Llyfr cofnodion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru-Cangen Colegau Caerdydd a’r Cylch, 1965-66. R. Elwyn Hughes oedd Ysgrifennydd Mygedol y gangen, ynghyd â rhestr aelodaeth UCAC, 1967.
Cytundeb (yn Saesneg), 1976, rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a David Jenkins ynglŷn â thelerau byw yn Hengwrt a oedd yn eiddo i'r Llyfrgell; toriad o'r Aberdare Leader yn adrodd am ei ymweliad â Chymrodorion Aberdâr yn 1978; a chywydd ffarwel i'r Athrawon R. Geraint Gruffydd, Brynley F. Roberts a J. E. Caerwyn Williams ac i'r Prifathro Syr Goronwy Daniel gan Roy Stephens, 1979.
Llythyrau, [1935]-[1966], yn ymwneud â cholledion ariannol Ysgolion Abermâd a Lluest, gweithgareddau Urdd Gobaith Cymru, a chylchrediad cylchgronau fel Cymru'r Plant. Ceir dau lythyr hefyd oddi wrth D. J. [Williams] a llythyr oddi wrth George M. Ll. Davies.
Papurau cynnar yr Eglwys, yn cynnwys cyfrifon, 1876; gohebiaeth gynnar, 1876-1881; hanes yr Eglwys, 1876; cofnodion y cyfarfod cyntaf, 1876, a derbyniadau tuag at y Weinidogaeth, 1878-1881.
Nodir enwau'r aelodau a'u cyfeiriadau, 1894-1958, ac unrhyw wybodaeth am eu symudiadau. Ceir hefyd dudalennau rhydd yn nodi genedigaethau a bedyddiadau, 1890-1957, mantolen ar gyfer 1934, a derbyniadau a thaliadau, 1968.
Llyfr nodiadau ar ‘stage costumes’ a gwaith meim a beirniadaeth Gwynne D. Evans ar gystadleuaeth ysgrifennu drama un act Cymdeithas Ddrama Cymru 1967, ynghyd ag amrywiaeth o sgetshis ganddo a phapurau personol.