Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

Peace Celebrations, Portmadoc, July 19,

Peace Celebrations, Portmadoc, July 19, 1919. Ynghyd â thaflen emynau'r gwasanaeth crefyddol a gynhaliwyd yng nghapel y Tabernacl, Porthmadog [emyn EW 'Efengyl tangnefedd...' ar y daflen].

Torion papur.

Torion papur wedi eu trefnu'n fras yn ôl cynnwys, a'u copïo ar bapur archifol a'u ffeilio yn y Llyfrgell fel a ganlyn:. F. 1: Cerddi gan EW. F. 2: Cyfieithiadau o gerddi EW. Ff. 3-16: Beirniadaethau eisteddfodol EW. F. 17: Cerddi i EW. Ff. 18-20: Cerddi ac ysgrifau coffa EW. Ff. 21-41: Cyfeiriadau at EW a'i waith. Ff. 42-6: Torion o ddiddordeb personol a theuluol.

Gwahoddiad i fabolgampau,

Cerdyn yn gwahodd 'Y Prifardd Eifion Wyn a'i deulu' i fabolgampau Ysgol Lewis, Pengam, sir Fynwy, i'w cynnal ar y Traeth ger Borth-y-gest, 2 Awst 1915.

Papurau Eifion Wyn,

  • GB 0210 EIFWYN
  • fonds
  • 1839-1980 /

Papurau Eifion Wyn yn cynnwys copïau llawysgrif o'i gerddi, 1885-1925, rhai ohonynt wedi eu cyhoeddi yn Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929); ei gyfieithiadau o farddoniaeth a rhyddiaith, 1906-1923; pregethau, emynau a chaneuon, [c.1914]-1921; cerddi gan eraill, 1889-1926; beirniadaethau cystadlaethau eisteddfodol, 1915-1925; llythyrau a gohebiaeth â llenorion, 1894-1926; llythyrau at ei wraig, 1922-1950; cofnodion cofrestru aelodau'r teulu, 1864-1941; tystysgrifau eisteddfodol, 1905-1924; deunydd printiedig,1908-1927; llyfrau, yn cynnwys gwaith gan Eifion Wyn, 1866-1930; dyddiaduron Eifion Wyn, 1919-1920; dyddiaduron ei dad Robert Williams, 1894-1900; a phapurau'n perthyn i'w ŵyr Penri Williams, 1926-[1980] = Papers of Eifion Wyn comprising manuscript copies of his poems, 1885-1925, some of which were published in Caniadau'r Allt (1927) and O Drum i Draeth (1929); translations by him of poetry and prose, 1906-1923; sermons, hymns and songs, [c. 1914]-1921; translations of his poetry by others, 1907-1924; poems addressed to him, 1919-1921; poems by others, 1889-1926; adjudications of eisteddfod competitions, 1915-1925; letters and correspondence with literary figures, 1894-1926; letters to his wife, 1922-1950; family civil registration records, 1864-1941; eisteddfod certificates, 1905-1924; printed matter, 1908-1927; books, including Eifion Wyn's works, 1866-1930; diaries of Eifion Wyn, 1919-1920, diaries of his father Robert Williams, 1894-1900; and papers belonging to his grandson Penri Williams, 1926-[1980].

Eifion Wyn, 1867-1926.

