Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan a phapurau cysylltiedig, Tachwedd 2012, a Mawrth a Mehefin 2013; agendâu, Mawrth, Mehefin, a Thachwedd 2013; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2012-2013 (2013); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2012-2013 (2013); cynllun busnes yr Academi Treftadaeth Cymru 2013-2017 (2013); a llythyrau (2013) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2012, ac Ionawr, 2013; a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau) Mawrth, Ebrill, Mai, Gorffennaf, Medi, a Hydref 2013.