Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Papurau'r Pwyllgor 2009

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol Prifysgol Cymru, Hydref 2008 ac Ebrill 2009; agendâu’r Pwyllgor, Ebrill 2008 a Hydref 2008; adroddiad ariannol y Pwyllgor, 2008-2009 (2009); adroddiadau prosiectau ymchwil (2009); adroddiad cyhoeddiadau Prifysgol Cymru (2009); manylion o gynigion prosiect a ymgeision am ariannu prosiectau ymchwil (2009); ac adroddiadau gan olygyddion cyfnodolion (2009). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2009), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Ralph Fevre; Richard Wyn Jones; Geraint Phillips; Alaw Mai Jones; Richard Jenkins; Graham Day; John Tribe; Adam Jaworski; Mark Sebba; Pádraig Ó Riagáin; K.S. Williams; Rod Morgan; Dan Hough; Hugh Mackay; Robert Silvester; Peter Webster; John Collis; Ian Ralston; Tadhg O’Keefe; F.A. Aberg; Jutta Leskovar; Klaus Löcker; a J. Beverley Smith.

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylliedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan a phapurau cysylltiedig, Tachwedd 2012, a Mawrth a Mehefin 2013; agendâu, Mawrth, Mehefin, a Thachwedd 2013; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2012-2013 (2013); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2012-2013 (2013); cynllun busnes yr Academi Treftadaeth Cymru 2013-2017 (2013); a llythyrau (2013) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2012, ac Ionawr, 2013; a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau) Mawrth, Ebrill, Mai, Gorffennaf, Medi, a Hydref 2013.

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Tachwedd 2013, a Mawrth a Gorffennaf 2014; agendâu, Mawrth, Gorffennaf, a Hydref 2014; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2013-2014 (2014); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2014), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Ann Benson; a Timothy Mowl. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau), Tachwedd a Rhagfyr 2013, ac Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin, a Gorffennaf 2014.

Seminarau'r Ganolfan

Papurau seminar a rhaglen seminarau, 1989, a llythyrau cysylltiedig (1989) yn trafod y seminarau, oddi wrth Peter Smith; R. Geraint Gruffydd; Joseph F. Eska; Geoffrey J. Wainwright; Medwin Hughes; Morfydd E. Owen; Derec Llwyd Morgan; Liz Fleming; John Davidson; Gwyn Lewis; Glanville Price; a Bobi Jones.

'Enwau Lleoedd'

Gohebiaeth a phapurau, 1987, yn ymwneud â pedwerydd Fforwm y Ganolfan, ‘Enwau Lleoedd’, yn cynnwys rhaglen; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Gwynedd Pierce; Oliver Padel; Margaret Gelling; G. G. Evans; Morfydd E. Owen; Bedwyr Lewis Jones; a Kenneth Cameron.

'Y Fforwm Gernywaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1988, yn ymwneud â seithfed Fforwm y Ganolfan, ‘Y Fforwm Cernywaidd’, yn cynnwys y rhaglen; rhestr o fynychwyr; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Brian Murdoch; Oliver Padel; Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Jack Arnell; Gwenan Creunant; Terence McCaughey; E. Evans; Tim Saunders; Bedwyr Lewis Jones; Lauran Toorians; Myrna Harris; a Charles Thomas.

'Archaeoleg'

Gohebiaeth a phapurau, 1990, yn ymwneud ag unfed Fforwm ar ddeg y Ganolfan, ‘Archaeoleg’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; a llythyrau cysylltiedig yn trafod y Fforwm oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Nancy Edwards; Wendy Davies; Yann-Ber Piriou; David Thorne; John Sharkey; a J. Arnell.

Results 101 to 120 of 188