Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

'Eifionydd' [John Thomas, (1848-1922)],

[Caernarfon]. Mae Nathaniel Roberts, cyfreithiwr am anfon hanes y claddu iddo trannoeth. Annog RDR i beidio â chymryd sylw o'r mater - eisiau sylw sydd arnynt. Trafod peth ar ei gynnyrch barddonol. Dylai fynd ymlaen â'i bryddest goffa a chadw'r peth yn gyfrinach.

John Thomas,

Llanwrtyd. Dau englyn cyrch yn hysbysu RDR ei fod am ymweld â Chaernarfon. Mae'n mwynhau ei golofn yn Y Faner. Mae'n hyderu ei fod yn iach yng nghanol yr eira. Cerdyn post.

W. Eilir Evans,

Llancarfan. Mae'n anfon siars Esgob Llandaf at RDR i gael ei adolygu. Dyma'r tro cyntaf i Esgob Cymreig gyhoeddi ei siars yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n canmol colofn wythnosol RDR - "y peth goreu ydyw sydd gennym yn yr un cyfeiriad yn y Wasg Gymreig". Bu'n gweithio i'r Western Mail cyn ailgydio yn yr offeiriadaeth oherwydd anhwylder.

[Gomer Roberts],

Llanelidan. Mae'n dweud iddo gael trafferth i ddod o hyd i Y Pentre Gwyn. Diolch i RDR am ei ysgrifennu. Anghyflawn.

T. A. Levi,

Aberystwyth. Diolch am lythyr RDR. Ni wyddai ddim am amgylchiadau anfon llun i Cymru. Ysgrifennai ar gais cyfeillion a oedd yn edmygu Trysorfa'r Plant yn fawr.

D. S. Davies (Baner ac Amserau Cymru),

Dinbych. Pe bai wedi darllen 'y Golofn Lenyddol' ni fyddai'r erthygl flaen wedi ymddangos. Mae'n ymddiheuro am achosi poen i RDR ac yn gobeithio y bydd yn parhau i gyfrannu i'r Faner. Saesneg/English.

Gomer Roberts,

Rhuthun. Diolch am lythyr RDR. Wedi cael ei benodi gan Fwrdd y Cyllid Gwladol. Mae'n gweithio yn Uwch Aled ac yn trafod y lleoedd y mae wedi bod yn eu prisio yn unol â Deddf Gyllid 1909-10, sef Llys Rhirid Flaidd, Plas Iolyn, Y Giler, Perthillwydion a Glan-y-gors. Sôn am rai o'r beddau ym mynwent Llangwm.

Isaac Edwards,

Merthyr Tudful. Datgan ei werthfawrogiad o erthygl RDR yn Y Geninen am fis Ebrill. Ni fydd yn anghofio'r amser difyr a gafodd yn y Clwb Awen a Chân.

S. Maurice Jones,

Lerpwl. Mae wedi ysgrifennu rhyw fân atgofion am ddyddiau maboed ac yn gofyn i RDR edrych dros ei waith ar gyfer Trysorfa'r Plant. Mae'n rhestru digwyddiadau Lerpwl.

Nadolig Jones,

Chubut. Nid oes yr un iaith yn cymharu â'r Gymraeg. Anfonodd ei chwaer Y Drysorfa ato. Mae'n diolch am y cynghorion. Dywed bod ar y Wladfa wir angen Camwy Evans. Diolch am yr addewid i gyhoeddi ysgrif goffa i Shan [Dalar Evans]. [Gweler "O Odre'r Andes", Trysorfa y Plant, cyf. 65 (Tachwedd 1926), tt. 289-90].

Owen M. Griffith,

Poultney, UDA. Gofyn am fersiwn Saesneg o'r ysgrif ar y Parchedig Evan Richardson a ymddangosodd yn Trysorfa'r Plant.

Evan T. Davies,

Llundain. Mae newydd glywed am Bensiwn y Rhestr Sifil. Dylai fod cywilydd ar ddoethion y Brifysgol.

Arglwydd Clwyd,

Ty'r Arglwyddi. Gwelodd hysbyseb yn The Times ac mae'n anfon ei longyfarchiadau.

Results 1 to 20 of 296