Dangos 35 canlyniad

Disgrifiad archifol
Lewis, Saunders, 1893-1985 Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Theatr Garthewin,

  • GB 0210 GARWIN
  • fonds
  • 1933-1994 /

Llythyrau at Morris Jones, 1933-1977, oddi wrth Saunders Lewis ac eraill; copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu gan Saunders Lewis. Huw Lloyd Edwards, F. Sladen-Smith ac Ieuan Griffith, a chyfieithiadau o ddramâu Shakespeare gan J. T. Jones, Porthmadog,[1934]-[1968]; posteri ar gyfer dramau a berfformiwyd gan Gwmni Garthewin neu yn Theatr Garthewin,1946-1958; cynlluniau mewn dyfrlliw a phensil o wisgoedd a setiau, [1948]-[1959]; cynlluniau llwyfan,[1968]; ffotograffau o berfformiadau, [c. 1947]-[c.1980]; tocynnau, raglenni ac effemera arall, 1946-1977; gohebiaeth ynglŷn â'r theatr a'r cwmni,1946-1954; llyfrau cofnodion, 1949-1989 (ynghyd â nodyn, 1994); papurau ariannol,1946-1985; papurau cyffredinol,1946-1971; torion papur newydd,1946-1977; a rhaglenni'n ymwneud â chwmnïau theatrig eraill,1947-1984 = Letters to Morris Jones, 1933-1977, from Saunders Lewis and others; manuscript and typescript copies of plays by Saunders Lewis, Huw Lloyd Edwards, F. Sladen-Smith, and Ieuan Griffith, and translations of Shakespeare plays by J. T. Jones, Porthmadog, [1934]-[1968]; posters of plays performed by Cwmni Garthewin or at Theatr Garthewin, 1946-1958; watercolour and pencil designs of costumes and sets, [1948]-[1959]; stage plans, [1968]; photographs of performances, [c.1947]-[c.1980]; tickets, programmes and other ephemera, 1946-1977; correspondence concerning the theatre and company, 1946-1954; minute books, 1949-1989 (with a note, 1994); financial papers, 1946-1985; general papers, 1946-1971; newspaper cuttings, 1946-1977; and programmes relating to other theatre companies, 1947-1985.

Theatr Garthewin.

Papurau Cynllun Ymchwil Llenyddol yr Academi Gymreig

  • GB 0210 ACADEMI
  • Fonds
  • 1984-1988

Mae'r casgliad yn cynnwys deunydd a gasglwyd gan y cynllun yn ymwneud â'r llenorion Cymraeg canlynol: E. Tegla Davies, Huw Lloyd Edwards, Harri Gwynn, D. Gwenallt Jones, John Gwilym Jones, J. Saunders Lewis, Alun Llywelyn-Williams, T. H. Parry-Wiliams, Caradog Prichard, Kate Roberts, D. J. Williams, Abergwaun, Huw Llewelyn Williams a Waldo Williams. Mae'r archif yn cynnwys hefyd adysgrifau o rhai o'r casetiau o atgofion awduron Cymraeg diweddar a recordiwyd gan staff y cynllun ymchwil, ychydig eitemau o archifau yr Academi, deunydd yn ymwneud â gweithgareddau'r Academi a'r cynllun ymchwil, papurau ynglŷn â Geiriadur yr Academi a gwobr Griffith John Williams, a gohebiaeth yn deillio o'r cynllun ymchwil = The collection comprises material collected by the scheme relating to the following Welsh literary figures: E. Tegla Davies, Huw Lloyd Edwards, Harri Gwynn, D. Gwenallt Jones, John Gwilym Jones, J. Saunders Lewis, Alun Llywelyn-Williams, T. H. Parry-Wiliams, Caradog Prichard, Kate Roberts, D. J. Williams, Fishguard, Huw Llewelyn Williams and Waldo Williams. The archive also includes transcripts of some of the casettes of reminiscences of recent Welsh authors recorded by the staff of the research project, a few items from the archives of the Academi, material relating to the activities of the Academi and the research project, papers concerning the Welsh Academi Dictionary and the Griffith John Williams Prize, and correspondence deriving from the research scheme.

Academi Gymreig

Llythyrau Saunders Lewis

Llythyrau gyda nifer o ohebwyr gwahanol yn trafod carchariad Saunders Lewis a'i iechyd tra yn y carchar, ynghyd â chopi o gwestiynau a holwyd iddo mewn cyfarfod yn Nhŷ Cyfarfod y Crynwyr, yn Heol Fawr, Abertawe, yng nghanol y 1930au, [1935]-[1937].

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1915-1977, at Elizabeth Williams, nifer yn ymwneud â G. J. Williams a chyhoeddi ei waith; capel Bethesda'r Fro; dyfodol yr iaith Gymraeg; Undeb Cymru Fydd a Phlaid Cymru. Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Glyn Ashton, Rachel Bromwich (2), D. Simon Evans (4), Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Rachel Ellenborough (21, ynghyd â pheth o'i gwaith dan yr enw Rachel Law, a gwybodaeth yngŷn ag achau'r teulu (Iolo Morganwg)), Gwynfor Evans (2), Raymond Gower, Bedwyr Lewis Jones (2), Bobi Jones (2), D. Gwenallt Jones (3; ac 1 oddi wrth Nel Gwenallt ar farwolaeth ei gŵr), E. D. Jones (6), Ceri Lewis, Saunders Lewis (3; un oddi wrtho at ei wraig, Margaret, pan oedd yn y carchar; a 3 oddi wrth Margaret at Elizabeth Williams; ac 1 llythyr, 1931, at Saunders Lewis oddi wrth J. Alun Pugh), Timothy Lewis (2), T. J. Morgan, Rhys Nicholas, Iorwerth Peate, Eurys Rowlands, R. J. Thomas (6), a D. J. Williams (6).

