Print preview Close

Showing 184 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon
Print preview View:

CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon

  • GB 0210 ENGEDI
  • fonds
  • 1842-1999

Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon, 1842-1999, gan gynnwys cofrestri, llyfrau casgliadau, llyfrau'r eisteddleoedd, llyfrau'r weinidogaeth, cofrestri anghydffurfiol ac Eglwysig, llyfrau cofnodion pwyllgorau, llyfrau cofnodion, gohebiaeth, a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau'r Eglwys a chofnodion yr Ysgol Sul.

Eglwys Engedi (Caernarfon, Wales)

Materion ariannol

Cofnodion ariannol yn cynnwys llyfrau casgliadau, 1841-1982, llyfrau'r eisteddleoedd, 1852-1975, llyfrau'r weinidogaeth, 1898-1991, papurau'r Trysorydd, llyfrau cyfraniadau at Y Casgliad Chwarterol a'r Gronfa Gynnal, ynghyd â ffurflenni cyfamodi, 1951-1986, buddsoddiadau, 1952-1996, yswiriant, 1940-1995, a phapurau ariannol amrywiol, 1910-1997.

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.

Llyfr casglu

Yn cynnwys rhestr o'r rhai a gyfrannodd mewn casgliadau yn y tri gwasanaeth a gynhaliwyd ar ddiwrnod ailagor yr addoldy ar 23 Ionawr 1867, a'r rhai a gyfrannodd at leihau'r ddyled, adeg gwasanaethau Diolchgarwch, 1867-1875.

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Results 1 to 20 of 184