Dangos 52837 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

152 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Almanac Llanfihangel-ar-Arth (calendar),

Almanac Llanfihangel-ar-Arth, yn cynnwys / including: Côr plant / Children's choir, 1960 (Ionawr); Dosbarth Conffirmasiwn / Confirmation Class, 1930 (Chwefror); Dathlu Gwyl Dewi / Celebrating St David's Day, 1975 (Mawrth); Eglwys Sant Mihangel / St Michael's (Ebrill); Dathlu canmlwyddiant yr ysgol / Celebrating the school's centenerary, 1964 (Mai a Mehefin); Dosbarth cymorth cyntaf / First Aid Class, 1909/10 (Gorffennaf); Y trên olaf yn ymadael o orsaf Bryn Teifi / Last train leaving, 1964 (Awst); Dosbarth ysgol nos yn dathlu deng mlynedd / Evening class celebrating ten years, 1958 (Tachwedd).

Alun Einion Jones,

Bryntirion, Llanfair, Harlech. Esboniad ar yr enw Erw Gochyn ger Eglwys Llandanwg.

Alun [Llywelyn-williams], Caerdydd,

Mae'r awen wedi ailddeffro ynddo ac mae'n amgau cerdd i'r Llenor. ['Y Glöwr Diwaith', Y Llenor, cyf. XVI (1937), t. 200]. Mae rhai o fewn y BBC ac oddi allan i'r gorfforaeth yn bwriadu cyfarfod yn ystod y gaeaf i drafod pynciau o ddiddordeb mewn celfyddyd. Byddent yn hoffi cael cwmni W. J. Gruffydd. Dweud cymaint o bleser a gafodd wrth ddarllen cofiant O. M. Edwards. Cyfrol wirioneddol wych. Nodi un broblem yn y gerdd i'r Llenor. A oes angen defnyddio'r fannod o flaen 'Rhondda Fach'. Arferai feddwl fod defnyddio'r fannod o flaen enwau afonydd neu gwm, os defnyddid enw'r afon yn lle'r cwm, yn anghywir. Gwelodd T. J. Morgan yn y Llenor diwethaf yn ysgrifennu 'y Rhondda'. Mae'n hyfryd gweld adwaith R. Williams Parry at y digwyddiadau diweddaraf yng Nghymru. Byddai hynny'n rhywbeth o werth amhrisiadwy hyd yn oed os na ddaw dim lles arall o'r helynt.

Alun [Llywelyn-williams], Caerdydd,

Mae am drefnu 'Rhifyn Rhyddid' i'r Tir Newydd ym mis Tachwedd. Y syniad yw cael gwahanol ysgrifenwyr i fwrw golwg yn eu priod faes ar yr ymosod ar ryddid sydd eisoes ar gerdded drwy'r wlad. Gan fod pethau'n debyg o waethygu, yn enwedig os daw rhyfel, dylid ceisio rhyw foddion o wrthwynebu'r tueddiadau hyn yng Nghymru. Mae'r perygl yn waeth i Gymru am fod yr holl baratoadau ar gyfer rhyfel yn gwbl groes i'r hen draddodiadau ymneilltuol a radicalaidd ac yn bygwth dinistrio'r genedl yn derfynol. W. J. Gruffydd yw'r unig Gymro addas i drafod dylanwad hyn oll ar y celfyddydau cain. Pwysodd Mr Hopkin Morris arno i wahodd W.J. Gruffydd i ymgymryd â'r dasg. Awgrym y Parch. Gwilym Davies yw'r rhifyn ac y mae'n amgau llythyr ganddo sy'n egluro'r amcan ymhellach. Mae angen ysgrif o ryw ddwy fil o eiriau.

Alun [Llywelyn-williams], Llundain W.1,

Mae'n amgau darn o farddoniaeth ar gyfer Y Llenor. ['Yma'n y Meysydd Tawel', Y Llenor, cyf. XIX (1940), t. 69]. Mae arno ofn fod ei awen wedi rhydu. Dyma'r gerdd gyntaf iddo ef lwyddo i'w hysgrifennu ers oes mul. Efallai y daw rhyw ddaioni o'r rhyfel os gall ei brofocio i ddychwelyd at yr hen lwybrau.

Canlyniadau 1121 i 1140 o 52837