fonds GB 0210 WRHKIN - Papurau'r Parch. W. Rhys Watkin,

Identity area

Reference code

GB 0210 WRHKIN

Title

Papurau'r Parch. W. Rhys Watkin,

Date(s)

  • 1787-1945 (crynhowyd [1900]-[1947]) / (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

0.086 metrau ciwbig (3 bocs)

Context area

Name of creator

Biographical history

Bu'r Parch. William Rhys Watkin (1875-1947), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, yn weinidog Capel Moreia, Llanelli, sir Gaerfyrddin, am 37 mlynedd. Addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd mewn Cymraeg yn 1894 yn un o ddisgyblion cynharaf John Morris Jones, yn astudio'r bardd 'Bedo Brwynllys'. Dechreuodd ar ei yrfa fel gweinidog capel Tabernacl, Maesteg, Morgannwg, cyn symud i Gapel Moreia. Yr oedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, a'i llywydd yn 1945. Yr oedd hefyd yn hanesydd yr eglwys, yn cyhoeddi nifer o lyfrau a phamffledi ar bynciau crefyddol, a bu'n olygydd Seren Gomer rhwng 1920 a 1928. Casglodd rhai cofnodion ar Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg, Eldon Street, Moorfields, Llundain, a oedd yn weithredol o 1846, ar y Parch. Richard Davies ('Yr Hen Belican'), a Thomas Jones (g. 1830) o Aberdaugleddau, sir Benfro, morwr.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

E. Watkin-Jones,; Rhodd,; 1949 a 1967

Content and structure area

Scope and content

Papurau'r Parch. William Rhys Watkin, yn cynnwys nodiadau pregethau a phapurau eraill,1899-1936; gohebiaeth, 1878-1948, blwyddlyfrau printiedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn cynnwys cofnodion gan WRW, 1891-1945; nodiadau ymchwil ac erthyglau ar Bedo Brwynllys, y Parch. E. T. Jones, a hanes y Bedyddwyr, 1909-[1945], a llyfr nodiadau Pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli,1928-1931; a chofnodion a gasglwyd ganddo, gan gynnwys cofnodion a chyfrifon eglwysi'r Bedyddwyr yn sir Gaerfyrddin a Morgannwg, 1843-930; nodiadau pregethau a phapurau eraill Richard Davies ('Yr Hen Belican'),1816-1873; papurau a llyfrau nodiadau amrywiol yn ymwneud â'r Bedyddwyr Cymraeg, 1787-1896; a phapurau Thomas Jones, morwr, o Aberdaugleddau, sir Benfro, 1845-1900 = Papers of Rev. William Rhys Watkin, including sermon notes and other papers, 1899-1936; correspondence, 1878-1948, printed Baptist Union of Wales yearbooks containing entries by WRW, 1891-1945; research notes and articles on Bedo Brwynllys, the Rev. E. T. Jones, and Baptist history, 1909-[1945], and notebook of the National Eisteddfod Committee, Llanelli, 1928-1931; and records collected by him, including minutes and accounts of the Welsh Baptist Church, Eldon Street, Moorfields, London, 1846-1905; records of Baptist churches in Carmarthenshire and Glamorgan, 1843-1930; sermon notes and other papers of Richard Davies ('Yr Hen Belican'), 1816-1873; miscellaneous papers and notebooks relating to Welsh Baptists, 1787-1896; and papers of Thomas Jones, mariner, of Milford Haven, Pembrokeshire, 1845-1900.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i LlGC; trosglwyddwyd llyfrau printiedig i LlGC, Adran y Llyfrau Printiedig, a ffotograffau i LlGC, Casgliadau Arbennig..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

System of arrangement

Trefnwyd yn grwpiau yn ôl rhodd, math a dyddiad. Trefnwyd rhan o rodd 1949 yn NLW MSS 17242-17302.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae rhai o'r papurau yn rhagddyddio bywyd W. Rhys Watkin.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls003844402

Project identifier

ANW

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Ebrill 2003

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y fynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Papurau Parch. W. Rhys Watkin.

Accession area