Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, [1937]-[2011], yn ei llongyfarch ar lwyddiant ei nofelau ac yn ymateb i'w chyhoeddiadau eraill, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'i gwaith radio.

Sgriptiau radio a theledu

‘Gwerthoedd’, 1939, a 1959 (sgript gamera), ac addasiad i'r Saesneg: ‘Values’, 1947; ‘Ephraim Harries’, 1957; a ‘Ffrois’, (sgript gamera) a ‘Pancakes’ (sgript gamera), 1958, o'i gyfieithiad o'r gomedi deuluol, ynghyd â chopi printiedig o Pancakes (Llundain, 1960).

Gohebiaeth gyffredinol

Gohebiaeth gyffredinol, 1939-91 [66 o lythyrau a chardiau wedi'u trefnu, hyd y bo modd, yn ôl dyddiad], gan gynnwys llythyrau oddi wrth Caradog Prichard, 1962 (38/3), Derrick Childs, 1967 (38/4), Bedwyr Lewis Jones, c.1978 (38/15), R. S. Thomas a'i wraig Elsi, 1988 (38/37,39,41), a Dyddgu Jones, 1989-90 (38/50,56), ynghyd â llythyr drafft DO ati, c.1989 (38/51).

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, [1939]-[1978], gan gynnwys torion o gerddi gan feirdd eraill a gadwyd yn ei lyfr nodiadau Gwaed ifanc.

Enwogion yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg a nodiadau eraill

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys, yn bennaf, nodiadau ar enwogion, llenyddiaeth a digwyddiadau nodedig yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Ymysg eraill, crybwyllir William Salesbury, Dr John Davies, Mallwyd, William Morgan, Wiliam Llŷn, Ellis Wynne a Morgan Llwyd o Wynedd. Ymysg y nodiadau ceir cerdd gan ac yn llaw Waldo Williams sy'n cychwyn 'Wele'r ddau Ioan, er rhwyg eu hoes ...', sy'n sôn am y ddau ferthyr John Roberts, Rhiw-goch, Trawsfynydd a John Penry, Cefn-brith, Llangamarch.

Llythyrau, 1941-[1971]

Llythyrau a phapurau'n ymwneud â'i yrfa, ynghyd â llythyr o Malta, 1948, yn nodi iddo fynychu cyfres o ddarlithiau ar Gemeg Organig yn y Brifysgol yn Valletta a'i gerdyn adnabyddiaeth fel gohebyddd i'r BBC, [1971].

Cysgodion a dramâu eraill

Sgriptiau 'Cysgodion', y ddrama gyntaf a luniodd yn 15-16 oed, [1941]-[1942], 'Tro byd', 'drama gyda cherddoriaeth' a gomisiynwyd gan Theatr Cymru yn 1972 a 'Merch y blodau', drama lwyfan a ddechreuodd ei hysgrifennu yn 1986.

Llythyrau oddi wrth lenorion amlwg

Llythyrau oddi wrth lenorion yn bennaf, 1943-1992, gan gynnwys John Roderick Rees; [R.] Bryn Williams; Gwynfor [Evans]; Gwilym R. Tilsley; [R.] Tudur [Jones]; Bedwyr Lewis Jones; John [Gwilym Jones]; T. E. Nicholas; Kate Roberts; Waldo Williams; Lewis Valentine; Angharad Tomos; E. Prosser Rhys; D. J. Williams; T. H. Parry-Williams; W. R. P. George; a T. Llew Jones.

Sgriptiau radio

Dwy bennod o’r gyfres ‘Sion y Bodiau’; pryddest radio ‘Y Ffatri atomig’ sef egin Cwm Tawelwch’; ‘Dyffryn Clwyd’; ‘Chwilio gem’, hanes pererindod ddiweddar i Ynys Enlli’; adolygiad o’r gyfrol Eples gan Gwenallt, ynghyd â sgriptiau yn y cyfresi ‘Rhwng Gŵyl a Gwaith’, 'Trem’ ac 'Yn ôl y dydd'.

Straeon byrion

Chwe stori fer y gobeithid eu cyhoeddi yn gyfrol, ynghyd â llythyr oddi wrth Gerallt [Lloyd Owen] at Berwyn [mab yng nghyfraith Gwilym R. Jones] yn dweud 'nad oes digon o unoliaeth i wneud cyfrol deilwng o Gwilym R. ... ac mae'r cwbwl wedi dyddio rhywfaint erbyn hyn'.
Ceir tair stori fer Saesneg hefyd – ‘The ring’, ‘Ne’er the twain shall meet’ or ‘They were created male and female’ a ‘The proposal’, ynghyd ag 'egin storïau' a chanllawiau ar lunio stori fer.

Owen, Gerallt Lloyd, 1944-2014

Cerddi

Cyfrol o gerddi yn ei law, ynghyd â cherddi teipysgrif yn rhydd yn y gyfrol. Nodir lle cyfansoddwyd y cerddi, nifer ohonynt ym Machynlleth a hefyd os cawsant eu cyhoeddi, yn Y Faner yn bennaf.

Caneuon cynnar

Cyfrol o gerddi, 1945 -1949, yn ei law. Nodir lle cyfansoddwyd y cerddi, nifer ohonynt yn Valetta, Malta, a hefyd os cawsant eu cyhoeddi, yn Y Faner yn bennaf.

Cerddi, 1946-1986

Cerddi gan gynnwys 'Ruins', cyfieithiad ganddo o'i bryddest 'Adfeilion' a thorion o gerddi a gyhoeddwyd yn y wasg a sylwadau amdanynt.

Results 101 to 120 of 45762