Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau teuluol

Copïau o dystysgrifau geni a phriodi, ac ewyllysiau’r teulu; geirda i Jennie Thomas, darpar wraig T. Eirug Davies, yn llaw John Morris Jones, 1920; copi, 1995, o dystysgrif priodas Tom Eirug Davies a Jane Thomas yn Eglwys Ebenezer, Llanelwy, 1 Mawrth 1921; cerddi gan T. Eirug Davies i’w dad yn bedair ugain oed yn 1945 a’i fam yn bedair ugain oed yn 1950; taflen gwasanaeth angladd ei Dad, [1949]; copi o’r Tyst, Hydref 1951 yn cynnwys cerdd ‘Y Dysgedydd (Tom Eirug Davies); a chopi anghyflawn o deyrnged i Lyn Eirug Davies, gwraig Alun Eirug Davies.

Llyfr nodiadau 14

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnyws nodiadau ar marchnad gwaith Ynys Mon, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, annibynniaeth a gwaith yn y Cynulliad.

Deunydd amrywiol

Papurau amrywiol gan gynnwys deunydd ar ffioedd myfyrwyr prifysgol, cydweithio rhwng Phrifysgolion, codi arian o Gymry tu allan i Gymru i Blaid Cymru, trefniadau ymgyrchu, penodiad Dafydd Trystan yn Brif Weithredwr Plaid Cymru, araith yr yr Iaith Gymraeg a phapur newydd Cymraeg arfaethedig.

Llyfr nodiadau 12

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys nodiadau ar gyfer gwaith yn y Cynulliad, gwaith Plaid Cymru ac yn cynnwys nodiadau ar bynciau megis addysg, Amcan Un, ElWa ac etholiadau.

Anerchiadau

Ffeil yn cynnwys nifer o areithiau, y rhan fwyaf yn llaw Cynog Dafis ar gyfer achlysuron gan gynnwys cyfarfod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1973), Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth (2000), Merched y Wawr Llandysul (2000) Noson Wobrwyo Ysgol Aberaeron (2000) ac eraill.

Llyfr Nodiadau 10

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys drafftiau areithiau, nodiadau ar waith y Cynulliad nodiadau o gyfarfodydd gyan gynnwys pynciau megis datblygu economaidd, rheiffyrdd a ffoaduriaid.

Emyn i Gymro

Sgôr Pwyll ap Siôn, Emyn i Gymro /Hymn to a Welshman, 2001, In memoriam R. S. Thomas, geiriau gan Menna Elfyn ar gyfer telyn unigol.

Results 141 to 160 of 45762