Showing 159 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File
Advanced search options
Print preview View:

Optimist Absoliwt

Copi proflen o Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2016, yn dwyn rhai cywiriadau yn llaw Menna Elfyn; ynghyd â dwy ysgrif gan Menna Elfyn yn trafod bywyd a gwaith y bardd Eluned Phillips a'i pherthynas â'r bardd, llenor a'r gweinidog Annibynnol Dewi Emrys, a gohebiaeth ebost at Menna Elfyn oddi wrth Elinor Wyn Reynolds, Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion, Gwasg Gomer.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, y rhan helaethaf ohono yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn, gan gynnwys erthyglau gan y beirdd Tony Conran a Nigel Jenkins, teyrngedau i Nigel Jenkins gan Menna Elfyn, Stevie Davies a Peter Finch a rhaglen ar gyfer digwyddiad i goffau Tony Conran; cyfeweliad rhwng Iwan Llwyd, Menna Elfyn a Nigel Jenkins; tri darn o'r nofel Martha, Jac a Sianco (2004) gan Caryl Lewis yn llawysgrif yr awdur; gwahoddiad i ddigwyddiad yng nghartref yr arlunydd Mary Lloyd Jones; deunydd PEN Cymru; datganiadau i'r wasg; torion a llungopïau o ddeunydd print; a thorion papur newydd, gan gynnwys rhaghysbyseb o berfformiad cerddorol gan Fflur Dafydd, merch Menna Elfyn, yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin, 2007.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn ymwneud â gwaith Menna Elfyn gyda'r cyfryngau, gan gynnwys cytundeb printiedig oddi wrth y BBC, llythyrau oddi wrth gwmni cyfryngau digidol Fidgety Lizard a Phrifysgol Copenhagen, slip cyfarchion Ffilmiau Bryngwyn a bras nodiadau.

Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas 2014-2016

Deunydd yn ymwneud ag Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas, 2014-2016, a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan a lle bu Menna Elfyn yn un o'r tiwtoriaid, gan gynnwys rhaghysbysiadau, amserlenni a gwybodaeth ar gyfer y cwrs, rhestr myfyrwyr, araith gan Menna Elfyn wrth gyflwyno Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Dylan Thomas, gwybodaeth am Dylan Thomas, ynghyd ag enghreifftiau o'i waith, ac adborth un o'r myfyrwyr.

Darlithoedd ac anerchiadau

Deunydd yn ymwneud â darlithoedd ac anerchiadau a draddodwyd gan Menna Elfyn yng Nghymru, Prydain a thu hwnt mewn gŵyliau, prifysgoliaon, cymdeithasau ac achlysuron eraill ar destunau megis llenyddiaeth, menywod a Chymru a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys copïau sgriptiau drafft a theg, nodiadau, gohebiaeth a thorion o'r wasg.

Bondo

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Bondo (2017), gan gynnwys drafft anodiadol o'r gyfrol a datganiad i'r wasg.

Cyfieithiadau o farddoniaeth Menna Elfyn gan eraill

Deunydd yn ymwneud â chyfieithu gwaith barddonol Menna Elfyn i ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Tsieinëeg, Lithwaneg, Swedeg, Wcreineg, Groeg, Hindi a Slofeneg. Ymysg y cyfieithwyr i'r Saesneg mae Robert Minhinnick, R. S. Thomas, Gwyneth Lewis, Tony Conran, Nigel Jenkins, Joseph Clancy, Elin ap Hywel a Gillian Clarke. Ynghyd â gohebiaeth yn ymdrin â'r gwaith cyfieithu rhwng Menna Elfyn, Nigel Jenkins, Gillian Clarke, Tony Conran a Joseph Clancy.

Bondo

Dwy ddrafft o Bondo, cyfrol farddoniaeth ddwyieithog gan Menna Elfyn, a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books yn 2017. Arnodir 'Copy llawn' ar un drafft yn llaw Menna Elfyn, a'r dyddiad '14.07.2017'.

Gweler hefyd 'Bondo Barddoniaeth' dan Anerchiadau.

Traethodau ymchwil ar waith Menna Elfyn

Traethodau ymchwil yn ymdrin â gwaith barddonol Menna Elfyn ac eraill, gan gynnwys traethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg (gyda dyfyniadau barddonol yng Nghymraeg) gan Siôn Brynach, Coleg Iesu, Rhydychen, traethawd di-ddyddiad a di-enw yn yr iaith Gymraeg (prifysgol/sefydliad heb ei henwi) a thraethawd di-ddyddiad yn yr iaith Saesneg gan Manon Ceridwen James (prifysgol/sefydliad heb ei henwi).

Dewch Gyda Fi

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Dewch Gyda Fi (2017), sef addasiad Cymraeg gan Menna Elfyn o ddrama Mike Kenny Follow Me (2017), gan gynnwys copi teg o'r sgript a hysbysebiad o'r wasg.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, ebyst, cardiau a chardiau Nadolig a anfonwyd at Menna Elfyn oddi wrth amryw ohebwyr, gan gynnwys Raymond Garlick, Michael Coady, Bobi Jones, Dic Jones, Ted Hughes, Meredydd Evans a Phyllis Kinney, Gerallt Lloyd Owen, Maura Dooley, Shani Rhys James, Seamus Heaney, Eigra Lewis Roberts ac Iwan Llwyd, gyda chanran helaeth o'r ohebiaeth yn ymdrin â gwaith llenyddol Menna Elfyn. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfrol gyhoeddiedig o ohebiaeth (ym Masgeg, Cymraeg a Sbaeneg) rhwng Menna Elfyn a'r awdur a'r actores Fasgaidd Arantxa Urretabizkaia a cherdyn i longyfarch Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James ar enedigaeth eu merch Fflur Dafydd ym 1978.

