Showing 1388 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cân y Tylwyth Teg,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Cân y Tylwyth Teg', gyda 'trawsgyweiriad i'r Llywydd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Morien Phillips. Rhan-gân i leisiau merched (S.S.A.).

Caneuon gwerin (i-iv)

Mae’r ffeil yn cynnwys pedwar bocs mynegai Phyllis Kinney (2 goch a 2 lwyd) wedi eu trefnu A-E (ff.1-371), F-M (ff. 372-742), N-W (ff. 743-972), Y (ff. 973-1229). Maent yn nodi teitl, llinell gyntaf, enw lle, a’r ffynonellau lle cafwyd y caneuon (ceir allwedd i’r byrfoddau ar ddechrau bocs 1).

Canmlwyddiant geni Waldo Williams

Gohebiaeth oddi wrth Anna Williams at Albert ac Isobel Lewis yn ymwneud â threfniadau canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004, sy'n cynnwys manylion am ddigwyddiadau yn Llandysilio, Sir Benfro a chyfeiriadau at aelodau o deulu Waldo. Magwyd Albert Lewis ar aelwyd Rhosaeron, cartref teuluol Waldo, a bu'n was priodas i Waldo.

Gohebiaeth at Dafydd (David/Dai) Williams, nai Waldo Williams (gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), yn amgau manylion ynghylch y digwyddiadau canmlwyddiant yn Llandysilio, sy'n cynnwys rhestr o aelodau o deulu Waldo ac eraill a fyddai'n bresennol a/neu'n cymeryd rhan.

Atgofion am Waldo Williams gan Wynn Vittle, sy'n cynnwys cyfeiriad at Dilys Williams, chwaer Waldo, a fu'n lletya yn nhŷ Benni ac Elsie Lewis, ewythr a modryb Wynn Vittle.

Atgofion am Waldo Williams yn llaw Teifryn Williams, nai Waldo (a brawd i David Williams).

Amserlen digwyddiadau canmlwyddiant geni Waldo Williams.

'Canu Cynnar Waldo'

Llyfr nodiadau yn dwyn yr arysgrif 'Cerddi Cynnar Waldo' a dau nodyn arall (un dyddiedig 10 Mai 1979) yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, y gyfrol yn cynnwys copïau teg a drafft o Hiraeth (cyfres o dair soned), Yr Hen Le, Efe, Ei Hiraeth Ef ac Er Ei Fwyn (pedair cerdd ar yr un mesur sy'n rhan o un cyfanwaith) a Y Duw Unig (oedd ar un adeg yn rhan o bryddest neu gerdd hir o'r enw Unigrwydd (ceir y teitl hwn ar dudalen ar ei ben ei hun o fewn y gyfrol)) pob un o'r cerddi gan ac yn llaw Waldo Williams.

'Canu Llywarch Hen'; Darlith Flynyddol y Ganolfan; llyfryn y Gyngres Geltaidd

Papurau a llythyrau, yn ymwneud â’r cyhoeddiad o ddarlith flynyddol y Ganolfan, 1983; llyfryn y Gyngres Geltaidd, 1983; a’r llyfr ‘Canu Llywarch Hen’, 1983; yn cynnwys memoranda (1980 a 1983); amcangyfrifon argraffu (1981 a 1983); copi o lyfryn y Gyngres Geltaidd, (1983); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1981 a 1983), oddi wrth Eluned Morris; R. Geraint Gruffydd; Olwen Daniel; a H. Reid.

Capel y Garn

Papurau a chofnodion Capel Y Garn (MC), Bow Street, Ceredigion, yn cynnwys cyfrifon casgliad at gronfa adnewyddu Capel Y Garn, 1900; papurau parthed Sasiwn Haf a gynhaliwyd yn Y Garn, 1905, yn cynnwys cofnodion y pwyllgor lleol; rhaglenni cymanfaoedd canu Undeb Cerddorol Dosbarth Y Garn, 1910-1926 (gyda bylchau) a chymanfa'r canmlwyddiant, 1972; rhaglenni cyfarfodydd y Nadolig, 1940au-1960au; cyfrifon yr Ysgol Sul, 1963-1969; llyfr nodiadau ar gymanfaoedd canu'r plant, yn llaw J. T. Rees; a chopïau o 'Trem yn Ôl' o waith T. Ifor Rees. Bu J. T. Rees a T. Ifor Rees yn aelodau a swyddogion yng Nghapel Y Garn, gyda J. T. Rees yn flaenor, arweinydd y gân, trysorydd, trefnwr cyhoeddiadau ac yn ymddiriedolwr; a T. Ifor Rees yn drysorydd, ac athro a thrysorydd Ysgol Sul Y Garn.

