Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 2820 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth

Papurau rhyddion yn awr wedi eu rhwymo yn gyfrolau ydyw Evan James MSS 8-15. Yn Evan James MSS 8-11, sef y rhai sy'n cynnwys barddoniaeth Ieuan, gwelir ar gefnau rhai dalennau y nodiad 'copied to book', yn llaw Iago; Evan James MS 3 ydyw'r llyfr hwn. Ar eraill gwelir 'copied to the music book', yn llaw Iago eto; nid yw'r llyfr hwn yn y casgliad. Gwelir fod nifer o'r cerddi wedi bod trwy'r post, rhai yn llythyrau at aelodau o'i deulu, eraill i eisteddfodau. Mae ychydig o waith Tomos ab Iago yn gymysg ag eiddo ei frawd oherwydd defnyddio'r un ddalen gan y ddau; mae'n bosibl hefyd fod nifer o'r cerddi dienw, neu â ffugenwau yn unig, yn waith Tomos - tebyg iawn i'w gilydd yw'r ddwy ysgrifen. Mae peth ansicrwydd hefyd ynglyn ag awduriaeth y cerddi yn Evan James MS 10, ff. 58-65.

Personalia

Atgynhyrchiad o ‘Lampeter celebrities’ gan Matt a gyhoeddwyd yn y Sunday Graphic yn cynnwys digrifluniau o gymeriadau lleol.

Gohebiaeth

Llythyrau, 1931-1967, oddi wrth Kate Roberts at Tegla Davies, llythyrau oddi wrtho at ei fab a'r teulu, a llythyrau'n ymwneud â'i nofel Gŵr Pen y bryn.

Dyddiaduron

Dyddiaduron, 1907-1967, yn ymwneud â dyletswyddau Tegla Davies fel gweinidog yn bennaf.

Gohebiaeth

Gohebiaeth rhwng R. Tudur Jones a Gwenllian Edwards (Gwenllian Jones wedi iddynt briodi ar 19 Ebrill 1948), 1942-1980, wedi eu trefnu yn ôl blynyddoedd, ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth y naill at y llall.

Darlithiau a sgyrsiau

Darlithiau ar lenyddiaeth Gymraeg yn bennaf a nodiadau darlith ar gyfer cyrsiau o dan adain Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, [1941]-1982.

Papurau pobl eraill

Enghreifftiau o waith creadigol Mair Hughes, gwraig Mathonwy Hughes, Eurion John a Gruffudd Parry, ynghyd â'r meddyg teulu Dr Gwilym Pari Hughes, [1975]-1983.

Canlyniadau 1 i 20 o 2820