- C16
- cyfres
- 1968-1977
Mae'r gyfres yn cynnwys enw, cyfeiriad a chyfraniad yr aelodau fesul chwarter tuag at gronfa yr adeiladau, 1968-1977.
Mae'r gyfres yn cynnwys enw, cyfeiriad a chyfraniad yr aelodau fesul chwarter tuag at gronfa yr adeiladau, 1968-1977.
Llyfrau cyfrifon a llafur yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres hon yn cynnwys cyfrolau ag ynddynt gofnod o enwau disgyblion yr amrywiol ddosbarthiadau, yn ogystal â manylion presenoldeb a'r adnodau a ddysgwyd, 1887-1913.
Rhan oPapurau Mathonwy Hughes
Mae'r gyfres yn cynnwys erthyglau a cherddi wedi eu torri o bapurau newydd a chylchgronau amrywiol,a gasglwyd gan Mathonwy Hughes, [?1921]-1992, y rhan fwyaf yn ymwneud ag ef, ei deulu a'i gyfeillion.
Papurau'n ymwneud â Chapel Tan'rallt, Llanllyfni
Rhan oPapurau Mathonwy Hughes
Mae'r gyfres yn cynnwys Adroddiadau Blynyddol, 1942, 1975 ac 1977, Capel Tan'rallt, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, sef y capel a fynychwyd gan deulu Mathonwy Hughes, ynghyd â dwy gyfrol yn cynnwys gwaith gan ddisgyblion Ysgol Sul yr un capel, 1865 a 1979.
Rhan oPapurau Mathonwy Hughes
Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau o waith Mathonwy Hughes fel beirniad, ynghyd â beirniadaethau ar ei waith ef, [?1966]-1991.
Rhan oPapurau Mathonwy Hughes
Mae'r gyfres yn cynnwys tasgau a osodwyd gan Mathonwy Hughes ar gyfer Ymryson y Beirdd, ynghyd â chynigion mewn ymrysonau eraill, gan gynnwys timau roedd ef yn aelod ohonynt[?1960]-[?1989].
Cofnodion amrywiol yr Ysgol Sul,
Rhan oCMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog,
Ystadegau misol, 1902-1917, taflenni ystadegol Tabernacl a Trefeini, 1908-1915 a 'Nodau'r Ysgol Sul'.
Gohebiaeth deuluol a dyddiaduron
Gohebiaeth deuluol G. J. Williams, 1868-1961, ynghyd â'i ddyddiaduron poced, 1920-1961.
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1916x1963], ar fywyd a gwaith Iolo Morganwg, gan gynnwys drafftiau o'r gyfrol Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956); darlithoedd, [1916x1963]; nodiadau helaeth, [1916x1963]; adysgrifau o lawysgrifau Iolo, [1916x1963]; a llawysgrif yr erthygl 'Cywyddau'r Ychwanegiad at Waith Dafydd ap Gwilym' (Y Beirniad, VIII, 1919).
Iolo Morganwg, 1747-1826
Ysgolheictod Cymraeg ac argraffu
Darlithoedd ac erthyglau G. J. Williams ar ysgolheictod Cymraeg ac argraffu yng Nghymru. Yn eu plith ceir deunydd amrywiol ar Gruffydd Robert, Milan, Edward Lhuyd, Charles Edwards, a Dafydd Jones o Drefriw.
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1911x1963], ar lenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid; nifer o ddarlithoedd ac erthyglau; ynghyd ag adysgrifau o lawysgrifau o wahanol ffynonellau a nodiadau amrywiol.
Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.
Gohebiaeth gyffredinol, 1967-1977, rhwng Zonia M. Bowen, fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, a chorfforaethau, mudiadau ac unigolion amrywiol yn ymwneud â Merched y Wawr a'i sefydliad. Ceir rhestrau o gynnwys rhai o'r ffeiliau, a baratowyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau perthnasol.
Cylchlythyrau Gŵyl Dewi a Calan Mai Merched y Wawr, 1968, gan gynnwys negeseuon gan y Llywydd ac adroddiadau yn sôn yn fras am ddigwyddiadau'r Mudiad ledled Cymru.
Llyfrau lloffion, wedi eu creu gan Zonia M. Bowen, yn cynnwys torion o'r wasg, 1967-2007, yn ymwneud â hanes Merched y Wawr o'r flwyddyn ei sefydlwyd yn 1967 hyd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad yn 1975. Hefyd, ceir rhai erthyglau yn sôn am ddathliadau penblwydd cangen y Parc yn 2007.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon unffurf Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1928-1957, a chofnodion rhif a llafur, [1885]-1954 (gyda bylchau). Ceir rhestri athrawon ac aelodau'r dosbarthiadau ac ystadegau'n ymwneud yn bennaf â phresenoldeb a nifer yr adnodau.
Cofnodion ariannol yr Ysgol Sul
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion ariannol yr Ysgol Sul, 1911-1932 a 1942-1960. Nodir enwau a chyfeiriadau aelodau ynghyd â manylion am eu cyfraniadau.
Cyfraniadau ariannol yr aelodau
Cyfrolau yn nodi enwau a chyfraniadau ariannol aelodau Capel Newydd Llanddarog tuag at gronfeydd yr offrwm, adeiladu, gwaddoli, a chronfeydd eraill. Nodir hefyd yn y cyfrolau daliadau a derbyniadau, 1900-1948, a bedyddiadau, marwolaethau a phriodasau, 1980-1995, a cheir taflenni ystadegol, 1970-1978, a mantolenni ariannol Cymdeithas y Capel a'r Ysgol Sul, 1970-1978 a 1982.
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, nodiadau a phapurau amrywiol, [1930 x 1999], yn ymwneud â'r iaith a llenyddiaeth Gymraeg, a grewyd ac a gasglwyd gan yr Athro J. E. Caerwyn Williams.
Iaith a llenyddiaeth y gwledydd Celtaidd
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau ymchwil yr Athro J. E. Caerwyn Williams, [1930 x 1999], yn ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Iwerddon a'r gwledydd Celtaidd eraill, ac eithrio Cymru. Crewyd a chasglwyd nifer o'r papurau wrth baratoi ar gyfer cyhoeddi.