Showing 7 results

Archival description
Only top-level descriptions Plaid Cymru Welsh
Print preview View:

Papurau Cynog Dafis,

  • GB 0210 CYNFIS
  • fonds
  • 1934-2007

Papurau Cynog Dafis, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol,1964-1973, ffeiliau yn ymwneud ag addysg, 1961-1982, ffeiliau yn ymwneud â chynghrair Plaid Cymru/Y Blaid Werdd yng Ngheredigion, 1991-1997, papurau, 1996-1997, yn ymwneud ag etholiad cyffredinol 1997, areithiau, ymgyrch llywyddiaeth Plaid Cymru ac etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007 = Papers of Cynog Dafis, including general correspondence, 1964-1973, files relating to education, 1961-1982, files relating to the Plaid Cymru / Green Party alliance in Ceredigion, 1991-1997, papers relating to the 1997 general election, 1996-1997, speeches, campaign for the role of President of Plaid Cymru and the National Assembly for Wales election 2007.

Derbyniwyd papurau ychwanegol sydd dal heb eu catalogio = Addition papers received remain uncatalogued.

Dafis, Cynog, 1938-

Papurau Dafydd Orwig,

  • GB 0210 DAFORWIG
  • fonds
  • [c.1890s]-1995 /

Papurau, [c.1890au]-1995, a gasglwyd gan Dafydd Orwig, yn ymwneud yn bennaf â Phlaid Cymru, yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chenedligrwydd, diwylliant, gwleidyddiaeth ac economeg Cymru, yn eu plith amrywiaeth o adroddiadau, datganiadau a chyhoeddiadau Plaid Cymru, 1958-1995, a hefyd peth ddeunydd yn ymwneud â'r Alban ac Iwerddon. = Papers,[c.1890s]-1995, collected by Dafydd Orwig, relating mainly to Plaid Cymru, and comprising material relating to nationality, culture, politics and economics in Wales, including a variety of Plaid Cymru reports, manifestos and publications, 1958-1995, and also some material relating to Scotland and Ireland.

Orwig, Dafydd.

Papurau Ieuan Wyn Jones

  • GB 0210 IEUWYN
  • fonds
  • 1964-2015

Papurau gwleidyddol Ieuan Wyn Jones, 1964-2015, gyda'r rhan fwyaf o'i gyfnodau fel Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad dros Ynys Mon, gan gynnwys gohebiaeth ar bynciau gwahanol, papurau etholaethol, papurau yn ymwneud a Phlaid Cymru, arweinyddiaeth Plaid Cymru llywodraeth clymblaid Cymru'n Un.

Jones, Ieuan Wyn

Papurau J. E. Daniel

  • NLW MS 23870E.
  • File
  • 1905, 1939-1945

Papurau, 1905-1945, yng Nghymraeg a Saesneg, fu'n eiddo i'r Athro John Edward Daniel, yn ymwneud â'i weithgareddau gwleidyddol gyda Plaid Cymru. = Papers, 1905-1945, in Welsh and English, of Professor John Edward Daniel, relating mostly to his political activities with Plaid Cymru.
Maent yn cynnwys llythyrau oddi wrth Compton Mackenzie, 8 Hydref 1939 (f. 1), Gwynfor Evans, 25 Tachwedd 1945 (f. 14), a William George, 20 Mehefin 1945 (f. 5), ynghyd â nodiadau gan George ar gyfer araith yn cefnogi Daniel fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ym Mwrdeisdrefi Caernarfon yn etholiad 1945 (ff. 6-13). Hefyd yn y casgliad ceir papur enwebu Saunders Lewis yn is-etholiad Prifysgol Cymru, 1943 (f. 4); teipysgrif 'Memorandwm i Bwyllgor Heddwch y Blaid Genedlaethol' gan D. Gwenallt Jones, [c. 1939] (ff. 15-32, diwedd ar goll); a dau eitem o ohebiaeth deuluol, 1905 a [d.d.] (ff. 33-34). = They include letters from Compton Mackenzie, 8 October 1939 (f. 1), Gwynfor Evans, 25 November 1945 (f. 14), and William George, 20 June 1945 (f. 5), together with autograph notes for a speech by the latter in support of Daniel's candidacy for Plaid Cymru in Carnarvon Boroughs in the 1945 General Election (ff. 6-13). Also in the collection are nomination paper of Saunders Lewis in the University of Wales by-election, 1943 (f. 4); a typescript 'Memorandwm i Bwyllgor Heddwch y Blaid Genedlaethol' by D. Gwenallt Jones, [c. 1939] (ff. 15-32, end lacking); and two items of family correspondence, 1905 and [n.d.] (ff. 33-34).

