Showing 674 results

Archival description
Only top-level descriptions Welsh
Print preview View:

3 results with digital objects Show results with digital objects

Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • GB 0210 UWCHEFRYD
  • Fonds
  • [1921x1930], a 1970-2017

Gohebiaeth a phapurau, [1921x1930]; 1970-2017, yn ymwneud â sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gweithgareddau'r Ganolfan, ac adran cyntaf Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn cynnwys papurau gweinyddol a gohebiaeth gysylltiedig; yn cynnwys llythyrau oddi wrth staff a myfyrwyr y Ganolfan a phrifysgolion a sefydliadau academaidd eraill. Mae’r cofnodion yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a chyrff gweinyddol y Ganolfan, a phapurau cysylltiedig, 1977-2017; papurau yn ymwneud â gweithgareddau’r Ganolfan a’i staff, yn cynnwys digwyddiadau, 1974-1994, a gwaith ymchwil a pharatoi cyhoeddiadau, 1980-1993; papurau ariannol, 1972-1991, yn cynnwys papurau yn ymwneud â chodi arian ac Apêl Syr Thomas Parry-Williams, ysgoloriaethau, a cheisiadau am grantiau mewnol ac allanol; a chofnodion yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921]-1993, yn cynnwys rhai cofnodion yr Adran Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, agoriad swyddogol y Ganolfan, cartrefi’r Ganolfan, materion staffio, a datblygiad Llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Cofnodion Bwrdd Ysgol Llanaelhaiarn,

  • NLW MS 16551D.
  • file
  • 1877-1896.

Llyfr cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Ysgol Llanaelhaiarn [Llanaelhaearn], sir Gaernarfon, Gorffennaf 1877-Mehefin 1896. = Minute book recording meetings of Llanaelhaiarn [Llanaelhaearn] School Board, Caernarvonshire, July 1877-June 1896.

Bwrdd Ysgol Llanaelhaiarn (Llanaelhaearn, Wales)

Cofiant Thomas Edward Ellis, Cyfrol I

  • NLW MS 16362C.
  • file
  • [?1942]-[1944]

Llawysgrif, wedi ei baratoi ar gyfer y wasg, o fywgraffiad T. I. Ellis o'i dad, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Lerpwl, 1944). = Manuscript, prepared for the press, of T. I. Ellis's biography of his father, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Liverpool, 1944).
Ysgrifennwyd y llawysgrif yn bennaf ar ddalennau rhydd o lyfrau ateb arholiadau. Mae cywiriadau, arnodiadau a throednodiadau wedi eu hychwanegu mewn pensil; mae nifer o frawddegau a rhai paragraffau wedi eu dileu, yn arbennig ar ff. 2, 19, 213 a 223, ac mae newidiadau ac ychwanegiadau sylweddol wedi eu darparu ar ddalennau ychwanegol. Mae'r newidiadau yma wedi eu hymgorffori yn y fersiwn cyhoeddedig. = The manuscript is written mostly on loose leaves from exam answer books. Corrections, annotations and footnotes have been added in pencil; several sentences and some whole paragraphs have been deleted, in particular on ff. 2, 19, 213 and 223, with major alterations and additions supplied on additional leaves. These alterations are incorporated in the published version.

Ellis, T. I. (Thomas Iorwerth), 1899-1970

Cob200,

  • NLW ex 2749.
  • file
  • 2010-2011.

Papurau amrywiol, 2010-2011, yn ymwneud â'r digwyddiadau a drefnwyd i ddathlu daucanmlwyddiant y Cob, Porthmadog (1811-2011), 2011. = Various papers, 2010-2011, relating to the events held to celebrate the bicentenary of the Cob (1811-2011), Porthmadog.

CMA: Cofysgrifau Moriah, Llanbedr

  • GB 0210 MORLLA
  • fonds
  • 1914-1927

Mae'r fonds yn cynnwys llyfr cyfrifon Capel Moriah, Llanbedr, sir Feirionnydd, yn cofnodi cyfraniadau, 1914-1927, at y gost o adeiladu'r capel newydd.

Moriah (Church : Llanbedr, Merioneth, Wales).

CMA: Cofysgrifau Henaduriaeth Fflint,

  • CMA: Henaduriaeth Fflint.
  • fonds
  • 1948-2005.

Cofnodion Henaduriaeth Fflint, 1948-2005, ynghyd â Llawlyfr Cyfarfod Misol Methodistiaid Calfinaidd Sir Fflint (1923), yn cynnwys rhestr o'r Ysgrifenyddion. = Minutes of the Flint Presbytery, 1948-2005, together with a copy of Llawlyfr Cyfarfod Misol Methodistiaid Calfinaidd Sir Fflint (1923), which includes a list of Secretaries.

CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Porthmadog

  • GB 0210 TABPOR
  • fonds
  • 1860-1985

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion ariannol, cofnodion gweithgareddau diwylliannol a chofnodion gweinyddol Capel y Tabernacl, Porthmadog. Ceir llyfr cyfrifon, 1860-1917, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1927-1937, llyfrau derbyniadau a thaliadau, 1968-1985, rhaglenni ac anerchiadau Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl, 1884-[1923], llyfrau cofnodion cyfarfodydd y blaenoriaid, 1891-1935, llyfr cofnodion Pwyllgor y Chwiorydd a hanes yr Eglwys, 1862-1891, yn eu plith.

Cofysgrifau ychwanegol yn perthyn i'r capel, yn cynnwys llyfr casgliadau, 1955-1967; dwy gyfrol yr Ysgrifennydd, 1964-1971 a 1972-1981; a tudalen yn nodi cynnwys llyfrgell y capel, 1946-1968 a 1975.

