Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1284 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys cynigion prosiect drafft ar gyfer rheoli ac atal HIV/AIDS yn Ardal Quthing Lesotho, [2005?]; a chofrestr o gysylltiadau cyfredol rhwng sefydliadau'r GIG, ysgolion meddygol ac ati yn ne Cymru a thramor, Hydref.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylliedig

Cofnodion Cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr, Mai, a Hydref 2004; agendâu, Mai 2004 a Mai 2005; copi o’r Adolygiad Rolau, Swyddogaethau a Strwythur Prifysgol Cymru a’i Pherthynas â’r Sefydliadau yn y Dyfodol (2005); amcangyfrifon ariannol, 2004-2005 i 2008-2009 (2005); a chofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2004 a 2005). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion ariannol (2004), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; R. Geraint Gruffydd; Branwen Jarvis; Jenny Childs; Linda Tiller; Geraint H. Jenkins; William Gillies; Catherine McKenna; a Barry Cunliffe.

Cyffredinol

Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys yn ymwneud â marwolaeth (Medi 2003) y Frenhines 'Mamohato; 'Summary of events in Lesotho', cyf. 11, rhifau 1-4 (Q1-Q4 2004); ymweliad Lesotho Wales Link â Chymru, Mawrth; sefydlu dolen rhwng gardd fotaneg Prifysgol Bangor, Treborth, a gardd fotaneg Katse yn Lesotho, Ebrill-Mai; a chynhadledd Llywodraethu ac Eiriolaeth i Lesotho, Awst-Medi.

Canmlwyddiant geni Waldo Williams

Gohebiaeth oddi wrth Anna Williams at Albert ac Isobel Lewis yn ymwneud â threfniadau canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004, sy'n cynnwys manylion am ddigwyddiadau yn Llandysilio, Sir Benfro a chyfeiriadau at aelodau o deulu Waldo. Magwyd Albert Lewis ar aelwyd Rhosaeron, cartref teuluol Waldo, a bu'n was priodas i Waldo.

Gohebiaeth at Dafydd (David/Dai) Williams, nai Waldo Williams (gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), yn amgau manylion ynghylch y digwyddiadau canmlwyddiant yn Llandysilio, sy'n cynnwys rhestr o aelodau o deulu Waldo ac eraill a fyddai'n bresennol a/neu'n cymeryd rhan.

Atgofion am Waldo Williams gan Wynn Vittle, sy'n cynnwys cyfeiriad at Dilys Williams, chwaer Waldo, a fu'n lletya yn nhŷ Benni ac Elsie Lewis, ewythr a modryb Wynn Vittle.

Atgofion am Waldo Williams yn llaw Teifryn Williams, nai Waldo (a brawd i David Williams).

Amserlen digwyddiadau canmlwyddiant geni Waldo Williams.

Richard Bill a William Till

Papurau'n ymwneud â'i astudiaeth Caerwent 1880 : the diary of William Till (1856-93) of Great House Farm for the year 1880 : transcribed, with a brief introduction a gyhoeddwyd fel llyfryn yn 2004.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2004; amcangyfrifon ariannol, 2004-2005 i 2008-2009 (2004); agenda’r Pwyllgor a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Mai 2005; copi o’r Adolygiad o Rolau, Swyddogaethau a Strwythur Prifysgol Cymru a’i Pherthynas â’r Sefydliadau yn y Dyfodol (2005); cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2005); a llythyrau (2005) oddi wrth Vera Bowen.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2004; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2003-2004 (2004), ac adroddiad ariannol, 2003-2004 (2004); agenda, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a nodiadau o gyfarfod y Pwyllgor, Hydref 2004; copi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 7 (Haf 2004); a phapurau pleidleisio ar gyfer traddodi Darlith Goffa J. E. Caerwyn Williams a Gwen Williams (2004). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2004), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen ac Andrew Green.

Hanes teulu

Gwybodaeth achyddol o Gyfrifiad 1891 a 1911, adroddiad o'r wasg am ddadorchuddio plac iddo ar ei gartref yn 2004, ac ysgrif ‘Miss Jones (Miss Jôs)’ am fam John Eilian gyda nodiadau esboniadol gan [y rhoddwr].

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys 'Lesotho Ministry of Health and Social Welfare: national guidelines for HIV testing and counselling' [HTC], Ebrill; 'ART [therapi gwrth-retrofeiriol] scale up plan for Lesotho', Medi; 'Government of Lesotho & UNICEF: country programme of co-operation, 2002-2007, mid-term review', Hydref; ac ymweliad gan arbenigwyr HIV/AIDS ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus â Lesotho, Hydref.

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys adroddiad ar ysbyty Machabeng, Qacha's Nek, Chw.-Mai; adroddiad ar weithdy HIV ar gyfer Cyngor Eglwysi Lesotho, Medi; adroddiadau ar brosiectau iechyd cyfnewid gwirfoddol, Hydref; ac adroddiad rhagarweiniol ar ymweliad deintyddol â Lesotho, Hydref.

Canlyniadau 81 i 100 o 1284