Anerchiadau

Anerchiadau a thrafodaethau gan Menna Elfyn ar ffurf llawysgrif ddrafft a theipysgrif, yn bennaf ar bynciau'n ymwneud â barddoniaeth a llenyddiaeth, hawliau merched a'r mudiad heddwch, a draddodwyd mewn amryw leoliadau gan gynnwys Colombo, Sri Lanka (2000) a Segovia a'r Alhambra, Sbaen (2007 a di-ddyddiad). Mae'r deunydd yn cynnwys beirniadaeth a draddodwyd gan Menna Elfyn ar gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe, 2006.
Ar frig tudalen cyntaf anerchiad yn dwyn y teitl 'Bondo Barddoniaeth' a draddodwyd yn Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bodedern 2017, nodir gan Menna Elfyn mai yn Y Fenni (lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2016) y cynhaliwyd yr eisteddfod, ond, gan mai 2017 oedd blwyddyn cyhoeddi detholiad barddonol Menna Elfyn Bondo (gweler dan Barddoniaeth: Bondo uchod), cymerir mai 2017 yw'r dyddiad cywir.

Am anerchiad gan Menna Elfyn ar Radio [Cymru] ar gyfer Sul y Blodau 1985, gweler dan Darllediadau cyfryngol.

Colofnau newyddiadurol gan Menna Elfyn

Torion papur newydd yn cynnwys yn bennaf golofnau Cymraeg a gyfrannwyd gan Menna Elfyn i'r Western Mail, ynghyd â drafftiau o'i gwaith a rhestr deipysgrif o benawdau ei cholofnau, 1996-2010.

Cennad

Copi proflen, gyda chywiriadau yn llaw Menna Elfyn, o'i llên-gofiant, a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2018. Dyma'r drydedd gyfrol i'w chyhoeddi yng nghyfres boblogaidd Cennad, 'sy'n rhoi llwyfan i'n prif lenorion drafod eu bywyd a'r dylanwadau ar eu gwaith' (https://cantamil.com/products/cennad-menna-elfyn). Ynghyd â nodiadau teipysgrif, wedi'u harnodi yn llaw Menna Elfyn.

Cwsg

Copi proflen, gyda chywiriadau yn llaw Menna Elfyn, o'r gyfrol Cwsg, sy'n cynnwys rhyddiaith, barddoniaeth ac amrywiol sylwadau ar natur cwsg, ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2019. Ynghyd â deunydd ymchwil a nodiadau yn ymwneud â chwsg yn gyffredinol.

Erthyglau, ysgrifau ac adolygiadau

Erthyglau (gan gynnwys colofnau i'r wasg), ysgrifau ac adolygiadau gan Menna Elfyn, rhai ohonynt ar ffurf llawysgrif ddrafft neu deipysgrif ac eraill wedi'u cymryd o ffynhonellau argraffiedig.
Ambell eitem yn cynnwys arnodiad(au) yn llaw Menna Elfyn.
Sawl un o'r eitemau yn ddi-ddyddiad.

Barddoniaeth amrywiol

Amrywiol gerddi (llawysgrif, drafft ac argraffiedig) yn ymestyn dros sawl cyfnod, nifer ohonynt wedi'u cyhoeddi yng nghasgliadau barddonol Menna Elfyn, ond y rhan helaethaf ohonynt heb eu dyddio. Ceir rhai cerddi sy'n ymddangos fel petaent yn rhai cynnar (hynny yw, cyn cyhoeddi Mwyara (1976)) ond sydd heb ddyddiad penodol (cynhwysir cerddi cynnar sydd â dyddiad penodol dan y pennawd Cerddi cynnar). Nifer o'r eitemau yn cynnwys arnodiadau/cywiriadau yn llaw Menna Elfyn.

Tosturi

Proflenni Tosturi, sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2022, sy'n cynnwys rhagymadrodd ddwyieithog i'r gyfrol gan Menna Elfyn yn dwyn y dyddiad ysgrifenedig '5.3.2022'; gydag arnodiadau llaw a nodiadau a chywiriadau argraffedig gan Menna Elfyn a nodiadau electronig gan [?y golygydd neu'r argraffydd]. Ynghyd â chyfres o ebyst, 2022, yng Nghymraeg a Saesneg cydrwng Menna Elfyn a'r rheolwraig ddiwylliannol, cyfieithydd a golygydd Alexandra Büchler ac oddi wrth Menna Elfyn at y golygydd a'r ymchwilydd Alaw Mai Edwards, rhai o'r negeseuon yn cyffwrdd â salwch olaf a marwolaeth Geraint Elfyn Jones, brawd Menna Elfyn (cyflwynir y gyfrol i Geraint Elfyn Jones ac i chwaer Menna Elfyn, sef Siân Elfyn Jones, a fu farw yn 2020). Ynghyd ag erthygl a dynnwyd o gylchgrawn Y Wawr, Hydref 2017, am y Dywysoges Gwenllian gan Tecwyn Vaughan Jones, Cadeirydd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

Pennod cyfrol: Comin Greenham

Copi teipysgrif o bennod yn dwyn y teitl 'Comin Greenham', sef cyfraniad Menna Elfyn i'r gyfrol Dros Ryddid!, a olygwyd gan Llinos Dafydd ac Ifan Morgan Jones ac a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa yn 2022.

Results 141 to 159 of 159