Dangos 7 canlyniad

Disgrifiad archifol
Welsh language Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Yr iaith Gymraeg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys llawysgrif ei draethawd ymchwil, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'; darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar hanes yr iaith, yr iaith lafar, gramadeg a geirfa, enwau, yr ieithoedd Celtaidd, ac addysg Gymraeg; ynghyd ag ychydig bapurau perthynol i'w waith fel aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.

Torion papur

Torion papur amrywiol, 1934-1978, y mwyafrif yn cynnwys cyfeiriadau at genedlaetholdeb, addysg Gymraeg, a chrefydd a diwylliant Cymru. Ymddengys mai torion a grynhowyd gan Elizabeth Williams yw'r rhain, ac yn eu plith mae erthyglau ganddi hi a G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg. Ceir hefyd nodiadau ar ddiwylliant, crefydd ac iaith, nifer gan ac yn llaw Elizabeth Williams.

Areithiau ac erthyglau gan Angharad Tomos

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys torion o erthyglau Angharad Tomos i Y Faner, copïau teipysgrif a rhai torion o'i cholofn olygyddol a'i cholofn fel Cadeirydd yn Nhafod y Ddraig, ynghyd â nodiadau ar gyfer rhai o'i hareithiau ac ambell erthygl amdani hi, 1979-1983.

Heb deitl

Papurau Dr John Davies,

  • GB 0210 DRJIES
  • fonds
  • 1962-1971 /

Papurau John Davies, 1962-1971, y cyfan yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r iaith Gymraeg, yn cynnwys gohebiaeth John Davies ag arweinwyr cynnar y Gymdeithas,1962-1971, yn eu mysg E. G. Millward, 1962-1965; cofnodion cyfarfodydd y Gymdeithas, 1962-1963; ffurflenni treth Cymraeg a dwyieithog, 1963-1964; amrywiol erthyglau llawysgrif a chyhoeddedig John Davies ac eraill, 1963-1968; copïau o Tafod y Ddraig, 1963-[1971]; papurau ariannol, [1960s]; a chardiau, taflenni a phamffledi, [1960au] = Papers of John Davies, 1962-1971, all relating to Cymdeithas yr Iaith Gymraeg and the Welsh language, including correspondence of John Davies with early leaders of the Society, 1962-1971, including E. G. Millward, 1962-1965; minutes of Society meetings, 1962-1963; Welsh and bilingual tax forms, 1963-1964; various manuscript and published articles by John Davies and others, 1963-1968; copies of Tafod y Ddraig, 1963-[1971]; financial papers, [1960s]; and cards, leaflets and pamphlets, [1960s].

Davies, John, 1938-

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1915-1977, at Elizabeth Williams, nifer yn ymwneud â G. J. Williams a chyhoeddi ei waith; capel Bethesda'r Fro; dyfodol yr iaith Gymraeg; Undeb Cymru Fydd a Phlaid Cymru. Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Glyn Ashton, Rachel Bromwich (2), D. Simon Evans (4), Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Rachel Ellenborough (21, ynghyd â pheth o'i gwaith dan yr enw Rachel Law, a gwybodaeth yngŷn ag achau'r teulu (Iolo Morganwg)), Gwynfor Evans (2), Raymond Gower, Bedwyr Lewis Jones (2), Bobi Jones (2), D. Gwenallt Jones (3; ac 1 oddi wrth Nel Gwenallt ar farwolaeth ei gŵr), E. D. Jones (6), Ceri Lewis, Saunders Lewis (3; un oddi wrtho at ei wraig, Margaret, pan oedd yn y carchar; a 3 oddi wrth Margaret at Elizabeth Williams; ac 1 llythyr, 1931, at Saunders Lewis oddi wrth J. Alun Pugh), Timothy Lewis (2), T. J. Morgan, Rhys Nicholas, Iorwerth Peate, Eurys Rowlands, R. J. Thomas (6), a D. J. Williams (6).