Dangos 31 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Mary Silyn Roberts (Archif Menywod Cymru) = Mary Silyn Roberts Papers (Women's Archive of Wales) Ffeil / File
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau rhwng Mary Silyn Roberts a Mair Ogwen = Letters between Mary Silyn Roberts and Mair Ogwen

Llythyrau, 1933, rhwng Mary Silyn Roberts a Mair Ogwen, golygydd cylchgrawn Y Gymraes, ynghylch ysgrif gan Mary Silyn Roberts i'w chynnwys yn y cylchgrawn ar yr ymgyrchwraig dros heddwch a hawliau merched Charlotte Price White; ynghyd â chopi o'r ysgrif. = Letters, 1933, between Mary Silyn Roberts and Mair Ogwen, editor of Y Gymraes magazine, regarding an article written by Mary Silyn Roberts for publication in the magazine on the suffragist and peace campaigner Charlotte Price White; together with a copy of the article.

Llythyrau rhwng Mary Silyn Roberts ac Eirene Lloyd Jones = Letters between Mary Silyn Roberts and Eirene Lloyd Jones

Llythyrau, 1934-1935, rhwng Mary Silyn Roberts ac Eirene Lloyd Jones (White wedyn) o'r Central Committee on Women's Training and Employment, San Steffan, Llundain, ynghyd â thaflenni printiedig yn ymwneud â'u hymgyrch hyfforddi a chyflogaeth; a gohebiaeth rhwng Mary Silyn Roberts a Mr R. Thomas a Mr J. Lewis, Ysgol Elfennol Sirol Penmon, Sir Fôn ynghylch cynnal sgwrs yn yr ysgol am y cyfleoedd hyfforddi a gwaith a gynigwyd gan y Pwyllgor Canolog. Dau lythyr yn cynnwys tanlinelliadau pensil ac un o'r llythyrau hynny'n cynnwys nodyn mewn pensil, yn ôl pob tebyg yn llaw Mary Silyn Roberts. = Letters, 1934-1935, between Mary Silyn Roberts and Eirene Lloyd Jones (afterwards White) of the Central Committee on Women's Training and Employment, Westminster, London, together with printed pamphlets relating to the committee's work; and correspondence between Mary Silyn Roberts and Mr R. Thomas and Mr J. Lewis of Penmon County Elementary School, Anglesey regarding giving a talk at the school about training and employment opportunities offered by the Central Committee. Two letters include underlinings in pencil and one a pencil note, presumably in the hand of Mary Silyn Roberts.

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Jane Parry = Letter to Robert (Silyn) Roberts from Jane Parry

Llythyr, 3 Ebrill 1906, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Jane Parry, mam Mary Silyn Roberts, Eardley Crescent, Llundain ar achlysur geni Glynn, mab Silyn a Mary Silyn Roberts. Arnodwyd yn llaw Mary Silyn Roberts: 'for Glynn' a 'ar ol [sic] geni Glynn ap Silyn'. = Letter, 3 April 1906, to Robert (Silyn) Roberts from Jane Parry, Eardley Crescent, London, mother of Mary Silyn Roberts, on the occasion of the birth of Glynn, son of Silyn and Mary Silyn Roberts. Annotated in Mary Silyn Roberts' hand: 'for Glynn' and 'ar ol [sic] geni Glynn ap Silyn' [after the birth of Glynn ap [son of] Silyn].

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth [?M. F.] Griffiths = Letter to Robert (Silyn) Roberts from [?M. F.] Griffiths

Llythyr, 9 Medi 1908, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth [?M. F] Griffiths, Highbury, Llundain, yn trafod cyfarfod yn Llundain, gyda chyfeiriadau hefyd at ddannodd Silyn, at enedigaeth ail blentyn Silyn a Mary Silyn Roberts ac at ethol Silyn yn un o feirniaid Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1909. = Letter, 9 September 1908, to Robert (Silyn) Roberts from [?M. F.] Griffiths, Highbury, London, with arrangements to meet in London; references also to Silyn's toothache, to the birth of his and Mary's second child, and to Silyn's election as one of the adjudicators at the National Eisteddfod held in London in 1909.

Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts ac R. Williams Parry = Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and R. Williams Parry

Gohebiaeth, 1913-1928, yn bennaf at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth y bardd a'r darlithydd prifysgol R. Williams Parry, y llythyrau cynharaf wedi'u hanfon tra 'roedd Williams Parry yn athro yn ysgol Cefnddwysarn ger y Bala a'r rhan helaeth o'r ohebiaeth ddilynol yn olrhain ei hynt yn y fyddin yn ystod Rhyfel 1914-18. 'Roedd Williams Parry ar y cychwyn yn hynod anhapus yn ei yrfa milwrol ac mae'n erfyn ar Silyn, yn sgîl ei swydd fel ysgrifennydd Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, i'w symud i gatrawd sy'n cynnwys milwyr Cymreig (ceir tystiolaeth o ymgais Silyn i gyflawni ei ddymuniad). Cafodd Williams Parry air o'r diwedd (llythyr dyddiedig 24 Ebrill 1917) ei fod am gael ei drosglwyddo i'r '1st Welsh (Caernarvon) Battery Royal Garrison Artillery'. Serch annedwyddwch Williams Parry, ceir enghreifftiau yn ei lythyrau o farddoniaeth a ysgrifennodd ar faes y gâd, sy'n cynnwys ei englynion coffa i'w gyfaill Robert Pritchard Evans (1884-1917) (llythyr dyddiedig 26 Ebrill 1917) a'i soned 'Mater Mea' (llythyr dyddiedig 3 Rhagfyr 1917). Yn ei lythyr dyddiedig 11 Tachwedd 1918, mae Williams Parry yn datgan ei orfoledd ar derfyn y rhyfel. Arwyddir sawl un o'r llythyrau oddi wrth Williams Parry â'r enw 'Llion', sef y ffugenw a ddefnyddiodd ar gyfer ei ymgais lwyddiannus i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol 1910. Arnodir dau lythyr yn llaw Mary Silyn Roberts.
Ceir hefyd y canlynol:
Llythyr, 1 Mai 1915, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth W. J. Williams (1878-1952), sy'n ymddangos fel pe bai'n adrodd hanes dyfarnu cymhwyster R. Williams Parry ac eraill ar gyfer gwaith rhyfel.
Copi o lythyr, 10 Ionawr 1917, oddi wrth Robert (Silyn) Roberts at Capten Hamlet Roberts, 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, mewn ymgais i drosglwyddo R. Williams Parry i gatrawd Gymreig.
Llythyrau, Ebrill 1917, rhwng Robert (Silyn) Roberts a'r bardd Eingl-Gymraeg, llenor ac addysgwr Arthur Glyn Prys-Jones (1888-1987) ynghylch cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth Eingl-Gymreig; yn un llythyr, ceir barn Silyn ar feirdd Cymreig cyfoes.
Llythyr, 3 Gorffennaf 1918, oddi wrth 'Kitty' yn Llundain, yn holi am gyhoeddiadau'n ymwneud ag R. Williams Parry ac â'r addysgwraig Lydewig Marie Souvestre (1830-1905).
Cerdyn post, 16 Mai 1930, wedi'i gyfeirio at Robert (Silyn) Roberts ond sydd â rhan helaeth ohono wedi'i dorri'i ffwrdd.

Ynghyd ag atodiad teipysgrif: 'Datganiad gan Angharad Tomos [un o roddwyr y casgliad] Mai 2022', sy'n cynnig sylwadau ynghylch llythyrau R. Williams Parry at Robert (Silyn) Roberts.

