Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Norah Isaac, yn Aberystwyth,

Mae'n rhydd i ddod i'r cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych ar 19 Medi. Hoffai ddychwelyd i Aberystwyth y noson honno. Mae ar ganol cwrs Cymraeg ym Mhantycelyn. Mae'n drist wrth feddwl bod angen ysgol Gymraeg yn nhref Thomas Gee.

Llythyr oddi wrth 'Meredydd' [Meredith Edwards], Llundain SE23,

Gresyn bod Llundain ar y blaen i Ddinbych ynglyn â chael ysgol Gymraeg. Mae'n bwysig cael ysgolion Cymraeg ledled Cymru er mwyn i bawb gadw eu gwreiddiau. Daeth y rhan helaethaf o'r gefnogaeth o du'r di-Gymraeg. Nid yw dysgu Cymraeg i blant yn dreth arnynt fel y cwyna rhai. Bu ysgol Llundain ar agor am wythnos yn unig ac y mae'r plant eisoes yn medru canu caneuon Cymraeg, gwybod eu lliwiau a chyfrif. Nid oes angen poeni am arholiad yr 11+. Hoffai ddod i'r cyfarfod yn Ninbych. Cafodd agoriad yr ysgol yn Llundain sylw yn y Pakistani Times hyd yn oed. Cofion at Norah Isaac. Rhaid gwylio'r Cymry - hwy fydd yn codi bwganod. Rhannol yn Saesneg/Partly in English.

Llythyr oddi wrth R. E. Griffith, yn Aberystwyth,

Derbyniodd lythyr KR at Syr Ifan [ab Owen Edwards] gan ei fod ar ei wyliau yn yr Eidal. Mae'n anodd cynnig ateb cyn y nos Wener dilynol. Diolch i KR a'i chydweithwyr selog am geisio sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych. Dymuno'n dda i'r cyfarfod. Bydd yn gwylio'r datblygiadau'n ofalus.

Llythyr oddi wrth H. I. Bell, yn Aberystwyth,

Dymuno'n dda i'r ymgyrch i sefydlu ysgol Gymraeg. Mae'n anfon llythyr o gefnogaeth (rhif 1115 isod) a hwnnw yn Gymraeg ond mae'n sicr y bydd angen i KR gywiro tipyn arno. Diolch i KR am y pleser mawr a gafodd ef a'i wraig o ddarllen ei gwaith. Mae'n cyfieithu'r storïau ar gyfer ei wraig. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth H. Idris Bell, yn Aberystwyth,

Gair o gefnogaeth i sefydlu ysgol Gymraeg yn nhref Dinbych. Pwysigrwydd amddiffyn iaith a thraddodiadau Cymru. Heb ei iaith nid yw'r Cymro ond hanner Cymro gan ei fod yn amddifad o'r cysylltiad gorau efo gorffennol ei genedl. Byddai'n warth o'r mwyaf petai Dinbych yn colli'r Gymraeg.

Llythyr oddi wrth [Dr] Penrhyn Jones, yn Ysbyty Llangwyfan,

Mae'n gwrthod gwahoddiad i gynnig y diolchiadau yn y cyfarfod ynglyn â'r ysgol Gymraeg gan ei fod yn sâl. Mae'n cytuno'n llwyr gyda'r amcanion. Mae dau o'i blant yn mynd i Ysgol Gellifor a rhwng y cartref a'r ysgol mae eu Cymraeg yn weddol gadarn. Buasai'n frwydr barhaus iddynt gadw'r iaith pe baent yn byw yn Ninbych.

Llythyr oddi wrth Iorwerth C. Peate, yn Sain Ffagan,

Mae'n cefnogi'r cam i sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych. Mewn trefi Seisnigaidd mae'r ysgolion yn gyfrifol am fygu'r iaith Gymraeg. Yr ysgolion Cymraeg felly yw'r unig obaith nes bydd yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae dirywiad yn ansawdd yr iaith a'i diflaniad cyson yn peri tristwch calon i lawer. Mae'n gofyn i KR gyflwyno ei ddymuniadau gorau i lwyddiant y fenter yn y cyfarfod. Hydera na fydd yr ysgolion eraill yn defnyddio hynny fel esgus i ymseisnigeiddio. Da ganddo ddeall bod KR yn cytuno ag ef pan fu'n beirniadu'r pryddestau [yn yr Eisteddfod Genedlaethol]. Mae'r cyflwr llenyddol yn druenus a hynny'n arbennig o wir am adolygu. Rhoddodd y radio werth artiffisial ar rai pobl nes bod y rheini yn ymddangos yn awdurdodau terfynol ar bopeth llenyddol. Mae'n amgau copi o'r anerchiad a draddododd yn Glasgow. Cafodd groeso tywysogaidd yno. Mae'n feirniadol o'r Faner - y cynnwys yn ddigon truenus. Anfonodd adolygiad ar gofiant Gwenallt i Idwal [Jones] ers misoedd ond nid yw wedi ymddangos.

Llythyr oddi wrth J. E. Jones, yn Ninbych,

Ymddiheuro am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod ynglyn â'r ysgol Gymraeg. Gresyn o beth fod yn rhaid ystyried y peth o gwbl yn nhref Thomas Gee. Ni fyddai angen ysgol o'r fath petai rhieni Cymraeg yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd ac yn anfon eu plant i ysgol Sul Gymraeg. Mae'n gofyn iddynt ddarllen y llythyr yn y cyfarfod cyhoeddus.

Llythyr oddi wrth Huw T. Edwards [Cadeirydd Cyngor Cymru],

Dymuno cyfarfod llawn ac y sefydlir ysgol Gymraeg yn Ninbych o dan nawdd a bendith y Pwyllgor Addysg. "Ni bu yn unlle yng Nghymru well daear i blannu ynddi, ac fel popeth a blennir yn naear Dyffryn Clwyd, caiff y genedl, maes o law, ffrwyth toreithiog o Gymry Cymraeg". Cerdyn post teipiedig.

Canlyniadau 121 i 140 o 2492