Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 210 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Waldo Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Derbynneb

Derbynneb dyddiedig 15 Mawrth 1935 wedi'i chyfeirio at Waldo Williams gan Gyngor Dosbarth Gwledig Arberth.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol na ellid ei gategorïo dan unrhyw bennawd penodol, yn cynnwys yn bennaf bapurau newydd a thorion papurau newydd.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol yn bennaf o natur wleidyddol, lenyddol, grefyddol neu gymdeithasol, yn eu plith:

Llungopi o ffotograff o Glunderwen, Sir Benfro, tua throad neu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Pamffledyn gan Harold Bing yn dwyn y teitl 'Pacifists over the world'.

Taflen yng ngeiriau George Bernard Shaw yn dwyn y teitl 'Sacrifice - for what?'

Cerdyn cydnabod Mrs Eluned Tilsley, gweddw'r bardd y Parchedig Gwilym Richard Tilsley ('Tilsli').

Rhifyn cyntaf (Nadolig 1946) ac ail rifyn (Calanmai 1947) o gylchgrawn Y Fflam.

Cerdyn yn dangos cofeb y bardd a'r llenor D. J. Williams ar y Lôn Las, Abergwaun.

Deunydd amrywiol gan neu ym meddiant Dilys Williams

Deunydd ym meddiant Dilys Williams, yn bennaf o ddiddordeb llenyddol neu leol, gan gynnwys Llyfr trysorydd Urdd Gobaith Cymru cylch Abergwaun, llyfr cofnodion cangen Abergwaun o Undeb y Llw o Blaid Heddwch (Peace Pledge Union), 1939-1945, a llyfrau nodiadau yn llaw Dilys Williams yn cynnwys yn bennaf gwybodaeth o natur lenyddol.

Deunydd gan Waldo Williams

Deunydd gan Waldo Williams, un ai'n ddeunydd gwreiddiol yn ei law neu'n lungopïau o ddeunydd gwreiddiol, gan gynnwys barddoniaeth; rhyddiaith; deunydd darlithio/dysgu ar gyfer ysgolion haf a dosbarthiadau nos; nodiadau a wnaethpwyd gan Waldo Williams tra'n fyfyriwr prifysgol; gohebiaeth; ac amrywiol nodiadau a manion eraill.

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys peth o hanes ei ddyddiau ysgol, ei wrthodiad i dalu'r dreth incwm, a'i ddedfryd a'i garchariad o ganlyniad i hynny; ysgrifau coffa a theyrngedau a luniwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth; a dathliadau canmlwyddiant ei eni.

Dilys Williams

Deunydd gan, at, ym meddiant neu'n ymwneud â Dilys Williams, chwaer ieuengaf Waldo Williams, gan gynnwys gohebiaeth at ac oddi wrth Dilys; amrywiol ddeunydd ym meddiant Dilys; a theyrnged i Dilys a gyhoeddwyd yn Y Cymro yn dilyn ei marwolaeth.

Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth

Llungopi o doriad a gymerwyd o rifyn 27 Rhagfyr 1923 o'r Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn adrodd am ddiwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth, achlysur a oedd yn cyd-ddigwydd ag ymddeoliad y prifathro, John Morgan. Ceir cyfeiriadau at lwyddiannau academaidd Waldo Williams tra bu'n ddisgybl yn yr ysgol a hefyd at yr araith a draddododd er clod am John Morgan ar ddiwrnod y gwobrwyo. Fe ymddengys mai ysgrifen Albert Lewis (gweler Canmlwyddiant geni Waldo Williams dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams) a geir ar gefn yr eitem.

Edward (Ned) Thomas Edmunds

Deunydd yn ymwneud ag Edward (Ned) Thomas Edmunds, a ymfudodd i'r Wladfa, Patagonia ym 1912 a dod yn brifathro cyntaf ysgol y Gaiman, gan gynnwys cardiau post wedi'u harysgrifio, ffotograffau [?un yn dangos Edward Thomas Edmunds] a choeden deuluol. Gwraig gyntaf Edward Thomas Edmunds oedd Margaret Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), ac mae'n bosib mai ei llaw hi a welir ar gefn y cardiau post (gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams), Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Edward (Ned) Thomas Edmunds, Wilhelmina (Minnie) Edmunds a Ioan Edmunds dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams a Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth [?Margaret Wilhelmina (Minnie) Edmunds] dan bennawd John Edwal Williams.

Deunydd yn ymwneud â'r Parchedig William Williams (1781-1840) ('Williams o'r Wern'), un o hynafiaid Edward Thomas Edmunds, gan gynnwys llungopi o ysgrif gan Dyfnallt Owen o'i lyfr Ar Y Tŵr (1953) a llungopi o erthyglau o'r wasg. Gweler hefyd y goeden deuluol (a ddisgrifir uchod) yn olrhain perthynas Edward Thomas Edmunds gyda 'Williams o'r Wern'.

Eirlysiau

Copi llawysgrif teg o'r gerdd Eirlysiau gan ac yn llaw Waldo Williams.

Elias Henry Jones

Llungopi o erthygl yn Yr Herald Cymraeg am Elias Henry Jones, mab Syr Henry Jones, a oedd yn frawd i John Jones, tad Angharad Williams (née Jones). Mae'r erthygl yn cynnwys lluniau o Tony Walker a Gail Kincaid, ŵyr ac wyres Elias Henry Jones, ac o Mair Olwen Jones (née Evans), gwraig Elias Henry Jones.

Llungopi o erthygl gan yr awdur Neil Gaiman am Elias Henry Jones ac am ei lyfr The Road to En-dor (1920) ym mhapur newydd y Guardian.

Enwogion yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg a nodiadau eraill

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys, yn bennaf, nodiadau ar enwogion, llenyddiaeth a digwyddiadau nodedig yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Ymysg eraill, crybwyllir William Salesbury, Dr John Davies, Mallwyd, William Morgan, Wiliam Llŷn, Ellis Wynne a Morgan Llwyd o Wynedd. Ymysg y nodiadau ceir cerdd gan ac yn llaw Waldo Williams sy'n cychwyn 'Wele'r ddau Ioan, er rhwyg eu hoes ...', sy'n sôn am y ddau ferthyr John Roberts, Rhiw-goch, Trawsfynydd a John Penry, Cefn-brith, Llangamarch.

Erthyglau am Waldo Williams

Rhifyn 22 Mehefin 1979 o'r Faner, sy'n cynnwys llun o Waldo Williams ar y clawr ac erthygl gan Beatrice Davies, prifathrawes Ysgol Bro Eglwyswrw, am fro genedigol Waldo dan y teitl Dewch am dro - i ardal Waldo. Fel rhan o'r erthygl ceir englyn gan Waldo nas cyhoeddwyd o'r blaen yn cyfarch y bardd T. H. Parry-Williams ar gael ei urddo'n farchog.
Erthygl am Waldo Williams gan Dylan Iorwerth yn ei golofn Gymraeg yn rhifyn 18 Mai 2011 o'r Western Mail.

Erthyglau i'r wasg gan John Edwal Williams

Llungopïau o erthyglau gan John Edwal Williams a gyhoeddwyd yn y Narberth, Whitland & Clynderwen Weekly News yn ystod y 1920au, yn bennaf dan y ffugenw 'John Dewsland', ynghyd â llythyr i'r wasg yn ymateb i'r erthyglau.

Canlyniadau 61 i 80 o 210