Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 713136 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4581 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Statement

Llungopi o ddatganiad Waldo Williams yn erbyn rhyfel a wnaeth gerbron tribiwnlys Caerfyrddin ar 12fed o Chwefror 1942.

Standchen [ Hwyrgân ],

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o 'Standchen' (Hwyrgan) gan Franz Schubert, y trefniant i S.A.T.B. gyda chyfeiliant a geiriau Cymraeg gan Gilmor Griffiths. Copi yn yr hen nodiant a thonic sol-ffa. Dalen teipysgrif o'r geiriau yn y Gymraeg.

S.R. funeral addresses

Llawysgrif anghyflawn o Samuel Roberts, Funeral Addresses (Conway, 1880), cyfrol o anerchiadau angladd a bregethwyd ganddo yn Llanbrynmair cyn 1857. = Incomplete manuscript of Samuel Roberts, Funeral addresses (Conway, 1880), a volume of addresses preached at funerals in Llanbrynmair before 1857.
Mae'r testun presennol yn gyfieithiad Saesneg o'r anerchiadau Cymraeg gwreiddiol. Yn cynnwys y rhagymadrodd, dyddiwyd 1 Medi 1880 (ff. 1-4), a rhan o'r testun (ff. 11-105), a atgynhyrchiwyd ar tt. 3-4, 8-54 o'r gyfrol cyhoeddedig. = The present text comprises English translations of the original Welsh addresses. It includes the introduction, dated 1 September 1880 (ff. 1-4), and part of the body of the text (ff. 11-105), reproduced on pp. 3-4, 8-54 of the published volume.

Spar; Staples; Stead & Simpson; Toys R Us; Thorntons; Thomas Cook; JJB Sports; River Island; Arthur Llewelyn Jenkins; Ladbrokes; a nifer o siopau lleol ac annibynnol

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, a storfeydd cenedlaethol, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1994-1997); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Soned i Bedlar

Copi o rifyn Mawrth 1931 o bapur Y Ford Gron, sy'n cynnwys y gerdd Soned i Bedlar gan Waldo Williams; a thoriad papur newydd (yn bur debyg, rhifyn Mai 1932 o The Welsh Outlook) yn cynnwys cyfieithiad o'r gerdd gan Wil Ifan (y gweinidog Annibynnol, bardd a llenor William Evans (1883-1968)).

Some enchanted evening,

Trefniant o'r alaw 'Some Enchanted Evening' ar gyfer y 'Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (South Pacific).

Sioronwy

Papurau Evan George (Sioronwy, Ifan Sior neu Siors), tad Tydfor, yn cynnwys cerdd ‘Tynnu’r ebol bach’ gan ‘Ifan Sior’ a gyhoeddwyd yn Y Cyfaill Eglwysig, englynion, cerddi eraill ganddo a rhyddiaith, ynghyd ag ysgrif goffa iddo, 1953.

Sgyrsiau

Sgriptiau amrywiol gan gynnwys ‘Gwlad pob peth o chwith’, Merched yn bennaf, 1980; Ofn a dychryn’, Merched yn bennaf, 1981; ‘Ceiniog a cheiniog’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1981; ‘Dechrau blwyddyn’, 1982; ‘Enid Blyton’ ac ‘I lawr ymysg y merched’, Merched yn bennaf, 1982; ‘Beirniadaeth’, Merched yn bennaf, 1983; ‘Y Nadolig’, Merched yn bennaf, 1983; ‘Ofn’, Merched yn bennaf’, 1984; ‘Darluniau’, Gŵyl Caradog Prichard, Merched yn Bennaf, 1985; ‘Allen Raine’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1987; ‘Cathod’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1989; ‘Chwarae â thân’, 1991; a 'Camgymeriad’, Sglein, 1995.

Sgwrs am Gymru

Nodiadau bywgraffyddol yn ei law ar gyfer y gyfrol Awdlau cadeiriol detholedig 1926-1950 (1953), a thudalen olaf llythyr a ysgrifennodd at ei wraig Lilian, ynghyd ag anerchiad gan Goronwy Tudor Jones, mab John Eilian, i Glwb y Rotari yn Berkeley, Califfornia, yn 1967, ond a luniwyd gan John Eilian. Yr oedd yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer MA mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, ar y pryd.

Sgriptiau radio

Sgriptiau rhaglenni radio, 1957-1988, yn y cyfresi 'Ddoe yn ôl', 'Tasa' ac ' Ar fynd' (cyfres am jazz); ‘Fy nghydymaith fy hun’, 1957; rhaglen nodwedd ar Sir Drefaldwyn, 1957; Wales Today, 1967, a rhaglen nodwedd ar David Lloyd’, ynghyd â sgriptiau 'Dathlu'r trigain', i ddathlu darlledu yn Gymraeg yn 1983 a syniadau am sgriptiau, 1979-80.

Sgriptiau radio

Sgriptiau radio ‘At, i ac am Ferched yn bennaf’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1978; ‘Dim hiraeth’, ‘Merched yn Bennaf, 1978; ‘Newid bro’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1979; Berthlwyd a’r pregethwyr, 1981; ‘Gweithwyr crwydrol’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1977; ‘Cnwylla, blacled a cwshing’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1979; ‘Te parti’r Foel’, Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1979 a ‘Spectral Chapel’, 1981.

Canlyniadau 181 i 200 o 713136