymuno iddo ymddeoliad hir a hapus.

A. Hughes.

Murcwymp, Four Crosses, Chwilog. Ymddiheuro am beidio â bod adref pan alwodd. Gweld dim diben rhoi'r penillion yn y 'Manion' mwyach. Y penillion yn llaw Carneddog yn amgaeedig.

A. Ivor Parry,

Penarth. Gofyn os yw ail gyfrol Blodau'r Gynghanedd wedi ymddangos, os nad yw, oes posibilrwydd y bydd yn fuan.

A. J. Evans,

Fronheulog, Sarn. Diolch am gyhoeddi ei benillion yn y 'Manion'; amgau arian am gopi o'r gyfrol O Greigiau'r Grug.

A. J. Evans,

Fronheulog, Sarn. Anfon penillion cyfarch i Katie Griffith ar achlysur ei phriodas â Griffith Griffith, 13 Ebrill 1930, i ymddangos yn y 'Manion'.

A. J. Sylvester,

10 Downing Street, Llundain. Llythyr yn ei hysbysu nad yw'n deilwng o bensiwn, ond ei fod yn cael £100 o'r Royal Bounty. Saesneg/English.

Canlyniadau 281 i 300 o 839148