Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

W. Cadwaladr Davies.

Llundain. Mae'n amgau 2s.6 am gopi o lyfr RDR. Roedd E. O. V. Lloyd, Rhagad, wedi protestio yn erbyn WCD am iddo gynnal cyfarfod ynglyn â'r elusennau, yn ardal Corwen, trwy gyfrwng y Gymraeg.

'I[olo] C[aernarfon]', J. J. Roberts.

'I[olo] C[aernarfon]', J. J. Roberts. Porthmadog. Ar ôl un mlynedd ar ddeg ar hugain o fugeilio mae bellach yn wr rhydd. Mae'n credu iddo ddarllen pob un o lyfrau RDR ac eithrio Y Ffenestri Aur. Cafodd ei blesio'n fawr gan weithred Anthropos yn cyflwyno ei gyfrol ddiweddaraf iddo.

S. Maurice Jones,

Lerpwl. Mae wedi ysgrifennu rhyw fân atgofion am ddyddiau maboed ac yn gofyn i RDR edrych dros ei waith ar gyfer Trysorfa'r Plant. Mae'n rhestru digwyddiadau Lerpwl.

Prosser Rhys,

Aberystwyth. Diolch am y geiriau caredig, mae'n ofni nad oes ganddo allu beirniadol. Mae ei fryd ar y nofel ond mae am gystadlu am y Goron gyda'r bryddest Atgof. Pleser iddo yw darllen ysgrifau RDR.

'Ap Llugwy', E. Lloyd Owen,

Cricieth. Mae ar ddeall bod RDR ar y pwyllgor sy'n llunio llyfr emynau newydd. Mae am dynnu ei sylw at Odlau Pumafon o waith ei ddiweddar dad.

Evan Davies,

Llansannan. Mae wedi darllen sylwadau RDR ar Bont y Borth. Mae'n ei longyfarch ac yn diolch iddo am ei wasanaeth i lenyddiaeth ac i'r genedl.

John Owen,

Caernarfon. Mynegi ei ddiolchgarwch o dderbyn llythyr RDR. Mae barn RDR o werth mawr iddo. Bydd yn dda ganddo i'r llyfr dalu am ei fwyd tua'r argraffdy.

Nadolig Jones,

Chubut. Nid oes yr un iaith yn cymharu â'r Gymraeg. Anfonodd ei chwaer Y Drysorfa ato. Mae'n diolch am y cynghorion. Dywed bod ar y Wladfa wir angen Camwy Evans. Diolch am yr addewid i gyhoeddi ysgrif goffa i Shan [Dalar Evans]. [Gweler "O Odre'r Andes", Trysorfa y Plant, cyf. 65 (Tachwedd 1926), tt. 289-90].

Enoch Davies,

Treherbert. Diolch i RDR am y llythyr. Dweud ei fod yn ddarllenwr cyson o Trysorfa'r Plant. Mae'n anfon penillion ato.

Glynfab [Williams],

Dinas Cross. Roedd yn athro yn yr Ysgol Sul cyntaf yn Nasareth a chafodd ei wahodd i gychwyn ysgol uwchraddol yn Y Wladfa. Mae'n diolch am Trysorfa'r Plant.

Glynfab [Williams],

Dinas Cross. Dweud wrth RDR am wneud fel a fynno â'r llythyr. Mae'n cofio'r copi cyntaf o Trysorfa'r Plant yn cael ei ddosbarthu yn Nantyglo.

H. C[ernyw] Williams,

Corwen. Nid oes ganddo farddoniaeth i'w gyfarch a'r gwyliau gerllaw. Mae'n hyderu bod RDR a'i wraig yn iach.

Results 1 to 20 of 296