Copïau o gerddi a gyhoeddwyd yn Caniadau'r Allt (1927),

Ffeiliwyd hwy yn ôl eu trefn yn y gyfrol honno. Rhestrir y cerddi isod a nodir mewn cromfachau y tudalen cyfatebol yn Caniadau'r Allt, ynghyd ag unrhyw amrywiaeth teitl. Teipysgrif oni nodir yn wahanol. 41 ff. F. 1: 'Mab y Mynydd' [t. 15]. F. 2: 'Oedfa Coed' ['Cysegr y Coed'; t. 21]. Ff. 3-4: 'Camp Llyn yr Onnen', Awst 1916 [t. 32]. F. 5: 'Gwyl Ifan' [t. 34]. Ff. 6-7: 'Er cof am yr anwyl "Davies Llithfaen"' ['Y Gweinidog Da'; t. 39]. F. 8: 'Telyneg y Gwahawdd' ['Cathl y Gwahodd'; t. 43]. Printiedig [toriad o Cymru]. F. 9: '"O wynfyd Serch" neu, - Calendr Serch' ['Calendr Serch'; t. 45]. Teipysgrif â newidiadau llawysgrif. F. 10: 'Rhwng Dwy Ffair' [t. 50].Teipysgrif â newidiadau llawysgrif. Ff. 11-12: 'Melus Fo Cwsg Fy Mam', 1907 [t. 53; 'Llys Fy Mabandod']. F. 13: 'Ymson Mam' [t. 56]. Ff. 14-15: 'Soned, Dafydd i Morfudd' I (gan "Mererid"), II (gan "Bardd y Cydofid"; teipysgrif a phrintiedig), Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906 ['Dafydd ap Gwilym i Forfudd'; t. 58]. F. 16: 'Belgium' [t. 61]. Ff. 17-18: 'Cymru Annwyl (Cân Wladgarol o dri phennill)', gan "Hen Serch". F. 19: 'Llyfrbryf' ['Yn Nyffryn Clwyd (Wrth gofio'r Llyfrbryf)'; t. 81]. F. 20: 'Cân y Coroni', gan "Rhys Grythor" ['Cân Coroni'r Bardd'; t. 83]. F. 21: 'Ieuan Gwynedd' [t. 84]; ceir sylwadau teipysgrif a llawysgrif gan EW ynglyn â'r gerdd. F. 22: 'Rhisiart Llwyd' [t. 88]. Ff. 23-5: 'Syr Barrug', Ionawr 1908 [t. 93]. Teipysgrif (2); printiedig [toriad o The Grail]. Ff. 26-7: 'Croes a Blodau' [t. 94]. Printiedig. 2 gopi. F. 28: 'Allt y Widdon', 1916 [t. 97]. Ff. 29-30: 'Nos Galan' ('Fy Angel'; 'Cydymaith Liw Nos'; 'Pererin y Nef'; "Pa un oreu'n benawd?"), Dydd Diolchgarwch, 1906 ['Nos Galan'; t. 104]. Ff. 31-2: 'Erddygan Hun y Bardd' [t. 106].Teipysgrif; toriad papur. Ff. 33-41: 'Darnau i blant': 33: 'Bach a Mawr'; 'Pleser Plant' [t.110]; 34: 'Pethau Clws' ['Pethau Tlws', t. 111; 'Y Briallu', t.112]; 35: 'Suo'r Baban' [cf. rhif 4, f. 46v]; 35-6'Yr Enfys' [t. 113]; 36: 'Mot'; 37: 'Y Ffrwd' [t. 114]; 38: 'Iar Fach yr Haf' [t. 115]; 38-9: 'Casglu a Rhannu' [t. 119]; 39-40: 'Y Frongoch' [t. 117]; 41: 'Gardd F'Anwylyd' [t. 116].

