Showing 5 results

Archival description
Jones, R. Brinley Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 1997; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1996-1997 (1997), ac adroddiad ariannol (1997); a ffigyrau ariannol Prifysgol Cymru 1997-1998 (1998). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1997-1998), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Lynn Williams; Ian George; Derec Llwyd Morgan; R. Brinley Jones; Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Lionel Madden; Patrick Sims-Williams; ac Aeres Davies.

Jones, R. Brinley

Llythyrau at Saunders Lewis

  • NLW MS 23918E.
  • File
  • 1908-1978

Papurau, gan gynnwys un llythyr ar bymtheg, 1933-1978, a ddarganfyddwyd yn rhydd y tu mewn i gyfrolau o lyfrgell Saunders Lewis. = Papers, including sixteen letters, 1908-1978, found loose inside volumes from the library of Saunders Lewis.
Maent yn cynnwys llythyrau at Lewis oddi wrth Sir John Herbert Lewis, 1933 (f. 1), Edouard Bachellery, 1950-1951 (ff. 2-4, yn trafod ei lyfr L'oeuvre Poetique de Gutun Owain (Paris, 1950, 1951)), Tony Conran, 1961 (f. 7), Gareth Alban Davies, 1964 (f. 8), Aneirin Talfan Davies, 1969-1970 (ff. 9-10 verso), R. Brinley Jones, 1970 (f. 11), Donatien Laurent, 1975 (f. 14), a Michael T. Davies, 1977 (f. 15). Mae yna hefyd nodiadau amrywiol, 1908-[?1971], yn llaw Saunders Lewis (ff. 18-27), gan gynnwys nodiadau ar G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948) a G. J. Williams, Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf (Caerdydd, 1956) (ff. 22-25), a Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan Ap Tudur Penllyn, gol. gan Thomas Roberts (Caerdydd, 1958) (f. 27). = They include letters to Lewis from Sir John Herbert Lewis, 1933 (f. 1), Edouard Bachellery, 1950-1951 (ff. 2-4, commenting extensively on his own L'oeuvre Poetique de Gutun Owain (Paris, 1950, 1951)), Tony Conran, 1961 (f. 7), Gareth Alban Davies, 1964 (f. 8), Aneirin Talfan Davies, 1969-1970 (ff. 9-10 verso), R. Brinley Jones, 1970 (f. 11), Donatien Laurent, 1975 (f. 14), and Michael T. Davies, 1977 (f. 15). Also included are miscellaneous manuscript notes, 1908-[?1971], by Saunders Lewis (ff. 18-27), including notes on G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Cardiff, 1948) and G. J. Williams, Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf (Cardiff, 1956) (ff. 22-25), and on Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan Ap Tudur Penllyn, ed. by Thomas Roberts (Cardiff, 1958) (f. 27).

Lewis, J. Herbert (John Herbert), Sir, 1858-1933

Llythyrau,

Llythyrau, 1953-[1999], gan gynnwys rhai oddi wrth Bleddyn J. Roberts, Katrin [Kate Bosse-Griffiths], Iorwerth Jones, Prys Morgan, Aneirin Talfan Davies, Mathonwy Hughes, R. Brinley Jones, Gwilym R. Jones, Gwilym Rees Hughes, Gareth [Alban Davies] (2), D. Ellis Evans (2), Melfyn R. Williams, Bobi Jones (2), John Tudno Williams (2), Brinley Rees, Dafydd Orwig (3), [D.] Myrddin [Lloyd], Cyril Williams (4), Gwilym H. Jones (3), W. D. Davies (4), Marian Henry Jones (5), Euros [Bowen], Nigel Jenkins, Gwilym Ll[oyd] Edwards (2), Alan Llwyd, Telfryn [Pritchard] (5), W. Eifion Powell, Cedric Maby, Mari Ellis, Gerald Morgan, Dafydd Islwyn, Ned Thomas (2), Alun R. Jones (2), Simon Brooks, Rob[at] [Gruffudd], D. Densil Morgan, Pennar [Davies] (2) ac Aneirin [Talfan Davies]. Ceir drafftiau o rai o lythyrau J. Gwyn Griffiths ar ddiwedd y rhediad.

Roberts, Bleddyn J. (Bleddyn Jones)

T. Gwynn Jones: cyfansoddiadau

Ymhlith y papurau mae llythyr oddi wrth R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1970; grŵp o lythyrau oddi wrth Derwyn Jones, Llyfrgell y Brifysgol, Bangor, 1968-1970; torion o Papur Pawb, 1907; llythyr oddi wrth L. Haydn Lewis, 1965, gyda cherddi teyrnged a luniodd i T. Gwynn Jones; ac adysgrifau gan F. Wynn Jones o'i gerddi. -- Ceir hefyd daflenni a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amaeth a Physgodfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac a gyfieithwyd gan T. Gwynn Jones, [1942]-[1943], yn y cyfresi 'Dig for Victory' a 'Growmore'.

Jones, R. Brinley