Y Gronfa Gynnal (llyfr 5): 1961-1966
- A5/9
- ffeil
- 1961-1966
Y Gronfa Gynnal (llyfr 5): 1961-1966
Papurau amrywiol, 1844-1975, gan gynnwys rhai a grynhowyd gan yr Eglwys fel 'dyddlyfr' Goleufryn a phapurau William Roberts.
Manylion am hanes codi Eglwys Beulah, ynghyd â llythyrau, 1884-1886, yn ymwneud â'r gwaith hwn a thocyn aelodaeth aelod yn Eglwys Moriah, 1844, a phenderfyniadau cyfarfod o swyddogion Eglwysig Moriah ac Engedi, 1849. Ceir hefyd ymdriniaeth 'Cipdrem ar Fywyd Ysbrydol Engedi Ddeugain Mlynedd yn ol' a gyflwynwyd yn 1936, taflen Dathlu Canmlwyddiant a Hanner 1842-1992 Eglwys Engedi, a thaflenni gwasanaethau Nadolig, 1992-1996.
Capel Moriah (Caernarfon, Wales)
Papurau a gasglwyd gan William Roberts, Bod Gwilym, yn rhinwedd ei swydd fel blaenor yn Eglwys Engedi ac fel ysgrifennydd ystadegol. Ymhlith y papurau ceir anerchiad J. W. Jones 'Pentwthill-Adgofion a Golygfeydd' ar gyfer Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1902, a thorion o'r wasg a ffotograffau'n ymwneud â dathlu canmlwyddiant yr Eglwys yn 1942. Ceir papurau rhai blaenoriaid a'i ragflaenodd hefyd.
Llyfr nodiadau yn cynnwys 'dyddlyfr' y Parchedig William Richard Jones ('Goleufryn', 1840-1898), gweinidog yn Eglwys Engedi, 1894-1898, ar gyfer 1863-1865; ynghyd ag adysgrifau o'i ddyddiaduron, 1867-1898, ac adysgrifau eraill, [1853]-1877; a theyrnged iddo gan ?, [1898]. Ceir hefyd 'anerchiad cenhadol' ganddo, [1879].
Goleufryn, 1840-1898
'Taflen Cyfrifon Capel Engedi'
Casglwyd y taflenni cyfrifon printiedig hyn ynghyd gan Owen Roberts, 1866-1889, a'u cyflwyno gan ei fab at wasanaeth Eglwys Engedi yn 1906 fel y nodwyd yn y gyfrol.
Llyfr nodiadau'n perthyn i William Owen, Pool Street, [Caernarfon], yn nodi enwau'r pregethwyr a'r testun, 1878-1886, yn Eglwys Engedi yn bennaf.
Cyfrifon, 1975. Ymddengys fod tudalennau wedi'u tynnu o'r gyfrol hon.
Capel Moriah (Caernarfon, Wales)
Materion diwylliannol a chymdeithasol
Cofrestri Cymdeithas Ddirwestol Engedi, [1862]-1965, llyfr cofnodion Cyfarfod Cystadleuol, 1884-1885, a phapurau'n perthyn i Gymdeithas Lenyddol Engedi, 1883-1927.
Yn cynnwys cofrestr o bresenoldeb yr aelodau; cofnodion am weithgareddau'r Gymdeithas; ac enghreifftiau o raglenni'r tymor, 1883-1886, gyda rheolau'r Gymdeithas. Ceir llyfr nodiadau hefyd yn cynnwys dyfyniadau o anerchiad Ellis Jones, yr ysgrifennydd, 'Adgofion am Enwogion y Ffydd yng nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yng Nghaernarfon', 1879, a gopïwyd gan R. O. Roberts yn 1894, a'i gyflwyno i'r Eglwys yn 1927.
Cymdeithas Lenyddol Engedi, Caernarfon
Cofrestri aelodau Cymdeithas Ddirwestol Engedi yn rhestru enwau a chyfeiriadau'r oedolion a oedd yn cefnogi dirwest, [1863]-1965.
Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd Eglwys a Chynulleidfa Engedi, Caernarfon
Ceir adran ar gyfer 'Chwiorydd Dirwestol' hefyd.
Cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol
Ceir enwau a chyfeiriadau'r aelodau, 1898-1961 (gyda bylchau), gan gynnwys plant yr eglwys, 1908.
Cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol
Rhoddir enwau a chyfeiriadau'r aelodau, [1907]-1965 (gyda bylchau).
Llyfr cofnodion Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Engedi, Caernarfon, 1884-1885, ynghyd â thraethawd 'Hanes yr achos, a'r hen gymeriadau yn Engedi er adeg ei gychwyniad' gan David Jones ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Ysgol Sabathol Engedi 1896.
Llyfr cofnodion Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Engedi
Ceir rhaglenni a thestunau cystadlaethau wedi'u pastio yn y gyfrol, 1884-1885.
Cyfarfod Cystadleuol Ysgol Sabbothol Engedi (1884: Caernarfon, Wales)
Traethawd Cyfarfod Cystadleuol Engedi, 1896
Traethawd 'Hanes yr achos, a'r hen gymeriadau, yn Engedi er adeg ei gychwyniad' gan David Jones, Llys Arfon, 1896.
Cofrestri anghydffurfiol, 1866-1998; cofrestri Eglwysig, 1864-1975; llyfrau cofnodion, 1882-1999; llyfrau cofnodion eraill, 1871-1996; gohebiaeth, 1940-1998; papurau'n ymwneud â chynnal a chadw'r adeilad, 1901-1998; gweithredoedd, 1809-1929; cyfarfodydd gweddi, 1867-1909; tocynnau aelodaeth, 1939-1997; ffurflenni claddedigaeth, 1917-1944; ystadegau, 1938-[1993]; eiddo'r Eglwys, 1937-1990; a holiadur, [1922]-[1998], am gynnal oedfaon.
Gweithredoedd, 1809-1929, gan gynnwys cytundeb ynglŷn â chodi addoldy ar dir Capel Henwalia yn 1885; ethol swyddogion newydd yn 1886; gweithredoedd, 1906, yn ymwneud â phrynu Ysgoldy Mark Lane; prynu'r Mans sef Bryn Beuno yn 1909; ynghyd â phapurau'n gysylltiedig â chymynrodd Robert Roberts, 1929.