Copïau o gerddi Cymraeg a Saesneg,

Copïau llawysgrif, teipysgrif, a phrintiedig o gerddi Cymraeg a Saesneg, 1907-25 a d.d., 'a wnaed o dro i dro er difyrru cyfeillion'. Teipysgrif oni nodir yn wahanol. i, 75 ff. F. i: Amlen ac arni '"Nid yw pob peth a blethir / O'r un wead â'r awen wir". Cerddi a wnaed o dro i dro er difyrru cyfeillion (Cedwir hwy yma er mwyn Peredur)'. Ff. 1-2: 'Rhyfelgan Ryddfrydol, Etholiad y Cyngor Sir ym Mhorthmadog, 1907. Cyflwynedig i J. Jones-Morris Ysw'. Ff. 3-4: 'Molawd', Mawrth 1910. F. 5: 'Rhigymau Telyn', Noson Lawen y Tabernacl, 1910. F. 6: 'Ymson Diolchus', 2 Ion. 1917. F. 7: 'Annerch. I fab cyfaill pan yn cyrraedd oedran gwr', Meh. 1917. F. 8: 'Annerch i Mr Owen Nelson Roberts, Paragon, Pwllheli, ar ei ddyfodiad i'w oed', Gorff. 1918. F. 9: 'I Captain Williams', 12 Meh. 1921. Llawysgrif. F. 10: 'Cyfarchiad i Gwen Mair Roberts, 6 Gorff. 1921'. F. 11: 'Y Cadeirydd (Principal Evans, Madryn)', 1921. F. 12: 'Yr Hen Drugareddau' [1921; cf. rhif 9, f. 43]. F. 13: 'Yr Ysmociwr (Alaw: "Gwnewch bopeth yn Gymraeg")'. Llawysgrif [ar y cefn ceir llythyr Saesneg, 5 Chwef. 1921, at EW oddi wrth Ieuan G. Jones, golygydd Y Genedl]. F. 14: 'Yr Ysmociwr' gan "Nymbar 1"; 'Yr Ysmociwr' gan "Nymbar 2" [?1921]. F. 15: 'Yr Ysmociwr' gan "Hen Sipiwr" [?1921]. F. 16: 'Coroni Brenhines Mai', Mai 1922. F. 17: 'Glenys, wyres gyntaf Aelygarth', gan "Yncl Eifion", Ion. 1923. F. 18: 'Y Ddau Bensaer: Mr David Morris, Cefn Iwrch, Criccieth'; Mr John Humphreys, Trefaes, Criccieth', 1925. Ff. 19-24: 'Y Gwir i'r Goleu, neu Hanes y trip o'r Bedd i'r Nant, ar Gân', gan "Bardd Sylwedd". [dwy fersiwn, â mân amrywiadau rhyngddynt]. F. 25: 'Pwy 'di ffrind y cwn cynddeiriog...'. F. 26: 'Cyfarchiad i'r Cadeirydd'. F. 27: 'Y Cadeirydd'. F. 28: 'Cyfarchiad i'r Cadeirydd, Owen D. Williams, Ysw.'. F. 29: 'Cyfarchiad'. F. 30: 'Cân y Codl Dwbl Odl' gan "Trawsfantach". Toriad papur. Ff. 31-2: 'Diwrnod Golchi (cân ddisgrifiadol)' gan "Robin, y Gwr". F. 33: 'Y Cadeirio' [Saesneg a Chymraeg]; 'Y Crys Gwlanen'. F. 34: 'John Evans, Hendregwenllian'. F. 35: 'I Maggie'; 'To Walter' [Saesneg]. F. 36: 'Y Llyw Hwyliog o Bwllheli, sef, Mr David Jones, hysbys i bawb fel Rheolwr y Barclay's Bk'. F. 37: 'Bethan' [englynion; 2 fersiwn]. F. 38: 'Dr Pierce Jones'. F. 39: 'I Willie a Jenny, a'r ddau yn un' ['C. A. Pearson Ld, 18 Henrietta St. WC2. Etiquette for Men, by G. R. M. Devereux. 