Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Awstria],

Mae'n deall bod KR wedi cael damwain yn ei gardd. Taliadau i gyn-gwsmeriaid ei gwr. Mae'n bosibl y bydd gwr o Awstralia yn anfon £100 iddi. Maent mewn lle dymunol rhag bod gwres yr haf yn effeithio ar iechyd ei gwr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Catrin [Williams], ym Methesda,

Llongyfarch KR [ar y radd DLitt]. Mae'r gwres yn llethol ar brydiau. Gwahodd KR a Daisy yno unrhyw adeg. Mae Nêst wedi tyfu ac yn ceisio siarad a bron iawn yn cerdded. Mae Geraint am fynd â hi i'r Ysgol Sul. Mae Idris am fynd i Aberystwyth am wythnos ar ddiwedd Gorffennaf ar gwrs ynglyn â'i waith. Byddai Morris T. Williams yn meddwl yn uchel o'r anrhydedd a dderbyniodd.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Awstria],

Ei llongyfarch ar dderbyn DLitt. Da ganddi glywed fod yr anghydfod rhwng KR a Daisy drosodd. Mae'n anodd derbyn bod Daisy wedi datblygu cymeriad anhylaw. Ni all ohebu â neb yn Hwngari rhag ofn dwyn cosb arnynt. Holi sut mae'r mudiad cenedlaethol yng Nghymru yn mynd yn ei flaen. Mae cyfreithiwr yn Llundain yn pwyso am y taliadau sy'n ddyledus i'w gwr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Awstria],

Newydd gyrraedd o'r Swistir. Mae'n prisio ei gohebiaeth â KR yn fawr gan fod rhai pethau na ellir eu dweud wrth ei gwr am ei fod yn sâl ac y mae Daisy'n dal yn blentyn. Diolch i KR am ofalu am Daisy. Mae'n loes iddi i'r trefniant fethu. Mae Daisy wedi bod yn gwrthod ysgrifennu atynt ac yn osgoi ateb cwestiynau ei thad, er bod hwnnw'n sâl ac yn gofidio amdani. Gofyn i KR ddioddef ei hanaeddfedrwydd am ychydig eto. Hanes ymweliad â'r Swistir i geisio profi bod sosialydd yn Hwngari wedi ei garcharu ar gam. Buont yn holi am ganiatâd i ddod i Brydain fel ffoaduriaid. Maent yn gobeithio symud i Brydain, Y Swistir neu Ffrainc. Nid oes fawr o obaith iddynt gael mynd i America. Mae arian i fod i KR ond bod cyfreithwyr yn Lloegr yn llusgo eu traed. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Oni bai am gysylltiad personol KR â'r Faner buasai wedi ymddeol ers talm. Bwriadai roi i fyny adeg ei driniaeth lawfeddygol ond fe bwysodd G[riffith] J[ohn] W[illiams] mor daer arno i beidio fel y bu'n rhy wan i ddal wrth ei fwriad. Y mae wedi bodloni ysgrifennu bob pythefnos ac fe wna hynny am flwyddyn o leiaf heb ragor o ffwdan. Darllenodd ei stori fer ["Y Trysor", Y Faner 12 Ebrill 1950, t. 3] a'i hadolygiad ar Storïau'r Tir Du D. J. Williams [Y Faner 26 Ebrill 1950, t. 7]. Yr oedd yn "adolygiad gwir werthfawr a sownd". Mae'n ceisio gorffen ail act ffars ar gyfer gwyl ddrama Garthewin. Credai ar y dechrau mai gwaith hawdd fyddai ysgrifennu ffars - ni chafodd erioed y fath ddadrithiad. Y mae'n drybeilig anodd ac fe fyddai wedi ysgrifennu dwy drasiedi gyda llai o boen.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Abertawe,

Cafodd godi ac eistedd am y tro cyntaf. Mae'n disgwyl cael mynd adref yn fuan. Mae'r llawfeddyg yn fodlon ar ei waith ac y mae'n clywed ei hun yn hybu'n arw. Gofyn i KR beidio â rhoi dim newyddion amdano yn Y Faner.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Nid yw'n mynd i'r ysbyty tan y dydd Gwener dilynol. Bu yn yr Wyddgrug a Wrecsam yr wythnos flaenorol, yn yr ysgolion gramadeg. Yr oedd y niwl cynddrwg fel na fedrodd deithio i Ddinbych na Garthewin. Mae ar ganol ail act o ffars anghyfrifol i chwaraewyr Garthewin. Diolch am ddwy siec nad oedd yn eu haeddu. Ni fu erioed yn gyfoethog, ni fu erioed yn dlawd, - ond bu'n gyfyng braidd arno ar ôl 1937 am rai blynyddoedd a dyna pam y mae ganddo deimladau cynnes tuag at Y Faner. Mae'n bwriadu ysgrifennu'n bythefnosol o hyn ymlaen.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Bu yng Nghastell-nedd yn gofalu am ei fodryb tra bu Mair gartref yn gweld ei mam. Ef felly yw'r dyn i ddweud yng Ngholofn y Merched sut i wneud saws brandi gyda phwdin Nadolig. Ond y mae cadw ty a gwneud gwaith meddwl ac ysgrifennu yn fwy nag y gall ei gyflawni. Mae ganddo felly edmygedd adnewyddol o'r cyfuniad doniau sydd gan KR. Mae'n cyfarfod G. J. Williams i fwrw'r hwyr yn ei gwmni. Mae'n rhagweld y bydd yn rhaid iddo roi'r gorau i ysgrifennu i'r Faner y gwanwyn dilynol. Mae wedi cwblhau deng mlynedd o 'Gwrs y Byd' bellach. Mae i gael triniaeth lawfeddygol y pryd hwnnw. Bydd hefyd am ysgrifennu rhai o'r llyfrau y mae'n awyddus i'w hysgrifennu cyn ei farw. Bydd yn rhaid cael amser i astudio ar eu cyfer. Heblaw am KR buasai wedi ymddeol ers talwm.

