Mae'n casglu barddoniaeth ar gyfer detholiad sydd i'w gyhoeddi gan Lyfrau'r Dryw. Mae'n gofyn caniatâd W. J. Gruffydd i gyhoeddi 'Angof' ac 'In Memoriam' a bydd lle i ddwy gerdd arall. Darllenodd ysgrif W. J. Gruffydd yn Y Tyst ar fater diswyddiad Iorwerth Peate. Awgrymu bod Syr Cyril Fox wedi darnguddio gwybodaeth bwysig a chamarwain Cyngor yr Amgueddfa.
Llythyr yn amgau copïau ffotostat o lythyrau a dderbyniodd oddi wrth R. Williams Parry rhwng 1937 a 1949, gan ofyn caniatâd i ddyfynnu ohonynt ar gyfer erthygl yn trafod gwallau argraffu [gw. rhifau 457-475].
Yn amgau copi o gerdd Ralph Hodgson, The Bull (Llundain, 1913). Ceir cerdd gan Aneirin Talfan Davies i R. Williams Parry y tu mewn i'r clawr [gw. rhif 903].
Esbonio nad oedd ganddo ef na Llyfrau'r Dryw ran yn y cynllun i ddewis Saunders Lewis fel golygydd newydd Y Llenor. Alun [Talfan Davies] wedi ysgrifennu at Y Cymro ar y mater er mwyn ceisio achub Y Llenor fel cylchgrawn. Apelio ar W. J. Gruffydd i berswadio Hughes a'i Fab i ailafael yn Y Llenor a'i gyhoeddi'n rheolaidd.