1/9 by post' ar y cefn]. F. 40: 'Alaw: Nos Galan' [penillion Cymraeg a Saesneg]. F. 41: 'Y Flip Flap'. Ff. 42-3: 'Gogangerdd : "Y Llaciwr" (Ym mhob gwlad y megir llwfr!)', gan "Hyd at Waed". F. 44: "Am yr Arweinydd, Mr R. Glanrafon Jones'. F. 45: 'Cyfarchiad priodasol i Mr Fred. Gwyn a Hannah Huws, Ferndale'. Ff. 46-8: 'Ymweliad Syr Cadwaladr â Llunden', gan "Bardd y Teulu". Llawysgrif [ceir englynion yn dechrau 'Y Nadolig hwn deled' ar f. 46v]; teipysgrif. F. 49: 'Tri Breuddwyd (Alaw: Llwyn Onn)'. F. 50: 'Penillion (Alaw : Nos Galan)'. F. 51: 'Annerch. Oddiwrth Aelod o'r Comiti sydd yn bresennol o ran yr ysbryd, er yn absennol o ran y corff' [gan "Ivor Williams"]. F. 52: '"A Greeting", Portmadoc, Aug. 1912'. F. 53: 'You all know Captain Higson...' [? Awst 1913]. Toriad papur. F. 54: 'Hurrah! for J. Jones Morris...' a dau bennill arall [Saesneg] ar gyfer cyngerdd 'Symudiad y Cadfridog Owen Thomas', 7 Ebrill [1916]. Toriad papur. F. 55: 'Here is a Chairman...' sef anerchiad i Mr Key, llywydd cyngerdd a gynhaliwyd yn Ysgoldy Minffordd, 30 Tach. [1916]. Toriad papur. F. 56: 'F. M. Potter, Esq. (Manager of Penrhyn Powder Works)'; 'Arthur Grounds, Esq.'; 'K. C. Aberthnot, Esq.'; ar gyfer y 'Powder Works Eisteddfod', Ebrill 1917. F. 57: 'The Institute', 1917 ['Miss Alice Williams', f. 57v; cf. f. 58]. F. 58: 'God bless our Patron and our Chief...' (cerdd yn cyfarch Miss Alice Williams [cf. f. 57v]; 'For what is Man within this hall?...'. Toriad papur [1917]. F. 59: 'The Chairman' (Cyngerdd y Nant, Hyd. 1918). F. 60: 'Miss Greaves, Tanrallt', Rhag. 1919. F. 61: 'No doubt you will not forget it...' [penillion ar gyfer Cyngerdd Milwrol ym Mhorthmadog, c. 1919]. Toriad papur. F. 62: 'A May Day Song', 1920. F. 63: 'A Jingle Of Joy', Ion. 1925 ["not sent" ar waelod y tudalen]. F. 64: 'A modern Sir Percival'. F. 65: Cerdd gyfarch 'Our worthy Chairman - Mr Pracy'; 'As a New Year's gift to Germany...' [cyfieithiad o englyn]. F. 66: 'The Chairman'. F. 67: 'In Praise Of Our Foreman'. F. 68: 'A Hymn Of Praise'. F. 69: 'A Blue Tie & Some Xmas Thoughts'. F. 70: 'To T. H.'. Ff. 71-2: 'Our Boys (Air: The British Grenadiers)'. 2 fersiwn. F. 73: 'To Nurse Parry' ("From the Welsh of Miss J. Williams, Portmadoc"). F. 74: 'A Spring Song' gan "PA". F. 75: 'Two Night Visitors (Dramatic verses founded on Fact)'.