= Correspondence, 1913-1928, largely to Robert (Silyn) Roberts from the poet and university lecturer R. Williams Parry, the earliest letters sent whilst Williams Parry was teaching at Cefnddwysarn school, near Bala, with subsequent correspondence following, in the main, his military career during the First World War. Williams Parry's wartime experience was initially extremely unhappy and he begs Silyn, as secretary of the Welsh Appointments Board of the University of Wales, to transfer him to a regiment which includes Welsh soldiers (there is evidence of Silyn's attempts to fulfil his wishes). Williams Parry would finally receive word (letter dated 24 April 1917) of his transfer to the 1st Welsh (Caernarvon) Battery Royal Garrison Artillery. However, despite his melancholy, the war letters contain poetry written at the time by Williams Parry, which includes his commemorative 'englynion' (strict-metre verses) to his friend Robert Pritchard Evans (1884-1917) (letter dated 26 April 1917) and his sonnet 'Mater Mea' (letter dated 3 December 1917). Williams Parry expresses his joy at the end of the war in a letter dated 11 November 1918. Many of Williams Parry's letters are signed 'Llion', which was the pseudonym he used in his successful attempt to win the bardic chair at the 1910 National Eisteddfod. Two letters are annotated in the hand of Mary Silyn Roberts.
The following are also included:
Letter, 1 May 1915, to Robert (Silyn) Roberts from W. J. Williams (1878-1952), which appears to relate an account of how R. Williams Parry and others were assessed for war work.
Copy of a letter, 10 January 1917, from Robert (Silyn) Roberts to Captain Hamlet Roberts of the 6th Battalion of Royal Welsh Fusiliers in an attempt to obtain R. Williams Parry's transfer to a Welsh regiment.
Letters, April 1917, between Robert (Silyn) Roberts and the Anglo-Welsh poet, author and educator Arthur Glyn Prys-Jones (1888-1987) regarding the publication of a volume of Anglo-Welsh poetry; in one letter, Silyn expresses his opinion of contemporary Welsh poets.
Letter, 3 July 1918, from 'Kitty' in London, enquiring about publications relating to R. Williams Parry and to the Breton educator Marie Souvestre (1830-1905).
Postcard, 16 May 1930, addressed to Robert (Silyn) Roberts, a substantial part of which has been torn away.

Together with a typescript supplement comprising a statement made May 2022 by Angharad Tomos, one of the donors of the collection, containing observations on R. Williams' Parry's letters to Robert (Silyn) Roberts.

Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts a'r Holiday Fellowship a rhwng Mary Silyn Roberts a'r Holiday Fellowship = Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and the Holiday Fellowship and between Mary Silyn Roberts and the Holiday Fellowship

Gohebiaeth a chopïau o ohebiaeth, 1930-1946, yn bennaf rhwng Robert (Silyn) Roberts a'r Holiday Fellowship, sef y corff a drefnodd taith Silyn i Rwsia ym 1930, ac, yn dilyn marwolaeth Silyn ym 1930, rhwng Mary Silyn Roberts a'r Holiday Fellowship; ynghyd â llythyrau, 10 & 14 Rhagfyr 1931, rhwng Mary Silyn Roberts ac Ernest Green, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, ynghylch yr Holiday Fellowship; a chopi o rifyn Hydref 1931 o Over the Hills, cylchgrawn yr Holiday Fellowship. Gohebydd yr Holiday Fellowship cyn 1934 yw'r diwygiwr cymdeithasol Thomas Arthur Leonard (1864-1948). Mae'n amlwg oddi wrth ei sylwadau nad yw Silyn yn credu'r adroddiadau negyddol yn y wasg ynghylch safiad cymdeithasol-wleidyddol Rwsia = Correspondence and copies of correspondence, 1930-1946, mainly between Robert (Silyn) Roberts and the Holiday Fellowship, which body organised Silyn's Russian trip in 1930, and, following Silyn's death in 1930, between Mary Silyn Roberts and the Holiday Fellowship; together with letters, 10 & 14 December 1931, between Mary Silyn Roberts and Ernest Green, general secretary of the Workers' Educational Association, regarding the Holiday Fellowship; and a copy of the Autumn 1931 edition of the Holiday Fellowship magazine Over the Hills. The Holiday Fellowship's correspondent prior to 1934 is the social reformer Thomas Arthur Leonard (1864-1948). It is obvious from his observations that Silyn does not believe the negative reports in the press concerning Russia's socio-political stance.

Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech

Gohebiaeth a chopïau o ohebiaeth, 1929-1944, yn bennaf rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, a leolwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, a Choleg Harlech, ynghyd â gohebiaeth oddi wrth bencadlys Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Llundain (prif ohebydd Ernest Green, ysgrifennydd cyffredinol y Gymdeithas) at y Swyddfa Ranbarthol a gohebiaeth rhwng y Swyddfa Ranbarthol a darpar-fyfyrwyr Coleg Harlech. Bu'r Swyddfa Ranbarthol dan ysgrifenyddiaeth Robert (Silyn) Roberts hyd ei farwolaeth ar 15 Awst 1930, pryd y cymerwyd yr awennau gan Mary Silyn Roberts. Bu cysylltiad agos erioed rhwng Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a Choleg Harlech hyd nes, yn 2001, fe gyfunwyd y ddau fudiad. Prif ohebwyr Coleg Harlech yw'r warden, Ben Bowen Thomas, a'r cadeirydd, Dr Thomas Jones. Sefydlwyd yr ysgoloriaeth a gyfeirir ati gan Dr Thomas Jones yn ei lythyr dyddiedig 25 Tachwedd 1934 er cof am ei fab, Elphin Lloyd Jones, a fu farw trwy ddamwain yn ddeuddeg oed (gweler, er enghraifft, Eirene White Papers yn LlGC). = Correspondence and copies of correspondence, 1929-1944, primarily between the District Office of the Workers' Educational Association, located at the University College of Wales, Bangor, and Coleg Harlech, together with correspondence from the Workers' Educational Association headquarters in London (main correspondent Ernest Green, general secretary of the Association) to the District Office and correspondence between the District Office and prospective Coleg Harlech students. The District Office was under the secretaryship of Robert (Silyn) Roberts until his death on 15 August 1930, after which the rôle was taken over by Mary Silyn Roberts. A close alliance had always existed between the Workers' Educational Association (WEA) and Coleg Harlech, the two bodies eventually merging in 2001. Coleg Harlech's primary correspondents are its warden, Ben Bowen Thomas, and its chairman, Dr Thomas Jones. The scholarship referenced by Dr Thomas Jones in his letter dated 25 November 1934 was established in memory of Dr Jones' son, Elphin Lloyd Jones, who died in an accident aged twelve years old (see, for example, Eirene White Papers at NLW).

Llythyr oddi wrth R. Williams Parry at Y Dinesydd Cymreig = Letter from R. Williams Parry to Y Dinesydd Cymreig

Llythyr printiedig, 14 Rhagfyr 1927, ynghylch Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a anfonwyd gan y bardd a'r darlithydd prifysgol R. Williams Parry i'r newyddlen Y Dinesydd Cymreig. = Printed letter, 14 December 1927, regarding the Workers' Educational Association sent by poet and university lecturer R. Williams Parry to the newspaper Y Dinesydd Cymreig.

Cerddi'r Bugail

Copi llawysgrif ddrafft o Cerddi'r Bugail, sef cyfrol goffa o farddoniaeth Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) (1887-1917), wedi'i olygu gan y Parchedig J. J. Williams ac o bosib yn ei lawysgrifen. = Draft manuscript copy of Cerddi'r Bugail, a commemorative anthology of poetry by Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) (1887-1917), edited by the Reverend J. J. Williams and possibly written in his hand.

Canlyniadau 21 i 31 o 31