Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
George, W. R. P. (William Richard Philip) ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1974, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1974, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at beirniadaeth cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1974 gan Gwyn Erfyl a T. Glynne Davies (ff. 17 verso-19 verso), a buddugoliaeth W. R. P. George yn yr un gystadleuaeth (ff. 17 verso-19 verso, 29 recto-verso); Dic Jones (passim) ac Alun Cilie (passim); hefyd cyfeiriadau at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim) ac at gystadleuaeth gwyddbwyll yn Nice, Ffrainc (ff. 21 verso-25). = The volume contains references to the adjudication of the Crown competition at Carmarthen National Eisteddfod 1974 by Gwyn Erfyl and T. Glynne Davies (ff. 17 verso-19 verso), and W. R. P. George's success in the same competition (ff. 17 verso-19 verso, 29 recto-verso); Dic Jones (passim), and Alun Cilie (passim); there are references also to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim) and to a chess competition in Nice, France (ff. 21 verso-25).

Llythyrau at David Bowen, A-H

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan Euros Bowen, Hannah Bowen (gwraig gyntaf David Bowen), Lizzie Bowen (ail wraig David Bowen), Rhiannon Bowen (merch David Bowen), Thomas Orchwy Bowen (brawd David Bowen), Ifan ab Owen Edwards, O. M. Edwards, T. I. Ellis, D. Emrys Evans, Wil Ifan, W.R.P. George, R. E. Griffiths, J. Gwyn Griffiths a D. Hopkin.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

Llythyrau cyffredinol

Llythyrau, [1955]-2003. Ymhlith y gohebwyr mae Kitty Idwal Jones yn nodi achau teulu Plas Penucha (Syr John Herbert Lewis) mewn gwahanlith o erthygl 'Cywydd gan Thomas Jones, Dinbych' gan Saunders Lewis o'r Llenor, Hydref 1933, a anfonodd ati yn 1955, Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan, Gwynfor Evans, George Noakes, Daniel Evans, Islwyn [Ffowc Elis], W. R. P. George (2), Alan Llwyd, Hywel Teifi [Edwards] a Gwilym Humphreys. Y mae'r llythyr a ddyddiwyd yn 2003 oddi wrth Dewi [James] wedi'i gyfeirio at [R.] Brinley [Jones] ac yn ymwneud â'r grŵp o lythyrau oddi wrth Saunders Lewis.

Jones, Kitty Idwal, 1898-1984

Llythyrau G

Llythyrau, 1935-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth R. Lambert Gapper (4, yn cynnwys cerdyn Nadolig a gynlluniwyd ganddo); David Lloyd George (ynghyd â llythyr oddi wrth Frances Stevenson); Megan Lloyd George; W. R. P. George (2); Tore Gjotterberg (6); Raymond Gower (2, yn amgau llythyr gan Iain Macleod ynglŷn â Gwrthwynebwyr Cydwybodol); Kenneth Grayston; Ll. Wyn Griffith (19); Bruce Griffiths; J. Gwyn Griffiths (2); James Griffiths (5); Geraint Gruffydd (2); W. J. Gruffydd (5); Arfon Gwilym; Robin Gwyndaf; ac Eirwen Gwynn (3).

Gapper, Robert Lambert, 1897-1984