Copïau o gyfieithiadau o gerddi EW.

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gyfieithiadau o gerddi EW. 38 ff. Ff. 1-2: 'Sweet be my mother's rest' ['Llys fy Mabandod'; gweler Caniadau'r Allt, t. 53]. Cyfieithiad yr Athro Edward Anwyl [anghyflawn - 'The rest of the sixth verse missing'; cf. rhif 73]. Teipysgrif. 2 gopi. F. 3: 'May', 'June' ['Mai', 'Mehefin'; gweler Telynegion Maes a Môr, tt. 66-7]. Cyfieithiad John Newton Crowther ('Glanceri'). Torion papur wedi'u gludo ar gerdyn post; gyda 'chofion serchog J. Ll. W'. Ff. 4-5: 'The Fair Isle' ['Yr Ynys Wen']. Cyfieithiad Syr Francis Edwards. Llawysgrif. F. 6: 'February' ['Chwefror'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 61]. Cyfieithiad Syr Francis Edwards. Teipysgrif. F. 7: 'Dearest Wales' ['Cymru Annwyl'; gweler Caniadau'r Allt, t. 75]. Cyfieithiad y Canon E. O. Jones, Llanidloes. Teipysgrif. Ff. 8-18: Copïau drafft o gyfieithiadau [? J. W. Wynne-Jones, ficer Caernarfon] o'r telynegion canlynol. Ff. 8-9: 'The bard & the flower' ['Bardd a Blodeuyn'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 80]. F. 10: 'Consider the lily' ['Ystyriwch y lili'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 82]. F. 11: 'The miller's daughter' ['Merch y Felin'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 55]. Ff. 12-13: 'Sea bird' ['Gwylan'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 16]. F. 14: 'The offer of a heart' ['Cynnyg Calon'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 53]. F. 15: 'The smile of the dead' ['Gwên y Marw'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 29]. Ff. 16-17: 'The Dream wedding' ['Priodas Hun'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 18]. F. 18: 'Hope' ['Gobaith'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 29]. Ff. 19-33: Cyfieithiadau [? gan J. W. Wynne-Jones, ficer Caernarfon] o 'Delynegion y Misoedd' [gweler Telynegion Maes a Môr, tt. 59-74]. Toriadau o The Church Monthly, Ion.-Rhag. 1907, â rhai newidiadau llawysgrif. Ff. 34-5: 'Recollectest thou the sacred...' ['Menna'; gweler Ieuenctid Y Dydd, t. 107]. Cyfieithiad J. Holt Newell, 'With the translator's compliments to the writer Eifion Wyn'. Llawysgrif. F. 36: 'Jack Frost' ['Syr Barrug'; gweler Caniadau'r Allt, t. 93]. Cyfieithiad W. S. Gwynn Williams, Llangollen, 1924 [cf. rhif 172]. Teipysgrif. F. 37: 'Ora Pro Nobis' [gweler Telynegion Maes a Môr, t. 20]. Cyfieithiad W. S. Gwynn Williams, Tach. 1924 [cf. rhif 178]. Teipysgrif. F. 38: 'The Butterfly' ['Iâr Fach yr Haf'; gweler CA, t. 115]. Llawysgrif.

Copïau o gyfieithiadau gan y Parch. William Evans ('Wil Ifan'),

Llyfryn yn cynnwys copïau teipysgrif o gyfieithiadau gan y Parch. William Evans ('Wil Ifan') o chwech o gerddi EW, ynghyd â cherddi eraill (cf. rhif 215). 8 ff. F. 1: 'The Stars' ['Y Sêr'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 78]. F. 2: 'Hadst Thou But Love' ['Pe Bai Gennyt Serch'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 39]. F. 3: 'October' ['Hydref'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 72]. F. 4: 'November' ['Tachwedd'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 73]. F. 5: 'The Hedgerows of May' ['Perthi Mai'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 88]. F. 6: 'April' ['Ebrill'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 64]. F. 7: 'Embarking' ['Gadael Tir' gan R. Williams Parry; gweler Yr Haf a Cherddi Eraill (Gwasg Y Bala, 1924), tt. 93-4]. F. 8: 'Rehoboth' [gan W. E. Crwys Williams; cyhoeddwyd yn Cerddi Crwys, yr ail argraffiad (Llanelli, 1920), t. 147].

Copïau o gerddi gan wahanol awduron,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi, 1889-1926 a d.d., gan wahanol awduron fel a ganlyn. Fe'u rhestrir yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw'r awdur. Teipysgrif oni nodir yn wahanol. 11 ff. F. 1: 'Peredur Wyn'. Pedwar englyn gan Richard Davies, Lerpwl [1908]. Llawysgrif. F. 2: 'Ty Tafarn (Naw Englyn unodl-union)', gan William Evans ('Wil Ifan o Fôn'). Cerdyn post wedi'i gyfeirio at EW (4 Mawrth 1921). Printiedig. Ff. 3-4: 'Childhood's Memories', gan R. S. Hughes, 18 Mawrth 1889. F. 5: 'Erfyniad ar ddechreu blwyddyn', gan R. J. Jones ('Tegfab'), Cornhill, Porthmadog, 1926. F. 6: 'Tymor Mebyd (Alaw: "Hen brocer bach gloyw fy nain")', gan R. J. Jones, Porthmadog, 'gynt o Brynteg'. F. 7: 'Un rhybudd mwy: rhydd gyfieithiad', gan yr Henadur W. J. Parry, CBE, 9 Rhag. 1923. F. 8: 'Lines suggested by St David's Day, March 1st, 1907', gan Thomas Jacob Thomas ('Sarnicol'). "Cyfarchiadau'r awdur T. J. Thomas. Ysgol Sir, Abertileri", ar waelod y tudalen. F. 9: 'Gwydderig', gan John Owen Williams ('Pedrog'). Toriad papur. Ff. 10-11: 'Peredur Wyn' ('C'lennig Peredur Wyn'), Calan 1908, gan Richard John Williams ('Tryfanwy'). Copïau llawysgrif a theipysgrif.

