Clywodd ddrama radio KR "Cynddrws" dan amgylchiadau tra rhyfedd. [Rhaglen Cymru, nos Fawrth, 25 Mai 1954, 7-7.45 pm]. Dihangodd o "At Home" gwraig y prifathro am ddau funud i saith, gyrru ei gar rownd y gornel i lecyn tawel ar ymyl cae lle y canai'r gog a gwrando'r ddrama ar radio'r car. Hoffodd y ddrama a'i syniad o burdan, drama yn llawn dwyster a myfyrdod a phrofiad ynddi, ei harddull yn gain a'i chymeriadau (heblaw Goronwy Owen) yn fyw ac yn wir. Aeddfedrwydd oedd rhinwedd y ddrama. Cafwyd tri chwarter awr o wrando tawel - drama radio iawn. Drama i glust gyfrin atgof a myfyrdod, a barddoniaeth.
Anfon copi o'i ddarlith [Y Storm - Darlith Goffa Islwyn 1953]. Mwynhaodd ei drama radio dro'n ôl. Daeth Ystalyfera i'w gof. Da oedd cael rhywbeth sylweddol ar y radio.
Cynnwys mantolen am ei henillion o ysgrifennu dros y tair blynedd flaenorol. Gofyn iddi gytuno â'r ffigyrau cyn iddynt eu hanfon at y Swyddfa Dreth Incwm. Saesneg/English.
Ateb ymholiad ynglyn â dyledion treth incwm Kate Roberts. Mae'r swyddfa yn fodlon iddi dalu fesul tipyn ond bod 30 swllt yr wythnos yn rhy isel. Bydd yn rhaid iddi dalu hynny a hanner pob ffi a gaiff oddi wrth y BBC a chyhoeddwyr. Ynglyn â'r dreth sy'n ddyledus yn dilyn marwolaeth Morris Williams fe ganfuwyd bod gormod o amser wedi mynd heibio ers hynny bellach ac na allant hawlio'r £524-17s-2c. Saesneg/English.
Diolch i KR am ei llythyr a'r Faner. Nid fel drama radio y meddyliodd gyntaf am Siwan ond ar gyfer llwyfan Garthewin. Wedyn daeth y BBC a gofyn am ddrama Gwyl Ddewi. Bydd erthygl KR yn Y Faner yn hwb nid yn unig i Saunders Lewis ond i actorion Garthewin. [" 'Siwan' yng Ngwyl Ddrama Garthewin - Drama fythgofiadwy Saunders Lewis", Y Faner 25/8/1954, t 1]. Torrodd ei gar a hynny a'i rhwystrodd rhag dod i'r perfformiad. Mi weithiodd yn galed iawn ar y ddrama, yn enwedig Act III. Tipyn o tour de force oedd mentro act olaf heb ddim i ddigwydd ynddi o gwbl ond dau'n siarad ac yna mymryn o basiantri rhoi'r goron ar ei phen i gloi.
Dychwelyd rhestrau o daliadau breindal am y tair blynedd flaenorol. Gofyn iddi gadarnhau'r ffigyrau cyn eu hanfon at swyddfa'r Dreth Incwm. Saesneg/English.
Maent yn cytuno â chais y Swyddfa Dreth Incwm am £31-1s ar freindal 1954/5. Maent yn amgau rhybudd i dalu am hanner y swm ar gyfer 1 Ionawr 1955. Saesneg/English.
Cydnabod dau lythyr. Hyderu y bydd hi'n teimlo'n well ar ôl cyfnod mewn ysbyty. Nid yw wedi gweld Emyr Wyn Jones eto. Nid yw mo'r fyglyd ag y bu. Hydera y caiff wrando ar ddarllediad o waith KR.
Cydnabod derbyn £5-19s sy'n clirio'r ddyled am 1950/1. Dealla ei bod am godi morgais arall ar ei thy er mwyn clirio'r dyledion treth erbyn 1 Mai. Bydd yn rhaid iddi barhau i dalu cyfraniadau misol yn y cyfamser. Saesneg/English.