Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 840534 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9604 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys eitemau amrywiol oedd o bosib yn eiddo'r Athro Stephen J. Williams, er nad yw hynny yn glir, [1896]-[1992].

Amrywiol.

Cofrestr plwyf Penrhyndeudraeth, 'extracts re occupations and place-names; notes from 1801 and 1811 visitations'; 'llongau a gofrestrwyd yn y cyffiniau hyn'; 'Ysgolfeistriaid Methodistaidd ysgolion cylchynol, 1737-77' gan Bob Owen, Y Goleuad, 26 Meh. 1935 ymlaen; englynion Ioan Deudraeth; etc.

Amrywiol.

A) Dwy o gerddi newyddion (1761). B) Ioan ab Robert, Dau gywydd ... gyda thair o gerddi, 1788. C) Marwnadau, cerddi printiedig a llawysgrif, gan gynnwys adysgrif 'Cywydd Moliant i William Fychan, Ysw. o Gorsygedol, 1708. ('Allan o hen ysgriflyfr dros 200 mlwydd oed o eiddo Gwilym Ardudwy'). Ch) Cywyddau Siôn Powel, Rhydyreirin, Llansannan (adysgrifwyd o'r Piser Hir a fu yn Llyfrgell Abertawe. Erbyn hyn LlGC Mân Adnau 55B). D) Englynion Siôn Powel (fl. c.1760).

Amrywiol

Amlen wreiddiol wedi'i nodi â "Bolivia and Mexico Talks and Articles" yn cynnwys copïau yn dwyn y teitlau canlynol: 'A few memories'; 'Geni llosgfynydd'; 'La Paz' (sgript ar gyfer y BBC); 'Omar Khayyam ym Mexico'; 'Aviacion y el beni'; 'Mieri lle bu mawredd: hen wareiddiad y Maya a'r Inca'; 'Mawredd a chwymp: hanes rhyfedd y Maya'; 'Latin America'; 'Omar Khayyam and Mexican Oil'; 'Glimpses of the Maya and Inca cultures'; 'Bolivia'; 'Peru'; a 'The City of Our Lady of La Paz'; ynghyd â llythyr at olygydd y Sunday Times ar 'Britons', ac adolygiadau amrywiol.

Amrywiol

Papurau amrywiol gan gynnwys llyfr nodiadau 'Nodiadau a dyfyniadau. Llên a barddoniaeth', 1930 a llyfrau nodiadau amrywiol; llyfr torion o'r Faner, 1970, am 'Stori Oberammergau' gan Gwilym R. Jones; taflen dathlu chwarter can mlwyddiant Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych yn 1985 yn cynnwys cerdd ganddo: ‘I ddathlu pen-blwydd Ysgol Twm o’r Nant’; a thaflen ‘Teyrnged i Gwilym R.’ a drefnwyd gan Yr Academi Gymreig yn 1983.

Canlyniadau 1681 i 1700 o 840534