Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 163 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pwyllgor yr Organ

Papurau'n ymwneud â'r organ, gan gynnwys llyfrau cofnodion Pwyllgor yr Organ, 1893-1900, 1900-1908, a 1909-1911; llythyrau cais, 1910, am swydd organydd; llyfr cofnodion dewis organydd, 1946, a chofnodion y Pwyllgor Cerdd 1947; ynghyd â llythyr, 1985, am gyflwr yr organ.

Pwyllgor bugeiliol

Llythyrau'n ymwneud â'r Pwyllgor Bugeiliol, 1989-1991, yn arbennig dewis olynydd i'r Parch. Trefor Jones i fod yn gyfrifol am Ofalaeth Bresbyteraidd Caernarfon (Eglwysi Beulah, Engedi a Phenygraig). Ceir hefyd gofnodion y pwyllgor a phwyllgorau eraill, 1989-1996, gan gynnwys Pwyllgor y Tair Eglwys.

Cofrestr

Yn y gyfrol a ddisgrifir fel 'scrap book' ceir rhestri, 1916-1939, o'r aelodau newydd a dderbyniwyd a'r dull o wneud hynny ac o ba Eglwys, ynghyd â phapurau rhydd, 1947-1948, yn ymwneud â galw'r Parch. D. Tudor Jones yn weinidog i'r eglwys yn 1948. Yng nghefn y gyfrol ceir rhestr o'r rhai a fu farw, 1916-1938.

Canlyniadau 41 i 60 o 163