Print preview Close

Showing 51 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Wales Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Llyfr Tonau William Jenkins,

  • NLW MS 23995A.
  • file
  • [1818]-1852.

Llyfr tonau William Jenkins, Blaenbarthen, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, a enwir fel saer maen 50 oed yng Nghyfrifiad 1851. Cynhwysa'r gyfrol donau, a rhai anthemau, a nodwyd gan Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106), a William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), rai ohonynt yn dwyn geiriau. Rhwymwyd yn y gyfrol hefyd hyfforddwr cerddorol Saesneg printiedig o 32 tt., [1818x1820], yn dwyn y teitl 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33). = The tune-book of William Jenkins, Blaenbarthen, parish of Llangoedmor, Cardiganshire, who is named as a 50 year old mason in the Census of 1851. The volume contains hymn-tunes, and some anthems, noted by Thomas John, 1820-1825 (ff. 39-106) and William Jenkins, 1824-1852 (ff. 57-255), some accompanied by texts. Bound in the volume is a 32 pp. English printed musical instruction manual, [1818x1820], entitled 'The Vocal Preceptor' (ff. 17-33).
Nodir dyddiad wrth gofnodi mwyafrif y tonau, ac ychwanegwyd manylion ffynhonnell yn achlysurol, gan gynnwys y Parch. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), ynghyd â rhai priodoliadau (ff. 56, 72, 162). Ceir mynegai i'r tonau ar ff. 1-12. = Accompanying dates are noted with the majority of tunes, and sources are occasionally noted, including the Revd. Daniel Davies, 1830-1832 (ff. 135, 148, 159-60, 163), together with some attributions (ff. 56, 72, 162). There is an index to the tunes on ff. 1-12.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16203iiA.
  • file
  • [1851x1858].

Llyfr tonau, [1851x1858], o eiddo Edward Davies, Bryn Morfydd, Y Rhyl, yn cynnwys anthemau a salm-donau yn bennaf. = Tune book, [1851x1858], belonging to Edward Davies, Bryn Morfydd, Rhyl, containing mainly anthems and psalm-tunes.

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Papurau Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed Papers,

  • NLW ex 2753.
  • file
  • 1998-2011.

Deunydd hyrwyddo, rhaglenni a phapurau eraill, 1998-2011, yn ymwneud â chystadleuaeth Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed a drefnir gan Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed. = Advertising material, programmes and other papers relating to the Young Composer of Dyfed competition organised by Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed.

Papurau Cymdeithas Telynau Cymru,

  • GB 0210 CYMTEL
  • fonds
  • 1961-1987 /

Papurau Cymdeithas Telynau Cymru, 1961-1987, yn cynnwys cofnodion y pwyllgor gwaith, 1963=1982; cofnodion pwyllgor Gweithdy'r Delyn, 1961-1983; rhestri aelodaeth, 1967-1981; adroddiadau blynyddol,1967-1980; papurau ariannol, 1966-1983; gohebiaeth gyffredinol,1968=1981, a gohebiaeth ynglŷn â diddymu'r Gymdeithas, 1981-1987, a lluniau o Rali Byd y Delyn, 1977 = Papers of Cymdeithas Telynau Cymru, 1961-1987, including executive committee minutes, 1963-1982; Harp Workshop committee minutes, 1961-1963; membership lists, 1967-1981; annual reports, 1967-1980; financial papers, 1966-1983; general correspondence, 1968-1981, and correspondence concerning the dissolution of the society, 1981-1987; and pictures from Rali Byd y Delyn, 1977.

Cymdeithas Telynau Cymru

Papurau Gwyl Fawr Aberteifi,

  • GB 0210 GWYIFI
  • fonds
  • 1905, 1912, 1952-1990 (crynhowyd 1952-1990) /

Llyfrau cofnodion y Pwyllgor Gwaith a'r Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, 1952-1984; amrywiol lyfrau nodiadau a chofrestri yn ymwneud â phwyllgorau a chystadleuwyr yr eisteddfod, 1955-1990; llythyrau a dderbyniwyd gan O.M.Owen, yn bennaf oddi wrth Syr David James ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, 1958-1990; copïau carbon o lythyrau a anfonwyd ganddo,1955-1990; torion o'r wasg, 1954-1988; deunydd printiedig yn cynnwys rhestri cystadlaethau, rhaglenni'r eisteddfod a Pigion Eisteddfod Aberteifi, 1953-1990; lluniau,1905-1976; a phosteri, 1953-1990 = Minute books of the Executive Committee and Annual General Meetings, 1952-1984; various notebooks and registers relating to committees and to eisteddfod competitors, 1955-1990; letters received by O. M. Owen, mainly from Sir David James concerning the Pantyfedwen Trust, 1958-1990; carbon copies of letters sent by him, 1955-1990; press cuttings, 1954-1988; printed material including competition lists, eisteddfod programmes and Pigion Eisteddfod Aberteifi, 1953-1990; photographs, 1905-1976; and posters, 1953-1990.

Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi; Gwyl Fawr Aberteifi..

Papurau Lilian Rees,

  • GB 0210 LILIANREES
  • fonds
  • [1920au]-1996 /

Papurau llenyddol Lilian Rees, llyfrau nodiadau yn bennaf yn cynnwys cyfansoddiadau gan gynnwys Llyfr Eiry a rhyddiaith a barddoniaeth a gyfrannwyd i gyfnodolion ac eisteddfodau, ynghyd ag atgofion personol,[1920au]-1996 = Literary papers of Lilian Rees, mainly notebooks containing compositions including Llyfr Eiry and prose and poetry written for periodicals and eisteddfodau, together with personal memoirs, [1920s]-1996.

Rees, Lilian.

Papurau Richard Hughes ( 'Co Bach'),

  • NLW ex 2504.
  • file
  • [1948]-2002.

Sgriptiau dramâu'r BBC, c. 1948-1963, y bu Richard Hughes, awdur adroddiadau a sgriptiau doniol, yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys y sgriptiau radio 'Llywelyn Fawr', 1951, 'Gŵr Pen y Bryn', 1952, a 'Traed mewn cyffion, 1953, a sgript deledu, 1963, ynghyd â darnau a luniwyd ganddo yn iaith y Cofi (gweler Gruffudd Parry, Co Bach a Hen Fodan a Wil (Llanrwst, 2002)).

Hughes, Richard, Co Bach, 1905-1997.

Papurau William Rowland,

  • GB 0210 WILAND
  • fonds
  • 1910-1980 /

Papurau William Rowland (1910-1980,yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg a chaneuon gwerin ar gyfer amrywiol sgyrsiau a darlithoedd,[1960au]; sgriptiau radio a nodiadau cysylltiedig, 1937-1950; llythyrau,1919-1980; papurau personol, yn cynnwys cytundebau hawlfraint,1910-1955; rhaglenni a thaflenni,1930-1980; a chyfnodolion a thorion papur newydd, 1932-1980 = Papers of William Rowland, 1910-1980, including notes on Welsh literature and folk songs and notes for various talks and lectures, [1960s]; radio scripts and accompanying notes, 1937-1950; letters, 1919-1980; personal papers, including copyright agreements, 1910-1955; programmes and leaflets, 1930-1980; and periodicals and newspaper cuttings, 1932-1980.

Rowland, William, 1887-1979

Papurau Ymchwil Dylan Phillips,

  • GB 0210 DYLPHILLIPS
  • fonds
  • 1960-1995 (crynhowyd [c. 1993]-1995) /

Papurau, 1960-1995, yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gasglwyd gan Dylan Phillips, gan gynnwys papurau Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, ac Ann Ffrancon,1967-1984, sydd yn ymwneud yn arbennig â'r 1960au a'r 1970au, ac yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, ynghyd â deunydd yn ymwneud ag ymgyrchoedd yn Gymdeithas ac ychydig bapurau gweinyddol = Papers, 1960-1995, collected by Dylan Phillips relating to Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, comprising papers of Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, and Ann Ffrancon, 1967-1984, relating especially to the 1960s and 1970s, and consisting mainly of correspondence, together with material relating to the Society's campaigns and some administrative papers.

Papurau ymchwil ychwanegol Dylan Phillips, yn cynnwys gohebiaeth, papurau swyddogol a thorion o'r wasg, 1983-1992, wedi eu crynhoi gan Mr John Phillips. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Phillips, Dylan.

Papurau Ymgyrch Ysgol Gymraeg Penmaenmawr,

  • GB 0210 YSGOLPEN
  • fonds
  • 1964-1968 /

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr,1964-1968, yn ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg a'r ymgyrch dros ysgol gynradd Gymraeg, yn cynnwys cofnodion,1964-1968, copi o'r cyfansoddiad, gohebiaeth gyffredinol,1964-1967, a gohebiaeth gyda'r awdurdod lleol, sefydliadau rhieni ac athrawon Cymru, ac Aelodau Seneddol, 1964-1967 = Papers of the Penmaenmawr Welsh Primary School Campaign Committee, 1964-1968, relating to the establishment of a Welsh nursery school and the campaign for a Welsh primary school, comprising minutes, 1964-1968, a copy of the constitution, general correspondence, 1964-1967, and correspondence with the local authority, Welsh parents' and teachers' organisations, and Members of Parliament, 1964-1967.

Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaenmawr.

Results 21 to 40 of 51