Eglwys y Tabernacl (Porthmadog, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog,

  • GB 0210 TABFFE
  • fonds
  • 1850-1979 /

Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, gan gynnwys cyfrifon, 1862-1978, cofnodion cyfarfodydd eglwysig, 1850-1979, papurau a chynlluniau, 1898-1978, yn ymwneud â'r adeilad, ystadegau blynyddol, 1906-1978, a chofrestri bedyddiadau, 1864-1950; ynghyd â chofnodion yr Ysgol Sul, 1887-1941.

Tabernacl (Church : Blaenau Ffestiniog, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Tarsis/Penrhydlyniog, Pwllheli,

  • GB 0210 TARSIS
  • fonds
  • 1862-1869 /

Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Tarsis/Penrhydlyniog, Pwllheli, gan gynnwys llyfr casgliadau misol y Brodyr, 1862-1868; a llyfr casgliadau misol y Chwiorydd, 1862-1868, sy'n cynnwys casgliad y Tlodion a manylion eraill yn ymwneud â'r aelodau.

Eglwys Tarsis (Pwllheli, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Tabernacl, Blaengarw,

  • GB 0210 TABACL
  • fonds
  • 1924-2001 /

Y mae'r archif yn cynnwys cofnodion pwyllgorau Eglwys Tabernacl, Blaengarw, 1925-1977, ynghyd â chyfrifon ariannol, 1924-1981, llyfrau casgliadau ariannol, 1945-1992, a llyfrau'r eisteddleoedd, 1925-2001.

Eglwys Tabernacl (Blaengarw, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Siloh, Rhydymain,

  • GB 0210 SILRHY
  • fonds
  • 1972-2004 /

Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Siloh, Bryncoedifor, Rhydymain, Meirionnydd, gan gynnwys llyfr cyfrifon, 1972-1984; a llyfr cofnodion cyfarfodydd, 1972-2004, sydd hefyd yn cynnwys manylion am fedyddiadau a llyfryn hanes yr achos, 1874-1974.

Eglwys Siloh (Rhydymain, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Siloam, Llanfrothen,

  • GB 0210 SILLANF
  • fonds
  • 1862, 1886-1915, 1939-1993.

Cofysgrifau Eglwys Siloam (MC), Llanfrothen, Sir Feirionnydd, gan gynnwys llyfrau cofnodion cyfarfodydd y capel a'r pwyllgor adeiladu, 1886-1915, 1939-1993; llyfrau cyfrifon casgliad y Weinidogaeth, 1955-1985, a llyfr y Trysorydd, 1962-1988, ynghyd â thrwydded priodas, 1862, ystadegau'r capel, 1969-1992, a llyfryn yn cynnwys hanes y capel rhwng 1866 a 1966. = Records of Siloam Calvinistic Methodist Church, Llanfrothen, Merionethshire, including minute books of chapel meetings and the building committee, 1886-1915, 1939-1993; ministry collection books, 1955-1985, and treasurer's book, 1962-1988; together with a marriage licence, 1862, chapel statistics, 1969-1992, and a volume including the history of the chapel between 1866 and 1966.

Eglwys Siloam (Llanfrothen, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Salem, Pwllheli,

  • GB 0210 SALPWLL
  • fonds
  • 1910-1987 /

Cofysgrifau Eglwys Salem, Deneio, Pwllheli, yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1910-1977; llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1927-1975; cofnodion gweinyddol, 1915-1987; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1913-1939.

Salem (Church : Pwllheli, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus

  • GB 0210 PHITRE
  • fonds
  • 1859-2006

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus, yn ymwneud ag ochr weinyddol y capel, materion ariannol a'r Ysgol Sul. Ceir yn eu plith cofrestri bedyddiadau, 1859-1990, cofrestri aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd, 1899-1914, llyfr cyhoeddiadau pregethwyr, 1889-1933, llyfr cofnodion eglwysig, 1899-1950, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1905-2002, llyfrau cyfrifon, 1917-2003, llyfr yr eisteddleoedd, 1913-1939 a chofrestri'r Ysgol Sul, [1881]-1952, ynghyd â thaflenni ystadegol, 1969-2002, llythyrau'n ymwneud ag ymdrechion i gyllido'r gwaith atgyweirio ar yr adeilad, 1991-1995, adroddiad pensaernïol, 1996, ar gyflwr yr eglwys, a nodiadau ymchwil, [2002], am hanes yr achos.

Eglwys Philadelphia (Morriston, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Pensarn, Llandysiliogogo

  • GB 0210 PENLLA
  • fonds
  • 1813-1966

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1813-1959, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1863-1966, a llyfr y trysorydd, 1911-1966.

Eglwys Pensarn (Llandysiliogogo, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Nazareth, Pentre,

  • GB 0210 NAZRHON
  • fonds
  • 1882-1969 /

Llyfrau’r weinidogaeth, 1888-1944; llyfrau cyfrifon, 1882-1946; llyfrau'r eisteddleoedd, 1886-[1930]; cofnodion gweinyddol, 1898-1969; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1875-[1915].

Nazareth (Church : Pentre, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Nazareth, Aberdâr,

  • GB 0210 NAZDAR
  • fonds
  • 1861-1960 /

Cofysgrifau Eglwys Nazareth, Aberdâr, yn cynnwys cofnodion ariannol yr Eglwys, 1900-1952, cyfrifon yr Ysgol Sul, 1891-1918, cofrestr bedyddiadau, 1861-1862, a rhaglen gwasanaeth dathlu canmlwyddiant yr Eglwys, 1960.

Nazareth (Church : Aberdare, Wales)

Results 521 to 540 of 674