Caneuon o waith EW,

Caneuon o waith EW, ynghyd â'r gerddoriaeth a gyfansoddwyd ar eu cyfer. Printiedig oni nodir yn wahanol. 18/1: 'Cwm Pennant'. Y gerddoriaeth gan Gutyn Mawrth, Bethesda. 18/2: 'Pa fodd y canwn' (anthem). Y gerddoriaeth gan W. Heber Evans, Treherbert. Llawysgrif; printiedig [2 gopi]. 18/3: 'Plant y Cedyrn'. Y gerddoriaeth gan W. T. David. 18/4: '"Yr Hufen Melyn" a "Caniad Pibau Morfudd": dwy o alawon gwerin, cyflwynedig i Gôr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1921'. Y gerddoriaeth gan T. O. Hughes, Caernarfon. Llawysgrif ['Yr Hufen Melyn']; printiedig.

Copïau o feirniadaethau EW ar gyfansoddiadau eisteddfodol,

Copïau llawysgrif a theipysgrif o feirniadaethau EW ar gyfansoddiadau eisteddfodol; ynghyd â phapurau perthnasol. 44 ff. Ff. 1-15: Pryddest y Goron. Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1915. Ff. 16-17: Englyn 'Y Pladurwr'. Blaenau Ffestiniog, 25 Rhag. 1924. Ff. 18-29: Morwrgerdd 'Galwad y Môr'. Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 (ff. 18-24); ynghyd â chopi teipysgrif, â chywiriadau gan EW, o'r gerdd fuddugol gan "Yr Wylan Benddu" [Owen Ellis Roberts, 'Caerwyn'] (ff. 25-9). Ff. 30-2: 'Tri phennill priodol i agor Eisteddfod neu unrhyw gyfarfod gwladgarol'. Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925. Ff. 33-4: 'Chwe' phennill i Eisteddfod Nadolig yr Annibynwyr (cyfyngedig i rai heb ennill degswllt o'r blaen)', d.d. Ff. 35-6: 'Chwe' phennill coffa i'r diweddar Mr Morris Evans, Bryn Olew', d.d. Ff. 37-44: Rhestr ffugenwau ymgeiswyr cyfansoddi 'Tair Telyneg' (buddugol "Eco'r Creigiau" [y Parch. T. Eurig Davies]) a 'Dau Emyn' (neb yn fuddugol), Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 (ff. 37-8); ynghyd â dau gopi teipysgrif o'r telynegion buddugol (ff. 39-43), a chopi teipysgrif o'r pennill buddugol 'Rheswm' gan "Lladmer" [y Parch. D. M. Williams, Worksop] yng nghystadleuaeth cyfansoddi 'Pedair llinell, gaeth neu rydd' yn yr un Eisteddfod (f. 44).

Nodiadau drafft beirniadaeth EW ar gynhyrchion eisteddfodol,

Llyfr nodiadau ['Science Homework Book' o eiddo Peredur Wyn Williams, Dosbarth IV, Ysgol Sir Portmadoc] yn cynnwys (ff. 1-13v) nodiadau drafft beirniadaeth EW ar gynhyrchion eisteddfodol fel a ganlyn: englyn 'Amlen'; awdl 'Edmwnd Prys'; telyneg 'Dyffryn Maentwrog'; a chân 'Trip yr Ysgol Sul'.

Results 1 to 20 of 318