Dangos 25 canlyniad

Disgrifiad archifol
Lewis, Saunders, 1893-1985 ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Erthyglau,

Llawysgrifau erthyglau, adolygiadau a beirniadaethau'n bennaf, [1973]-1992, gan gynnwys nifer a anfonwyd at gylchgronau a phapurau Cymreig eraill fel Y Faner, Barn, Barddas a golygyddol Taliesin. Ceir hefyd Ddarlith Dyfnallt 'Yr ymwybod o genedl yng Nghymru diweddar', 1980; Darlith Flynyddol Emrys ap Iwan, Abergele, 1985; 'Gysfenu i'r wasg gynt', (Darlith Radio Flynyddol BBC Cymru, 1980) a 'Saunders Lewis 1893-1985', Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986.

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

Ceisiadau am swyddi

Papurau'n ymwneud â gyrfa G. J. Williams, gan gynnwys ceisiadau am swyddi a thystlythyrau, 1914-1927, 1946; ynghyd â chopi o gais Saunders Lewis am swydd yng Ngholeg Rhydychen, 1947.

Aristoteles: Barddoneg (1978, 2001),

Papurau, 1974-1978, yn ymwneud â chyhoeddi'i gyfieithiad Aristoteles: Barddoneg gyda rhagymadrodd a nodiadau ganddo. Ceir llythyrau oddi wrth Ceri Davies, R. Brinley Jones, Saunders Lewis, Alan Llwyd, Meic Stephens a llythyr oddi wrth Ceri Davies am ailgyhoeddi'r gyfrol yn 2001.

Davies, Ceri.

Canlyniadau 21 i 25 o 25