Teyrngedau,

Teyrngedau i goffáu Trebor Lloyd Evans, 1979, ar gyfer Wilia [papur Cymraeg misol Abertawe], John Griffiths, 1980, Saunders Lewis, 1985, J. Henry Jones, 1985, Chris Zaremba, Y Faner, Mawrth 1990, Pennar Davies [cyhoeddwyd yn Taliesin, Gwanwyn, 1997], 'Cyfarch yr Athro W. D. Davies', [1984] ac i'w frawd Gwilym Griffiths, 2002.

Llythyrau K-L

Llythyrau, 1925-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth John Legonna (3); Ceri W. Lewis (12); Elvet Lewis ('Elfed'); Eiluned Lewis (4, ynghyd â chopi o'i herthygl 'Traditions of Christmas in Wales'); Henry Lewis (3); Ifor H. Lewis (27); J. D. Vernon Lewis; J. Rhys Lewis (2, yn cynnwys copi o ragair gan Iorwerth Peate, 'The land of Dyfi'); Saunders Lewis (10); D. Myrddin Lloyd (2); D. Tecwyn Lloyd (18); J. D. K. Lloyd (5); J. E. Lloyd; Alan Llwyd (3); Rheinallt Llwyd; Emyr Llywelyn (6); ac A. T. Lucas (51).

Legonna, John, 1918-1978

Aristoteles: Barddoneg (1978, 2001),

Papurau, 1974-1978, yn ymwneud â chyhoeddi'i gyfieithiad Aristoteles: Barddoneg gyda rhagymadrodd a nodiadau ganddo. Ceir llythyrau oddi wrth Ceri Davies, R. Brinley Jones, Saunders Lewis, Alan Llwyd, Meic Stephens a llythyr oddi wrth Ceri Davies am ailgyhoeddi'r gyfrol yn 2001.

Davies, Ceri.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1962-1989, yn cynnwys yn bennaf llythyron at Gwenlyn Parry yn trafod ei fywyd a'i waith. Ymysg y gohebwyr mae John Wain, Saunders Lewis, Bobi Jones, Islwyn Ffowc Elis, a J. Ellis Williams. Ceir llythyron hefyd gan ei gyhoeddwyr yn trafod materion ariannol; llythyr o Dŷ'r Cyffredin yn beirniadu rhaglenni teledu Cymraeg; a llythyron o Swyddfa'r Arglwydd Siambrlen yn ymwneud â'r dramâu Y Ddraenen Fach a Poen yn y Bol.

Papurau wedi'u crynhoi

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1909, oddi wrth Cybi at 'Mr [O. M.] Edwards'; enghreifftiau o waith cwrs ei myfyrwyr drama gan gynnwys cyfieithiad Robert Wynne, 1951, o ddrama Saunders Lewis 'Amlyn ag Amig' i'r Saesneg gyda'r teitl 'The Christmas Candle' [fe'i darlledwyd gan y BBC yn 1948 a 1950]; drama am Ellis Wynne gan Janet B. Thomas; 'Ysgol Sir Tregaron a'r ddrama' gan Eirlys Morgan; 'Golygfa o fywyd Richard Wilson' gan ?; stori 'The adventures of Arabella Penn. "The ivory doll"' gan Tudur Watkins, 1954; 'By the waters of the Towy' gan Richard Vaughan, [1973]; llyfryddiaeth 'Wil Hopcyn and the Maid of Cefn Ydfa' gan Brinli [Brinley Richards], 1978; 'Marwnad Saunders Lewis' gan Alan Llwyd, [1985], mewn teipysgrif; a llungopi o bapur arholiad Cymraeg ar gyfer ysgoloriaeth y Frenhines, Coleg Hyfforddi Caerfyrddin, Mawrth 1849.

Cybi, 1871-1956

Rhageiriau,

Rhageiriau, 1968-1980, gan gynnwys rhagair Gwenlyn Parry ar gyfer Tŷ ar y Tywod, 1968; rhageiriau Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones ar gyfer un o gyhoeddiadau Rhydderch Jones, [1975x1980]; a rhageiriau Gwenlyn Parry a Saunders Lewis ar gyfer Y Tŵr, 1979.

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

'Gwaed yr Uchelwyr'

Sgript 'Gwaed yr Uchelwyr' gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Gwmni Cofio, 1985, yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ynghyd â rhaglen, ac adolygiad, 1985, o bapur bro Y Gambo.

Gohebiaeth

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, 1964, yn ymwneud â llwyddiant ei nofel [Lleian Llanllŷr]; llythyr oddi wrth Gruffydd Aled Williams, 2002, yn ymateb i’w nofel olaf Cydio mewn Cwilsyn ac oddi wrth Geraint V[aughan] Jones, 2003.

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion 'Rhif 9, 1961-62', sef toriadau papur newydd 1961-1962, llythyrau oddi wrth Thomas Parry, 1961, W. E. Jones ac eraill ar ymddeoliad John Ellis Williams o Ysgol Glanypwll, 1961, llythyr oddi wrth Saunders Lewis, 1961, ynghyd â cherddi i John Ellis Williams ar ei ymddeoliad, a rhaglenni, 1961-1962.

Parry, Thomas, 1904-1985

Canlyniadau 21 i 35 o 35