Llythyr oddi wrth Y Prifathro T[homas] Rees, Coleg yr Annibynwyr, Bangor,

Diolch i KR am ei hysgrif ar Miss Morfudd Huws. Fe ymddengys yn rhifyn Mawrth o'r Dysgedydd. ["Miss Morfudd Llwyd Huws M.A.", Y Dysgedydd 1926, tt 76-9]. Mae KR yn cyfeirio at y ffaith fod Mudiad y Myfyrwyr yn amhoblogaidd. Byddai ysgrif gan rywun a wyr beth sy'n bod yn lles mawr. Os teimla KR fel gwneud hynny bydd yn dda iawn ganddo gyhoeddi'r eitem.

Llythyr oddi wrth G[riffith] J[ohn] W[illiams], yng Ngwaelod-y-garth,

Mae'n falch o glywed bod KR am dderbyn [y radd DLitt anrhydeddus gan Brifysgol Cymru]. Dylid llongyfarch y Brifysgol am ei bod o'r diwedd yn cydnabod mawredd ein llenorion. Byddai'n gamgymeriad gwrthod. Petai pob Cymro egwyddorol yn gwrthod, dim ond Saeson a'r hanner Cymry a gâi eu cydnabod. Mae'r pwyllgor yn gweithredu yn y dirgel, dim ond awgrymu enwau a gaiff ef.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Rhaid iddi weithio mwy o oriau yn y llyfrgell yn awr. Mae Daisy yn hapus mewn amgylchiadau dymunol. Gofyn i KR ysgrifennu ati. Mae'n gobeithio cael cyfle i draddodi dwy ddarlith ym Mharis - un i Unesco a'r llall i Gymdeithas Llyfrgellwyr Ffrainc. Nid yw'n siwr a ddylai adael ei gwr ar ben ei hunan ac yntau heb wella'n iawn. Diolch i KR am y tro y bu yng Nghymru. Ei hannog i ysgrifennu fel na fydd iddynt golli cysylltiad. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth R. Alun [Roberts], ym Mangor,

Diolch am gydymdeimlad ar golli ei fam. "Aeth darn o hen ddiwylliant i'r ddaear" wrth ei chladdu. Mae'n teimlo nad oes neb bellach rhyngddo a'r erchwyn. Yr oedd yn edmygu ei theyrngarwch "a lle roedd ganddi weledigaeth a gwerthoedd ni phlygai dros ei llethu". Bu'n edwino yn raddol a chilio ymhellach i'w dyddiau cynnar, heb na phoen corff na meddwl. Cafwyd diwrnod stormus, gwlyb ddiwrnod ei chladdu.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Fe orffennodd gyfieithu y rhan gyntaf o adroddiad ei gwr. Bu'n bwrw eira yn drwm. Cafodd ail lythyr oddi wrth Daisy ar ôl iddi gyrraedd Dinbych. Mae mor hapus o wybod bod Daisy yno gyda KR. Hydera fod KR yn well nag ydoedd tra ar ei gwyliau ym Mharis. Mae ei gwr yn ei hannog i ysgrifennu stori fer ond y mae hi'n fodlon ar hyn o bryd i drwsio dillad a gwaith felly. Trafod amgylchiadau enbyd y ffoaduriaid sydd wedi dylifo i mewn i Awstria. Mae Awstria fel Hwngari braidd yn rhy agos at Rwsia i fod yn ddedwydd. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Diolch am lythyr KR a gyrhaeddodd y noson cyn ei phen blwydd. Sôn am afiechyd a digalondid ei gwr. Trist o glywed bod Mr Jones, golygydd yng Ngwasg Gee wedi marw mor sydyn ac yntau'n gymharol ifanc. Mae angen gwyliau arni. Ni ddylai trafferthion Daisy ei chadw rhag cymryd ei gwyliau. Yr oedd yn falch o gyfarfod Mr Hughes a fu ar ymweliad â Budapest. Fe hoffai i Daisy fod yn ddisgybl dyddiol yn Ysgol Ramadeg Dinbych yn hytrach na mynd i ysgol Howells. Esbonio cysylltiadau Daisy ym Mharis a phwyso ar KR i beidio â gohirio ei gwyliau. Saesneg/English.

Canlyniadau 61 i 80 o 2492