Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 1388 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Nodiadau prifysgol Waldo Williams

Llyfrau nodiadau yn llaw Waldo Williams a ddefnyddwyd ganddo tra bu'n astudio yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg ym 1926. Cynhwysa'r cyfrolau yn bennaf nodiadau ar weithiau Shakespeare ac ar lenyddiaeth Llychlynaidd.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1852, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno, yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55), yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith ysgrifennu a golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1852, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 3-55), recording sermons preached, other engagements, writing and editing work and names of correspondents.
Mae llythyrau oddiwrth S.R. at Thomas Gee (drafft), [12] Medi 1853, ac oddiwrth Evan Jones, Dolgellau, at S.R., 16 Tachwedd 1852 (Cymraeg), wedi eu tipio mewn ar ddiwedd y gyfrol. = Letters from S.R. to Thomas Gee (draft), [12] September 1853, and from Evan Jones, Dolgellau, to S.R., 16 November 1852 (in Welsh), have been tipped in at the end.

Llythyrau amrywiol,

Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd (1); E. Morgan Humphreys (1); Rhiannon Davies Jones (1); John Lloyd, ei dad (1); Thomas Parry (2); Iorwerth Peate (2); Goronwy Roberts (1); David Thomas (Lleufer); a G. J. Williams (1).

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Argraffiad arbennig ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’ a teyrnged i E.D. Jones

Rhestr o gyfraniadau ariannol i argraffiad arbennig arfaethedig o lyfr E.D. Jones ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’, [1984]; copïau o dorion o’r wasg, a chopi o gylchlythyr ‘Yr Angor’, 1987, yn cofio E.D. Jones, cyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod yr argraffiad arbennig, 1983-1984, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; B.G. Owens; J. E. Caerwyn Williams; Richard Owen; David Jenkins; Mary Llewelfryn Davies; Andrew Hawke; Siân Teifi a Martin Davies; Ceridwen Lloyd-Morgan; Rheinallt Llwyd; Mary Burdett-Jones; Telfryn Pritchard; Mati Rees; Walford Davies; D. Phillips; ac R. Geraint Gruffydd.

Llythyrau

Llythyrau, 1913, at J. T. Rees, wedi'u pastio i lyfr ysgrifennu. Mae'r llythyrau o bosibl yn ymwneud â'r 'Perorydd yr Ysgol Sul' a gyhoeddwyd yn Llyfrfa'r Cyfundeb, Caernarfon yn 1915, o dan olygiaeth J. T. Rees.

Llawysgrif

Llawysgrifau cerddoriaeth o emynau a thonau yn llaw J. T. Rees, yn ddalennau rhydd a llyfrau nodiadau, gan gynnwys traethawd ar Yr Athro David Jenkins, Aberystwyth yn un o'r llyfrau nodiadau.

Beibl teuluol

Beibl teuluol J. T. ac Elizabeth Rees, Bronceiro, yn cynnwys cofnodion achyddol. Y cofnod olaf a nodwyd yw marwolaeth Ceredig Phillips Rhys yn 2015.

Capel y Garn

Papurau a chofnodion Capel Y Garn (MC), Bow Street, Ceredigion, yn cynnwys cyfrifon casgliad at gronfa adnewyddu Capel Y Garn, 1900; papurau parthed Sasiwn Haf a gynhaliwyd yn Y Garn, 1905, yn cynnwys cofnodion y pwyllgor lleol; rhaglenni cymanfaoedd canu Undeb Cerddorol Dosbarth Y Garn, 1910-1926 (gyda bylchau) a chymanfa'r canmlwyddiant, 1972; rhaglenni cyfarfodydd y Nadolig, 1940au-1960au; cyfrifon yr Ysgol Sul, 1963-1969; llyfr nodiadau ar gymanfaoedd canu'r plant, yn llaw J. T. Rees; a chopïau o 'Trem yn Ôl' o waith T. Ifor Rees. Bu J. T. Rees a T. Ifor Rees yn aelodau a swyddogion yng Nghapel Y Garn, gyda J. T. Rees yn flaenor, arweinydd y gân, trysorydd, trefnwr cyhoeddiadau ac yn ymddiriedolwr; a T. Ifor Rees yn drysorydd, ac athro a thrysorydd Ysgol Sul Y Garn.

Morfudd Rhys Clark

Casgliad bychan o bapurau Morfudd Rhys (Morfudd Rhys Clark ar ôl iddi briodi). Fe'i ganed yn 1920, yr hynaf o blant T. Ifor ac Elizabeth Rees, a threuliodd rywfaint o amser yn Bolifia yn cynorthwyo ei thad yn ei waith, yn dilyn ei benodiad cyntaf yno yn 1943. Mae'r casgliad yn cynnwys adroddiadau ysgol Morfudd, 1932-1938, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams yn Nolgellau; dyddlyfr ar gyfer taith Ysgol Dr Williams i'r Eidal, 1938; wyth dyddiadur poced ar gyfer 1941-1948; llyfryn yr ysgrifennodd, yn dwyn y teitl "Evocaciones Bolivianas" a chyflwynodd i'w thad yn 1946; dyddlyfr ar gyfer 1947 (wedi'i ysgrifennu gan ddefnyddio dyddiadur ar gyfer y flwyddyn 1945); tystysgrifau; a llythyrau wedi'u cyfeirio ati, 1935-2004. Bu farw Morfudd Rhys Clark yn 2015, a thrwy ei merch, Gwenan, y cyflwynwyd yr archif hon o bapurau T. Ifor Rees a'i dad, J. T. Rees i'r Llyfrgell yn 2016, ac ychwanegiad yn 2018 [gweler disgrifiad lefel Fonds am fanylion pellach].

Bronceiro

Gweithredoedd eiddo a phapurau ystâd Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Gellir olrhain cysylltiadau'r teulu Rees gyda Bronceiro pan briododd J. T. Rees gydag Elizabeth Davies, merch Bronceiro. Daeth y cysylltiadau teuluol i ben pan werthwyd y cartref yn 2017.

Canlyniadau 1 i 20 o 1388