Showing 30 results

Archival description
Welsh poetry -- 20th century Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Cerddi,

Cerddi, 1933-[1990], gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth a'r gerdd 'The Caprice', gan Marion Eames, 1933-1957; ynghyd â chopïau o gerddi gan feirdd eraill, gan gynnwys copïau llawysgrif o 'A'u gwelo, tros ei galon...' a 'Pe gwyddit ti pa beth wyf fi...' gan T. Gwynn Jones, a 'Deuoedd' gan Wil Ifan; ambell gerdd gan J. Lewis Jones; a dwy gerdd deyrnged i Marion Eames. = Poems, 1933-[1990], including a volume of poetry and a copy of 'The Caprice' by Marion Eames, 1933-1957; together with copies of poems by others, including manuscript copies of 'A'u gwelo, tros ei galon...' and 'Pe gwyddit ti pa beth wyf fi...' by T. Gwynn Jones, and 'Deuoedd' by Wil Ifan; copies of poems by J. Lewis Jones; and two tributes to Marion Eames.

Barddoniaeth a chaneuon

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr barddoniaeth Islwyn Ffowc Elis tra roedd yn chweched dosbarth Ysgol Sir Llangollen. Mae'r cerddi mewn Cymraeg a Saesneg ac yn dyddio rhwng 1940 a 1942. Ceir hefyd 13 dalen rhydd yn cynnwys geiriau caneuon ac alawon mewn nodiant sol-ffa.

Papurau Amanwy,

  • GB 0210 AMANWY
  • fonds
  • 1909-1975 /

Papurau llenyddol Amanwy, yn cynnwys cerddi, caneuon a gweithiau mewn amryw ffurf, 1909-1953, yn enwedig pryddestau, 1909-1953, telynegion, 1910-1946, a sonedau, 1929-[1953]; rhyddiaith, 1924-1949, sy'n cynnwys darlithoedd, anerchiadau, storiâu byrion a nodiadau; sgriptiau radio,1942-1953; deunydd printiedig yn cynnwys emynau gan Amanwy a gweithiau ganddo ef ac eraill, 1919-1953; torion o'r wasg,1919-1945; a llythyrau,1950-1975. Gweler hefyd Trefniant = Literary papers of Amanwy, comprising poems, songs and other works of various forms, 1909-1953, notably pryddestau, 1909-1953, lyrics, 1910-1946, and sonnets, 1929-[1953]; prose works, 1924-1949, which include lectures, addresses, short stories and notes; radio scripts, 1942-1953; printed materials including hymns by Amanwy and works by him and others, 1919-1953; newspaper cuttings, 1919-1954; and letters, 1950-1975. See also Arrangement.

Amanwy, 1882-1953

Papurau Idwal Jones,

  • GB 0210 IDWNES
  • fonds
  • 1915-1957 /

Llythyrau, 1915-1936, yn bennaf at ei deulu tra bu'n gwasanaethu yn y fyddin, 1915-1919; teipysgrifau a llawysgrifau o'i ddramâu a sgriptiau radio, 1920-1936, a thorion papur newydd o adolygiadau, 1926-1940; barddoniaeth, caneuon, parodïau, rhyddiaith a deunydd arall, 1924-1932; copi teipysgrif o 'Ann y Wernolau',drama gan ei fam, Mrs Teifi Jones, 1921; a deunydd amrywiol a ychwanegwyd gan D. Gwenallt Jones tra bu'n ymchwilio ar gyfer Cofiant Idwal Jones, 1934-1957. = Letters, 1915-1936, mainly to his family whilst serving in the army, 1915-1919; typescripts and manuscripts of plays and radio scripts, 1920-1936, and newspaper cuttings of reviews, 1926-1940; poetry, songs, parodies, prose and other material, 1924-1932; a typescript copy of 'Ann y Wernolau', a play by his mother, Mrs Teifi Jones, 1921; and miscellaneous material added by D. Gwenallt Jones while researching <i>Cofiant Idwal Jones</i>, 1934-1957.

Derbyniwyd bocs ychwanegol o bapurau gan Mrs Eirain Rees (nee Jones), Medi 2008. Mae'r grŵp yn parhau heb ei gatalogio.

Jones, Idwal, 1895-1937

Papurau Gwilym Alaw,

  • GB 0210 GWILYMALAW
  • fonds
  • 1832-1917 (crynhowyd [1860au]-1917) /

Papurau Gwilym Alaw, 1832-1917, Castell Rhigos, yn cynnwys cerddi a rhyddiaith a gyfansoddwyd ganddo ef ac eraill, ynghyd â llyfrau nodiadau, torion o'r wasg a defnyddiau eraill perthynol, a hefyd nodiadau ganddo a deunydd arall a gasglodd yn ymwneud yn bennaf â hanes lleol, 1832-1909 = Papers of Gwilym Alaw, 1832-1917, of Castell Rhigos, comprising poetic and prose compositions by himself and others, together with related notebooks, press cuttings and other material, and also notes by him and other material collected by him relating mainly to local history, 1832-1909.

