Showing 42 results

Archival description
With digital objects Welsh
Print preview View:

Llyfr ysgrifennu ar ffurf dyddiadur y bu TGJ yn ei gadw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Awst 1914-Rhagfyr 1917) ...,

Llyfr ysgrifennu ar ffurf dyddiadur y bu TGJ yn ei gadw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Awst 1914-Rhagfyr 1917). Yr oedd wedi ysgrifennu'r teitl 'The Diary of a Pacifist' ond wedi'i ddileu. Ceir y pennawd 'War Fever' i'r cofnod cyntaf. Ym mis Gorffennaf 1934 ychwanegodd ragymadrodd. [gweler David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant, tt. 241-2]. Saesneg/English.

Llythyrau : Rhyfel Byd Cyntaf,

  • NLW ex 2394.
  • file
  • 1917-1918.

Llythyrau, 1917-1918, oddi wrth Owen Thomas o'r Aifft a Phalesteina, ac oddi wrth ei frawd Tom o Ffrainc at eu brawd a'u chwaer ym Modorgan, Môn, pan oeddynt yn filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Llythyr oddi wrth Kate [Roberts] at H[ughie] E. Williams, yn Ffrainc,

Llythyr a ddychwelwyd "Present Location Uncertain". Ni fu yn Llanberis yn ystod gwyliau'r Nadolig. Cafodd annwyd wrth deithio adre ar hyd reilffordd y Cambrian. Posibilrwydd ei bod am symud o Ystalyfera i ysgol ym Merthyr Tudful. Mae'n ddigalon oherwydd bod ei brawd ieuengaf sy'n ddeunaw oed ar ei ffordd i Salonica ac nid yw yn gryf iawn. Mae ei brawd arall adref ar ôl cael shrapnel yn ei ysgyfaint. Bydd yn meddwl llawer amdano yn yr oerni.

Llyfr Melyn Tyfrydog

  • NLW MS 23969F.
  • File
  • 1763-1769

Cyfrol o achau, cerddi a nodion hynafiaethol, dyddiedig 1766 (ond a luniwyd tua 1763-1769), yn llaw Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), ac sy'n dwyn y teitl 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (t. xxv). Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40. = A volume of pedigrees, poems and antiquarian notes, dated 1766 (but compiled around 1763-1769), in the hand of Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), and entitled 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (p. xxv). Pedigrees of the descendants of the Fifteen Tribes of North Wales, mostly Anglesey families, fill the first part of the volume (pp. 1-91; the families are listed on pp. xxvii-xxix). The coloured arms of the family of Llwydiarth Esgob are appended to the pedigree of Hugh Hughes himself (p. 40).
Cynhwysa'r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol (t. 97 passim), trioedd a chynghorion (tt. 107-110, 116-119), ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg (t. xiii passim), rhai wedi eu copïo o 'Delyn Ledr' William Morris, Caergybi (bellach BL Add. MS 14873) (tt. xvi, 119), ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (t. 182). Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (t. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (t. 269), Hugh Hughes (tt. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (t. 235), a Goronwy Owen (t. 263). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol mewn dwylo diweddarach, hyd oddeutu 1858 (t. 50). Am restr o gynnwys y gyfrol, yn llaw Hugh Hughes, gweler t. xvii. = The volume also contains antiquarian notes (p. 97 passim), triads and wisdom (pp. 107-110, 116-119), together with a great number of Welsh poems (p. xiii passim), some copied from the 'Telyn Ledr' of William Morris of Holyhead (now BL Add. MS 14873) (pp. xvi, 119), and others from Evan Evans' Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (p. 182). Amongst contemporary poems in the manuscript are compositions by David Ellis (p. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (p. 269), Hugh Hughes (pp. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (p. 235), and Goronwy Owen (p. 263). Antiquarian notes of a later period were added to the manuscript, until c. 1858 (p. 50). For a list of the volume's contents, in the hand of Hugh Hughes, see p. xvii.

Hughes, Hugh, 1693-1776

J. Jones (Ioan Gwynant),

Bryntirion, Llanberis. Anfon ychydig ddalennau allan o ddyddlyfr ei ddiweddar fab, Hugh J. Jones, a ysgrifennodd yn Nwyrain Affrica adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir dau bennill o'i eiddo ac un o eiddo Ioan Gwynant.

Llythyr oddi wrth J. R. T. [John Richard Williams, 'Tryfanwy'], ym Mhorthmadog,

Diolch am dâl am ysgrifennu cân goffa i David, brawd KR. Rhoi llais i hiraeth y teulu oedd ei ddymuniad, nid oedd yn disgwyl tâl. Mae'n amgau amrywiad ar y pennill olaf gan hyderu nad yw hi'n rhy hwyr o safbwynt yr argraffwyr. Mae'n falch o ddeall bod KR yn hapus yn Aberdâr. Cynhwysir englyn i KR ganddo ar gefn y llythyr. Cedwir fersiwn argraffedig o'r gerdd goffa yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau rhif 600. Cyhoeddwyd llun o'r gerdd ac ymdriniaeth â'r cefndir yn Dafydd Ifans, "Kate Roberts - Bardd?", Barddas 111/112 (Gorffennaf/Awst 1986), tt 17-18.

Llyfr Tonau Iago ap Ieuan

Llyfr Tonau Iago ap Ieuan. Ceir disgrifiad o gynnwys y gyfrol hon yn Percy A. Scholes, 'Hen Wlad Fy Nhadau', yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 3.1-2 (1943), 1-10 (tt. 1-3). Ceir sgôr gwreiddiol Hen Wlad fy Nhadau ar f. 41 verso.

Results 1 to 20 of 42