Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

Papurau Anthropos

  • GB 0210 ANTHROPOS
  • Fonds
  • 1869-1944

Papurau Anthropos, 1869-1944, yn cynnwys gohebiaeth, 1869-1944, a llythyrau o gydymdeimlad at ei weddw, 1944; papurau personol eraill, 1878-1944, yn cynnwys dyddiaduron, llyfrau nodiadau ar bynciau llenyddol a diwinyddol; torion o'r wasg, 1880-1937; papurau llenyddol yn cynnwys cerddi gan Anthropos, 1876-1939, anerchiadau, erthyglau, traethodau a chyfansoddiadau rhyddiaith eraill, 1898-1922; barddoniaeth a rhyddiaith gan awduron eraill (rhai llawysgrifau gwreiddiol), yn enwedig Llew Llwyfo, 1877-1939. = Papers of Anthropos, 1869-1944, including correspondence, 1869-1944, and letters of condolence to his widow, 1944; other personal papers, 1878-1944, including diaries, notebooks on literary and theological matters; newspaper cuttings, 1880-1937; literary papers including poems by Anthropos, 1876-1939, addresses, articles, essays and other prose compositions, 1898-1922; poetry and prose by other writers (some original manuscripts), in particular Llew Llwyfo, 1877-1939.

Anthropos, 1853?-1944.

W. Cadwaladr Davies.

Llundain. Mae'n amgau 2s.6 am gopi o lyfr RDR. Roedd E. O. V. Lloyd, Rhagad, wedi protestio yn erbyn WCD am iddo gynnal cyfarfod ynglyn â'r elusennau, yn ardal Corwen, trwy gyfrwng y Gymraeg.

'I[olo] C[aernarfon]', J. J. Roberts.

'I[olo] C[aernarfon]', J. J. Roberts. Porthmadog. Ar ôl un mlynedd ar ddeg ar hugain o fugeilio mae bellach yn wr rhydd. Mae'n credu iddo ddarllen pob un o lyfrau RDR ac eithrio Y Ffenestri Aur. Cafodd ei blesio'n fawr gan weithred Anthropos yn cyflwyno ei gyfrol ddiweddaraf iddo.

John Williams.

Llanfair Pwllgwyngyll. Mae wedi ysgrifennu gair ar frys am yr 'Hen Bar' ac yn gofyn i RDR edrych drosto.

H. C[ernyw] W[illiams].

Corwen. Mae'n amgau llyfr gan obeithio y gall RDR dynnu sylw ato yn rhywle. Darllenodd benillion doniol Anthropos i R. Hughes, Tynycefn.

J. Evans Jones.

[--]. Mae'n anfon tocyn a map ac yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ar sut i gyrraedd Llansawel (Briton Ferry) ar y trên. Saesneg/English.

['Anthropos'], R. [D.] Rowland at ei dad,

Rhosymedre. Mae'n hysbysu ei dad ei fod yn iach ond yn hiraethu am ei weld. Mae wedi cyfansoddi tri o benillion iddo ac yn gofyn am feirniadaeth yn ôl. Mae'n cynnwys pennill hefyd i 'Llugwy' [Y Parchedig Robert Llugwy Owen, (1836-1906)].

Results 1 to 20 of 296