Bryntirion, Llanberis. Anfon ychydig ddalennau allan o ddyddlyfr ei ddiweddar fab, Hugh J. Jones, a ysgrifennodd yn Nwyrain Affrica adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir dau bennill o'i eiddo ac un o eiddo Ioan Gwynant.
Awdl: 'Yr Arwr' gan 'Fleur-de-lis' (Ellis Evans, 'Hedd Wyn', Trawsfynydd) ynghyd â beirniadaethau T. Gwynn Jones, 'Dyfed' (teipysgrif) a J. J. Williams [rhif 1 yn y Rhestr Testunau].
Llyfr Tonau Iago ap Ieuan. Ceir disgrifiad o gynnwys y gyfrol hon yn Percy A. Scholes, 'Hen Wlad Fy Nhadau', yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 3.1-2 (1943), 1-10 (tt. 1-3). Ceir sgôr gwreiddiol Hen Wlad fy Nhadau ar f. 41 verso.
Darnau amrywiol; llythyrau heb ddyddiad a darnau o lythyrau [A/219-24], cyfres o gardiau post [A/225-37], ynghyd â cherddi [A/238-43] ac amlenni gwag [A/244-8].
Diolch am lythyr. Ymddiheuro am ysgrifennu yn Saesneg - nid yw'r sensor yn deall Cymraeg. Maent yn cysgodi mewn hen gwt drafftiog rywle yn Fflandrys ar wely gwellt. Cawsant rai dyddiau o orffwys o'r ffosydd. Mae'n deall bod brawd Kate Roberts drosodd yno yn y rhyfel. Disgrifio'r awch am dderbyn llythyrau. Saesneg/English.
Cafodd ei glwyfo yn ei ben gan ergyd Almaenig. Nid oes angen iddi boeni na all ysgrifennu'n aml. Mae'n derbyn ei chynnig i anfon ychydig sigarets ato. Saesneg/English.
Diolch am barsel. Cyrhaeddodd y cynnwys heb dorri o gwbl. Da ganddo wybod bod Evan yn gwella. Cyfeiriadau at gydnabod. Bydd yn dychwelyd i'r ffosydd gyda hyn. Mae'n deall bod gweddïo ar eu rhan yn Rhosgadfan a Bootle.
Llythyr a ddychwelwyd "Present Location Uncertain". Ni fu yn Llanberis yn ystod gwyliau'r Nadolig. Cafodd annwyd wrth deithio adre ar hyd reilffordd y Cambrian. Posibilrwydd ei bod am symud o Ystalyfera i ysgol ym Merthyr Tudful. Mae'n ddigalon oherwydd bod ei brawd ieuengaf sy'n ddeunaw oed ar ei ffordd i Salonica ac nid yw yn gryf iawn. Mae ei brawd arall adref ar ôl cael shrapnel yn ei ysgyfaint. Bydd yn meddwl llawer amdano yn yr oerni.
Cydymdeimlad ar farwolaeth David, brawd Kate Roberts. Penillion o waith ei dad ar yr achlysur hwnnw. Mae'n ddrwg ganddo fod KR yn gadael Ystalyfera. Mae'n nodi ei ddyled iddi ynglyn ag astudio'r Gymraeg. Dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd. Gofyn iddi ysgrifennu hen amser gorberffaith "myned" gan nad yw'n cael ei gynnwys yn y llyfr gramadeg. Cyhoeddwyd llun o'r llythyr hwn yn y gyfrol Bro a Bywyd - Kate Roberts (gol Derec Llwyd Morgan ([Caerdydd], 1981), t 24.
Gwelodd hanes marwolaeth David, brawd KR, yn Y Genedl. Mae'n cydymdeimlo â'r teulu yn eu colled. Llongyfarch KR hefyd ar ei dyrchafiad [sef ei phenodi ar staff Ysgol Sir y Merched, Aberdâr].