Dangos 28 canlyniad

Disgrifiad archifol
Williams, J. E. Caerwyn (John Ellis Caerwyn) Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau oddi wrth G. J. Williams

Copïau o lythyrau gan G. J. Williams, 1924-1962. Mae mwyafrif y derbynwyr heb eu henwi, ond ceir un llythyr at Iorwerth Peate (1924) ac un arall at J. E. Caerwyn Williams (1958). Ceir yma hefyd lyfr nodiadau llaw fer yn cynnwys drafftiau o lythyrau.

Llythyrau Williams (E-J)

Llythyrau, [1919]-1968. Ymhlith y gohebwyr mae Glanmor Williams (2), Griffith John Williams (7), J. E. Caerwyn Williams (9), ynghyd â cherddi yn llaw Waldo Williams a fenthycodd D. J. Williams iddo yn 1952 a chasgliad teipysgrif gan J. E. Caerwyn Williams o farddoniaeth Waldo Williams a gyhoeddwyd yn y wasg, 1938-1964 (wedi ymddangos yn Y Faner gan mwyaf), J. O. Williams (2), Jac [L. Williams] (13), Syr John Cecil-Williams (5) a John Roberts Williams (1).

Williams, Glanmor

Llythyrau O-W,

Llythyrau, [1938]-[1980]. Ymhlith y gohebwyr mae Jack Oliver, Dyddgu [Owen], Dyfnallt [Owen], Thomas Parry (2), Iorwerth Peate, Caradog [Prichard], D. Hughes Parry, y Cyrnol R. C. Ruck (5), E. Prosser Rhys, Gwyn Thomas, T. Glyn Thomas, Gildas Tibbott, Huw [Wheldon] (2), D. J. Williams (2), Emlyn Williams, G. Brynallt Williams, J. E. Caerwyn Williams, Jac L. Williams, John Lazarus Williams, John Roberts Williams (6) a T. H. Parry-Williams. Ceir copi o Trysorfa'r Plant, Hydref 1961, yn cynnwys cerdd Harri Gwynn 'I'r Tractor', gyda llythyr Griffith Owen, 1961.

Oliver, Jac, 1904-1984.

Llythyrau K-W,

Llythyrau, 1942-1992. Ymhlith y gohebwyr mae Phyllis [Kinney] (2), Tom [Parry], Derec Llwyd Morgan, James Nicholas, Bryn Roberts, Meic Stephens, Enid [Pierce Roberts], W. D. [Williams], [J.] [E.] Caerwyn [Williams] (3), a Gruffydd Aled [Williams], ynghyd â chopi teipysgrif o gyflwyniad [J.] [E.] Caerwyn [Williams] i D. Tecwyn Lloyd, John Saunders Lewis (Dinbych, 1988).

Kinney, Phyllis, 1922-

Llythyrau P-W,

Llythyrau, [1956]-[1970]. Ymhllith y gohebwyr mae Tom [Parry] (6), T. H. P[arry]-W[illiams] (13), W. W. Price (2), Gwynedd O. Pierce, Iorwerth [Peate] (5), Caradog [Prichard], Eigra Lewis Roberts (7), Melville Richards, Kate Roberts (2), John Rowlands, Edward [Ned Thomas] (4), Gwyn [Thomas] (4), G[ruffydd] Aled Williams, D. J. [Williams] (13), J. E. Caerwyn Williams (4), Glanmor Williams (4), Waldo [Williams], a Jac L. Williams.

Parry, Thomas, 1904-1985

Llythyrau M-T,

Llythyrau, [1938]-[1957]. Ymhlith y gohebwyr mae Meuryn, Dyddgu Owen, Ivor [Owen], Llew Owain, Iorwerth P[eate] (2), T[om] P[arry] (9), T. H. Parry-Williams (3), J[ohn] C[owper] Powys, R. Williams Parry, Kate Roberts (3), Keidrych Rhys, Henry E. G. Rope (3), Melville Richards (2), Enid [Pierce Roberts], [J.] [E.] Caerwyn [Williams], G. J. Williams (3), Alun Llywelyn-Williams, R. O. F. Wynne (7), Wynn Wheldon (6), W. D. [Williams], Ifor Williams, David Thomas (Lleufer) (2), Joseph Thorp, a Taldir.

Meuryn, 1880-1967.

Canlyniadau 21 i 28 o 28