- DLB1/1
- ffeil
- [1890 x 1955]
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o'i gerddi a thoriadau o gerddi a ymddangosodd yn y wasg.
1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o'i gerddi a thoriadau o gerddi a ymddangosodd yn y wasg.
Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau o gerddi David Bowen, nifer ohonynt ar gyfer cystadlaethau yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, gydag ychydig gywiriadau llawysgrif.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o gerddi David Bowen a gopïwyd ganddo.
'Caneuon a thelynegion Myfyr Hefin'
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o gerddi David Bowen a gopïwyd ganddo ynghyd â rhestr o'r cerddi. Ceir hefyd restr o aelodau 'Cylch awen a chân' ardal Llanelli, 1952-1953.
Cylch awen a chan (Literary Society) (Llanelli)
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau o'i englynion a gopïwyd ganddo a thudalen o englynion yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol Llanelli i'r cylch yn 1930.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1930 : Llanelli, Wales)
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau o emynau gan David Bowen (Myfyr Hefin) ac eraill a gasglwyd ganddo ar gyfer eu cyhoeddi.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o'i emynau a gopïwyd ganddo, gyda mynegai.
Mae'r ffeil yn cynnwys emyn-donau gan gyfansoddwyr amrywiol, yn cynnwys John Hughes, T. J. Morgan a Rhyddid Williams, a gasglwyd gan David Bowen er mwyn eu cyhoeddi yn Llawlyfr Urdd y Seren Fore.
Morgan, T. J
Mae'r ffeil yn cynnwys tair erthygl gan David Bowen ar 'Ddiwinyddiaeth yr englyn', 'Y Delyneg' a 'Taith o dan y Bannau'.
Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau ar gyfer dwy ddarlith a draddodwyd gan David Bowen : 'Cyfle'r Ieuanc' ac 'Urdd y Seren Fore'.
Welsh Baptist Union. Welsh Baptist Young People's Union. Urdd y Seren Fore
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau nodiadau ar bynciau diwinyddol yn bennaf.
'Diwinyddiaeth yng Nghymru o 1850 hyd heddiw'
Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau ac erthyglau ar grefydd, yn arbennig hanes y Bedyddwyr.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau ar Ioan Emlyn a John Jones (Mathetes) o'r enw 'I ddau John Jones o Lannau Teifi'; llythyrau, cardiau post a thoriadau papur newydd yn ymwneud â chofgolofn Ioan Emlyn, a gohebiaeth â ŵyr Ioan Emlyn, Aneurin Gomer Emlyn Jones Fudge.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerdd llawysgrif gan Brynfab ar achlysur dadlennu cofgolofn Ben Bowen, llythyr oddi wrth E. Williams, mab Brynfab, nodiadau ar waith Brynfab o dan y teitl 'Oriel y Beirdd' a thoriadau papur newydd.
Brynfab, 1848-1927
Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau llawysgrif a chopïau gorffenedig o gerddi gan T. G. Thomas, Treboeth, gan gynnwys 'Yr Afradlon, 'Y Fordaith' ac 'O Arwain Di'.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a phapurau a grewyd gan David Bowen wrth ysgrifennu llyfr ar hanes y Parch. John Jones (Mathetes), sef Parch. J. Jones (Mathetes): ynghyd â hanes ei gyfarfod can-mlwyddiant gan gwrdd chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin, detholion o'i waith, gyda darluniau, Cyfres Cedyrn Canrif (Llanelli, c. 1921).
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau, pregethau a nodiadau llawysgrif gan David Hopkin ar bynciau megis 'Pabyddiaeth', 'Dirwest' a 'Y Bedyddwyr a'r gwaith cenhadol'. Yr oedd David Hopkin a David Bowen yn gyd-olygyddion 'Cyfres cedyrn canrif' a 'Chyfres y Bedyddwyr Ieuanc'.
Hopkin, David, d. 1948
Mae'r ffeil yn cynnwys rhifyn coffa Gomer o Seren yr Ysgol Sul, Medi 1925, ynghyd â nodiadau ar Gomer gan David Bowen.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau nodiadau a phapurau a luniwyd gan David Bowen ar gyfer erthyglau a darlithoedd ar 'Feirdd y Bedyddwyr', 'Cymeriadau'r Fro' [Sir Gaerfyrddin], a nifer o weinidogion y Bedyddwyr. Ceir hefyd lythyr gan Ben Bowen Thomas at ei ewythyr, Ionawr 1943, yn beirniadu un o'r erthyglau.
Thomas, Ben Bowen, 1899-1977
Gwaith anghyhoeddedig Ben Bowen
Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau o gyfres o erthyglau, 'Gwaith Anghyhoeddedig Ben Bowen', a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul; a dau rifyn o Seren yr Ysgol Sul yn cynnwys erthyglau ar Ben Bowen gan ei frawd.