Morgan, William Thomas, 1844-1917

Papurau Pennar Davies,

  • GB 0210 PENIES
  • fonds
  • 1913-1999 /

Papurau Pennar Davies, 1913-1999, yn cynnwys copïau teipysgrif o'i weithiau llenyddol, ynghyd â phapurau academaidd a phapurau llenyddol.

Davies, Pennar

Papurau'r Parch. W. Rhys Watkin,

  • GB 0210 WRHKIN
  • fonds
  • 1787-1945 (crynhowyd [1900]-[1947]) /

Papurau'r Parch. William Rhys Watkin, yn cynnwys nodiadau pregethau a phapurau eraill,1899-1936; gohebiaeth, 1878-1948, blwyddlyfrau printiedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn cynnwys cofnodion gan WRW, 1891-1945; nodiadau ymchwil ac erthyglau ar Bedo Brwynllys, y Parch. E. T. Jones, a hanes y Bedyddwyr, 1909-[1945], a llyfr nodiadau Pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli,1928-1931; a chofnodion a gasglwyd ganddo, gan gynnwys cofnodion a chyfrifon eglwysi'r Bedyddwyr yn sir Gaerfyrddin a Morgannwg, 1843-930; nodiadau pregethau a phapurau eraill Richard Davies ('Yr Hen Belican'),1816-1873; papurau a llyfrau nodiadau amrywiol yn ymwneud â'r Bedyddwyr Cymraeg, 1787-1896; a phapurau Thomas Jones, morwr, o Aberdaugleddau, sir Benfro, 1845-1900 = Papers of Rev. William Rhys Watkin, including sermon notes and other papers, 1899-1936; correspondence, 1878-1948, printed Baptist Union of Wales yearbooks containing entries by WRW, 1891-1945; research notes and articles on Bedo Brwynllys, the Rev. E. T. Jones, and Baptist history, 1909-[1945], and notebook of the National Eisteddfod Committee, Llanelli, 1928-1931; and records collected by him, including minutes and accounts of the Welsh Baptist Church, Eldon Street, Moorfields, London, 1846-1905; records of Baptist churches in Carmarthenshire and Glamorgan, 1843-1930; sermon notes and other papers of Richard Davies ('Yr Hen Belican'), 1816-1873; miscellaneous papers and notebooks relating to Welsh Baptists, 1787-1896; and papers of Thomas Jones, mariner, of Milford Haven, Pembrokeshire, 1845-1900.

Watkin, W. R. (William Rhys), 1875-1947

Cerddi

Llyfr nodiadau gan gynnwys ei bryddest i 'Abraham Lincoln' [a enillodd goron iddo yn San Ffransisco yn 1913]; llyfr nodiadau, 1913, yn cynnwys cerdd i G[oronwy] O[wen]; amlen gyda drafftiau o'r cerddi 'Morgannwg (Gwlad y glo)' a 'Mynwent y cŵn (yn Nanteos)'; llyfr nodiadau'n cynnwys cerddi ar ffurf torion o'r wasg ar gyfer Trydydd Cerddi Crwys a gyhoeddwyd yn 1935 (ond rhoir 1936 ar ddiwedd rhagair y llawysgrif), ynghyd â thorion diweddarach megis 'Anathoth', Y Tyst, 1966 ac amlen wedi'i labelu 'Poems by Dad'; a chopi o Shakespeare, The Merchant of Venice (Rhydychen, 1891) gyda cherdd 'Casglu blodau' gan W. C. Williams, [18]95, wedi'i hysgrifennu yn y gyfrol.

Papurau llenyddol

Mae'r uned yn cynnwys llawysgrifau a theipysgrifau, [?1915]-[?1999], o farddoniaeth Mathonwy Hughes, cyfrolau cyhoeddedig, erthyglau, ysgrifau, a'i nofel anghyhoeddedig Y Pris, yn ogystal â chopïau o'i waith fel beirniad, beirniadaethau a dderbyniodd ef ar ei waith, a deunydd a baratowyd ar gyfer ymrysonau barddol.

Barddoniaeth

Llawysgrifau a theipysgrifau, 1911-[1982], o gerddi a ymddengys i gyd i fod yn waith Iorwerth Peate, yn eu plith pryddestau ar gyfer eisteddfodau, a theipysgrif Cerddi diweddar (Dinbych, 1982). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau Saesneg o gerddi Iorwerth Peate gan Leonard Owen.

Owen, Leonard

Results 21 to 30 of 30