Daniel, John Edward, 1902-1962.

Papurau Kate Roberts

  • GB 0210 KATERTS
  • Fonds
  • 1898-1985

Papurau Kate Roberts, 1866-1985, papurau llenyddol a gohebiaeth yn bennaf, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Saunders Lewis, 1923-1985 (a gyhoeddwyd yn Annwyl Kate, Annwyl Saunders, gol. gan Dafydd Ifans (Aberystwyth, 1992)), ac oddi wrth ei gŵr Morris T. Williams; gohebiaeth yn ymwneud â gwahanol aelodau o deulu Kate Roberts, 1911-1977; cardiau cyfarch, 1910-1985; darlithoedd,1914-[c. 1975]; papurau'r teulu, 1950-1985; dramâu, 1931-1969; dyddiaduron, 1939, 1944 a 1978-1983, drafftiau nofelau a storiâu byrion a phapurau'n ymwneud â chyfieithu rhai ohonynt i'r Saesneg; erthyglau a nodiadau cyffredinol, [c. 1937]-1974; erthyglau a nodiadau ar lenyddiaeth,1917-1973; cyfrifon Gwasg Gee, 1934-1953; papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Dinbych, 1958-1964; nodiadau ysgol a choleg, 1904-1913; eitemau printiedig, 1898-1988; a phapurau Gwasg Aberystwyth, 1942-1944. Mae'r archif hefyd yn cynnwys grwpiau helaeth o bapurau Morris T. Williams a'u cyfaill E. Prosser Rhys. = Papers of Kate Roberts, 1866-1985, mainly literary papers and correspondence, including letters from Saunders Lewis, 1923-1985 (published in Annwyl Kate, Annwyl Saunders, ed. by Dafydd Ifans (Aberystwyth, 1992)), and from her husband Morris T. Williams; correspondence relating to various members of Kate Roberts's family, 1911-1977; greetings cards, 1910-1985; lectures, 1914-[c. 1975]; family papers, 1950-1985; plays, 1931-1969; diaries, 1939, 1944 and 1978-1983, drafts of novels and short stories and papers concerning the translation of some of them into English; articles and general notes, [c. 1937]-1974; articles and notes on literature, 1917-1973; Gwasg Gee accounts, 1934-1953; papers relating to the Welsh School at Denbigh, 1958-1964; school and college notes, 1904-1913; printed items, 1898-1988; and Aberystwyth Press papers, 1942-1944. The archive also includes extensive groups of the papers of Morris T. Williams and of their friend E. Prosser Rhys.

Roberts, Kate, 1891-1985

Papurau Rachel Mary Davies,

  • GB 0210 RACIES
  • fonds
  • 1923-1992 /

Papurau Rachel Mary Davies, 1923-1992, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Phlaid Cymru,1938-1985; deunydd printiedig a llyfrau, 1923-1992, gan gynnwys cyhoeddiadau Plaid Cymru, 1950-1966; a gohebiaeth â Waldo Williams,1958-1967, yn cynnwys englynion anghyhoeddedig. = Papers of Rachel Mary Davies, 1923-1992, including papers relating to Plaid Cymru, 1938-1985; printed matter and books, 1923-1992, including Plaid Cymru publications, 1950-1966; and correspondence with Waldo Williams, 1958-1967, including unpublished englynion.

Davies, Rachel Mary, (of Swansea), 1911-1996

Papurau Tegwen Clee,

  • GB 0210 TEGLEE
  • fonds
  • 1928-1967 /

Papurau Tegwen Clee,1928-1967, yn cynnwys cyfrifon Plaid Cymru,1928-1943; llyfrau nodiadau,1928-1958; torion papur newydd yn ymwneud â Phlaid Cymru,1929-1949, a deunydd printiedig yn ymwneud â Phlaid Cymru a Llosgi'r Ysgol Fomio yn Llŷn,1934-1958 = Papers of Tegwen Clee, 1928-1967, including Plaid Cymru accounts, 1928-1943; note books, 1928-1958; newspaper cuttings relating to Plaid Cymru, 1929-1949; and printed material relating to Plaid Cymru and the Bombing School Fire at Lleyn, 1934-1958.

Clee, Tegwen, 1901-1965