Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1284 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Papurau pwyllgor

Cofnodion a phapurau cysylltiedig y pwyllgor rheoli, y pwyllgor llywio, y pwyllgor iechyd a'r CCB.

Ysgrifau

Ysgrifau, [2002]-[2004], yn bennaf, gan gynnwys 'Hen Lyfr Cownt Ifan Williams y Bwtshwr', 'Cadw mis y pregethwr', 'Y ddafad golledig', 'Prynu mynaran', ‘Y dresar’, 'W. M. Llewelyn' ac ‘Ymweliad Trevor Fishlock â Phenderyn'. [Cyhoeddwyd rhai ohonynt o bosib yn Clochdar, papur bro Cwm Cynon].

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys dyddiadur o daith Dr Dyfed Huws a Dr Graham Thomas i Lesotho ar ran Pwyllgor Iechyd Dolen Cymru, Ion., a'u hadroddiad, Mawrth; cynllun cyfnewid gweithwyr iechyd Cymru a Lesotho 2002-2003, Hydref; a chynigion cydweithredol ar gyfer datblygu gofal iechyd yn Lesotho gan Ddolen Cymru a Lesotho Wales Link, Tach.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2002; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2001-2002 (2002), ac adroddiad ariannol, 2001-2002 (2002); ac agenda a chofnodion cyfarfod, Hydref 2002. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2002), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; R. Brinley Jones; Nia Davies; Mary-Ann Constantine; Nicola Williams; Rhys Huws; Penny Dransart; a Peter Lloyd.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2002; agendâu, Chwefror a Mai 2003; a chopi o gofnodion cyfarfod ar gyfansoddiad y Pwyllgor Rheoli (2002 a 2003). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2003), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; Alwena Morgan; Ian George; Lynn Williams; Nia Davies; Patrick Sims-Williams; ac Andrew Green.

Canlyniadau 121 i 140 o 1284