Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Yr Hen Dŷ'

Drafft llawysgrif, a drafft teipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd' heb eu dyddio.

Yr Hen Blant,

Llyfr nodiadau y ddrama lwyfan Yr Hen Blant, 1999-2000, gan gynnwys drafft cynnar o'r sgript.

Yr Eisteddfod a'r Urdd

Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion, llythyrau, taflenni a datganiadau i'r wasg yn ymwneud yn bennaf ag Eisteddfodau Cenedlaethol ac Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd, 1987-1991.

Yr Efrydd o Lyn Cynon,

Drafftiau teipysgrif o'r cerddi a gyhoeddwyd yn Yr Efrydd o Lyn Cynon (Llandybïe, 1961), ynghyd â rhai nas cyhoeddwyd a chopi proflen o'r gyfrol.

Yr ardd,

Gwaith a anfonwyd i gystadleuaeth y fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr Aifft,

Papurau, [1937]-[1992], gan gynnwys 'Gair o Gairo', pigion o'i ddyddiadur fel Athro Gwadd ym Mhrifysgol Cairo, Seren Cymru, Mehefin 1966, a thorion eraill, rhaglen nodwedd 'O'r Aiftt y gelwais fy mab', 1954, ac adroddiad am gyflwyno'r gyfrol deyrnged Studies in Pharaonic religion and society (London, c. 1992).

Yr Academi Gymreig,

Papurau'n ymwneud â'r Academi Gymreig, 1967-[1987], gan gynnwys llyfr cyfrifon yr Academi Gymreig yn ystod cyfnod trysoraeth Bedwyr L. Jones, 1967-1972; cerdyn aelodaeth Gwenlyn Parry; a chartŵn yn darlunio Rhydderch Jones, yng nghwmni Gwenlyn Parry, ymysg eraill, yn cael ei dderbyn yn gymrodor.

Ynni gwynt,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, masnachwyr, gweision sifil, cyrff cyhoeddus, gwleidyddion, papurau newydd, a grwpiau ac unigolion yr oeddynt yn erbyn melinau gwynt, ynghylch prosiectau arfaethedig ynni gwynt yng Nghymru, gyda phapurau perthynol yn cynnwys datganiadau, ceisiadau am ganiatâd i adeiladu fferm gwynt, cylchlythyrau, ymgynghoriad cyhoeddus, cofnodion cyfarfodydd Clymblaid Hiraethog, holiadur, taflenni, posteri, torion o'r wasg, a chofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas ac Is-Bwyllgor yr Amgylchedd.

Canlyniadau 61 i 80 o 3783