Yr oedd KR yn iawn i agor y parsel. Nid oes awydd gwaith arno. Bwriada fwynhau ei hunan tra ei fod adref o'r Coleg. Mae am anfon cerdyn ati pan fyddant yn barod. Achosodd y cardiau hwyl fawr tua'r Coleg. [Ceir hanes y cardiau Nadolig hyn mewn erthygl a gyhoeddwyd gyntaf gan KR yn Taliesin, cyf. 11 (1965), tt 15-27. Ailgyhoeddwyd yr erthygl yn David Jenkins (gol.), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978), tt 155-67 yn dwyn y teitl "David Ellis: Bardd a Gollwyd". Buasai KR a Dafydd Ellis yn gyfrifol am anfon hanesion Coleg y Gogledd i'r Brython ar gais Ifor Williams. "Penderfynasom ofyn am anrheg gan gwmni'r Brython ar ddiwedd y chwarter cyntaf, chwarter Nadolig 1912, sef ychydig o gardiau Nadolig preifat Cymraeg ... bu cwmni'r Brython yn ddigon caredig i roi inni ddwsin. Yr oedd yn beth mawr inni yn 1912 gael cardiau a'n henwau ni ein hunain wedi eu hargraffu arnynt. Anfonwyd samplau inni i'r Coleg, ond daeth y parsel wedi i David Ellis fyned adref ar y gwyliau, a minnau'n aros ymlaen i wneud ymarfer dysgu yn un o ysgolion Bangor. Agorais y parsel a gwneud fy newisiad fy hun, a'i anfon ymlaen iddo yntau wedyn." (David Jenkins, op.cit., tt 158-9).