Cardiau cyfarch

Cardiau cyfarch at T. Ifor Rees oddi wrth deulu, cyfeillion a chydweithwyr ar achlysur ei ben-blwydd, Nadolig, ac ar achlysuron eraill, nifer ohonynt o dramor.

Cardiau Nadolig teuluol

Cardiau Nadolig a phen-blwydd, [1850]-[1945], a dderbyniwyd gan Mathonwy Hughes ac aelodau o’i deulu, gan gynnwys ei ewythr Silyn Roberts, a rhai cardiau coffa. Ceir cerdyn Nadolig hefyd oddi wrth 'Squadron-Leader & Mrs G. ap Silyn-Roberts, Henlow.

Cardiau post at Mary Williams

Cardiau post wedi'u cyfeirio at Mary Williams (yn ddiweddarach Francis), fel a ganlyn:

Cerdyn, di-ddyddiad, wedi'i lofnodi gan George W[illiam] Roome, a oedd yn gyd-fyfyriwr i John Edwal Williams, tad Mary, yn y Coleg Normal, Bangor (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 28).

Cerdyn, marc post 19 Rhagfyr 1915, oddi wrth ei hewythr, William Price Jones, brawd ei mam, Angharad Williams (née Jones) (mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar ei gerdyn yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39) (gweler hefyd Cardiau post at Angharad Williams oddi wrth William Price Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Cardiau, un di-ddyddiad, un marc post 3 Rhagfyr 1915, oddi wrth 'Uncle Ned' ac oddi wrth 'Uncle Ned, Aunty Minnie & Ioan', sef Edward (Ned) Thomas Edmunds, ei wraig Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), a'u mab Ioan Edmunds (gweler Edward (Ned) Thomas Edmunds dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Dau gerdyn, marc post Avalon, California, 9 Gorffennaf 1927 a Cleveland, Ohio, 1[?0] Mawrth (dyddiad wedi'i ddiddymu), oddi wrth Lewis Williams (llofnod 'LW' ar y cardiau), brawd ei thad, John Edwal Williams (gweler hefyd Lewis Williams dan bennawd John Edwal Williams a Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Lewis Williams dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Cerdyn, di-ddyddiad, â'r un gair 'Mary' arno.

Cerdyn, marc post 16 Awst 1915, oddi wrth 'Gwyneth'.

Cardiau post oddi wrth Dilys Williams at Benni ac Elsie Lewis

Cardiau post, marc post 11 Ebrill 1974, marc post 29 [?Rhagfyr] 1975, 1 Ionawr 1977, 23 Gorffennaf 1980 (marc post 24 Gorffennaf 1980), a anfonwyd at Benni ac Elsie Lewis, Llanwnda, Wdig, Sir Benfro ac at Elsie Lewis, Abergwaun, Sir Benfro oddi wrth Dilys Williams.

Carol Benblwydd / Linden Lea,

Llyfryn a thudalennau rhydd o ddrafftiau a brasluniau o sgorau, gyda nifer o gopïau o 'Carol Benblwydd' [sic.] gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Llyfryn hefyd yn c ynnwys 'Linden Lea' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun.

Carol Nadolig,

Copïau o garol gan Gilmor Griffiths 'Carol Nadolig', geiriau gan J. G. Thomas, Tregarth. Tonic Sol-ffa a hen nodiant.

Carol Parsal,

Sgôr yr hen nodiant a hefyd tonic sol-ffa i eiriau Wil Parsal ar gyfer lleisiau merched (S.S.A.A.).

Carol y Dot,

Llungopïau o ddau sgôr, un llais yn unig, y llall gyda chyfeiliant o 'Carol y Dot' gan Gilmor Griffiths, y geiriau gan Dorothy Jones.

Results 141 to 160 of 1388