Showing 165 results

Archival description
Series Welsh
Print preview View:

Iechyd

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys gohebiaeth, adroddiadau, papurau pwyllgorau a.y.b.

Datblygiad a Gwasanaethau

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1997 a 2002-2008, yn ymwneud â datblygu y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn a darparu gwasanaethau, yn cynnwys cynlluniau busnes; trefnu cyrsiau; datblygu’r safle; strategaethau; yr Ymddiriedolaeth; nawdd; rhaglen EWROSGOL, a gweithgareddau a digwyddiadau yn y Nant. Mae rhai o’r ffeiliau hefyd yn ymwneud â phrynu a datblygu Plas Pistyll.

Carolau,

Llawysgrif, llungopïau a brasluniau o sgôr garolau, wedi'u cyfansoddi neu trefni gan Gilmor Griffiths. Y rhan fwyaf yn cynnwys alaw a chyfeiliant.

Gwledda canoloesol a Rhyl Operatic Society,

Casgliad o ganeuon, wedi'u trefnu neu eu cyfansoddi ar gyfer perfformiadau yn y Gwleddoedd Canoloesol poblogaidd a gynhaliwyd yng Nghastell Rhuthun. Hefyd darnau a berfformiwyd gan Gymdeithas Operatig Amatur y Rhyl pan fu Gilmor yn Gyfarwyddwr Cerdd.

Crefyddol ac emynau,

Cyfansoddiadau, trefniadau a gosodiadau gan Gilmor Griffiths o emynau a darnau o ddylanwad crefyddol. Nifer ohonynt wedi eu trefni ar gyfer côr.

Cerdd dant,

Gosodiadau cerdd dant gan Gilmor Griffiths, sgorau mewn llawysgrif, brasluniau a chopïau. Y rhan fwyaf gyda geiriau.

Côr,

Cyfansoddiadau, trefniadau a gosodiadau ar gyfer côr. Cyfansoddwyd nifer o'r darnau hyn ar gyfer corau Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Gweler hefyd 'Crefyddol ac emynau'.

Gohebwyr eraill

Llythyrau at R. Tudur Jones gan ohebwyr eraill, 1938-1994, ynghyd â rhai papurau perthnasol, wedi eu trefnu’n ffeiliau, yn ôl blynyddoedd.

Cardiau mynegai

Cardiau mynegai cerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi eu trefnu yn Ganeuon gwerin; Alawon carolau; Geiriau carolau (Meredydd Evans); Geiriau carolau (pynciau); Hwiangerddi; 'Alawon Fy Ngwlad', Nicholas Bennett; Mari Lwyd; 'Welsh Folk Song', J. Lloyd Williams; 'Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru', J. Lloyd Williams.

Cyflogaeth a Gwirfoddoli

Gohebiaeth a phapurau, 1980-1993 a 1997-2013, yn ymwneud â chyflogaeth a gwirfoddoli yn Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys y Rhaglen Cymuned y Canolfan Gwaith; adroddiadau; gweithgareddau staff; hyfforddiant; swyddi; a pholisiau staff.

Results 81 to 100 of 165