Hanes ymweliad ag arddangosfa yn Llundain. Gellir gwario £20 y dydd yno. Bwriada weld arddangosfa o dân gwyllt. Sôn am ei bwriad i newid ysgol. Saesneg/English.
Mae'n anfon rhai pethau ati, os nad oes eu hangen gall eu taflu i ffwrdd. Mae'n dal i hoffi'r dre a'r gwaith yn y banc ond hoffai symud yn nes at sir Fôn gan iddo fod yn Ne Cymru am 71/4 o flynyddoedd.
Bu'n gweithio'n galed yn y caeau o chwech y bore tan saith yr hwyr a bu'n rhy flinedig i ysgrifennu. Cafodd freuddwyd am KR. Ni chafodd lawer o hanes eu cydfyfyrwyr. Mae'n llongyfarch KR ar ei llwyddiant tua'r Coleg. Mae'n gofyn os yw hi'n bwriadu dychwelyd i ddysgu yn Llanberis. Disgrifia ei gartref fel "lle di-enaid, di-eneth". Cafodd gip ar Cissie Owen, gynt o Ysgol Sir Caernarfon ac yr oedd yn cofio at KR. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 160-1.
Mae'n mynd adref ddydd Sadwrn am bythefnos. Tro Kate Roberts yw hi i ysgrifennu ond fe wnaiff hi ysgrifennu ar ôl cyrraedd. Cerdyn post. Saesneg/English.
Ni chlywodd oddi wrth KR am gyfnod hir. Clywodd iddi fod yn canu mewn "sosial tîs". Ar ôl gadael ysgol Dinmael bu yn Llangollen yn dysgu plant hygar. Bellach, cafodd ei ysgubo i Fae Colwyn ac y mae'n gorfod dysgu hanner cant o blant o dosbarth arall yn rhannu'r un ystafell. Mae'r athro arall ac yntau yn gweiddi ar y plant fel dau arwerthwr. Mae'r plant yn wyllt iawn hefyd. Mae'n cynnwys englyn o'i waith sydd yn crisialu ei brofiad yno. Mae arno hiraeth am Goleg Bangor. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 161-2.
Tystlythyr yn canmol gwasanaeth Kate Roberts fel athrawes ddosbarth a goruchwyliaeth y gwersi gwnïo yn Ysgol y Cyngor Dolbadarn, Llanberis. Saesneg/English.
Awgrymu llyfr ar ddysgu Llydaweg i Kate Roberts. Ceir cyfeiriad at M. Vallée, St Brieuc, y gramadegydd Llydaweg. Dylai ysgrifennu, yn Gymraeg, at M. P. Mocaer, Brest. Ni ddylai brynu geiriadur ar hyn o bryd gan eu bod yn annibynadwy a bod un gwell i'w gyhoeddi wedi'r Rhyfel Mawr. Mae'n esbonio'r gwahaniaethau rhwng y pedair tafodiaith Lydewig. Beirniadu llyfr y Parch Percy Treasure ar ddysgu Llydaweg. Saesneg/English.
Cafodd bythefnos o wyliau yn Llanwrtyd. Bu'n chwarae llawer o denis a bu'n hwylio ar y llyn. Aethant oddi yno i Gil-y-cwm i arddwest yr etifedd yn dod i oed. Mae'n aros gydag ewyrth yn y Porth. Mae ganddi wyth o gefndryd yno. Trafod sut y mae hi'n gwisgo ei gwallt. Mae'n bwriadu cael tynnu ei llun yno. Mae ei hoff gefnder, Richie, wedi cyrraedd Cape Town yn ddiogel. Mae streiciau rheilffyrdd, dociau a phyllau glo yn Ne Cymru. Nid oes sicrwydd os bydd trên iddi ddychwelyd adref. Saesneg/English.
Adrodd ei hanes yn chwilio am swydd athrawes. Mae ganddi swydd yn Warwick yn dysgu hanner cant o fabanod. Ar ôl saith diwrnod a hanner o ddysgu caewyd yr adran oherwydd clwy'r pennau a thwymyn. Ei hargraffiadau o dref ffasiynol Leamington. Cafodd groeso yng nghartref maer Warwick. Fe'i gwahoddwyd i gynnig am swydd well yn Sevenoaks, Caint. Derbyniodd y swydd a bydd yn dechrau yno ar wyl Ddewi. Mae'n gofyn i KR roi cyngor iddi gan ei bod i ddysgu gwnïo gyda Safon III. Disgrifiad o'r pentrefi o gwmpas Kenilworth. Saesneg/English.
Bu llythyr KR ato yn crwydro'n hir o Fae Colwyn i Gorwen ac ymlaen o'r diwedd i Ogledd Lloegr. Mae'n dysgu daearyddiaeth mewn ysgol ramadeg. 183/4 o oriau gwaith sydd ganddo - gall wneud fel y mynno am weddill yr wythnos. Mae'r cwrs Cymraeg, yn enwedig y Bardd Cwsc, o ddefnydd mawr iddo. Gall regi'n effeithiol ar y plant yn Gymraeg. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., t 164.
Mae diwrnod o wyliau ganddo o'r ysgol. Ceir gwyliau achlysurol ar yr esgus lleiaf yno. Mae llawer o ryddid i'r athrawon wneud fel y mynnont yn ei ysgol. Cafodd ei gyflogi am dymor ar gyflog o £40. Addawodd y prifathro geisio codi ei gyflog ac addawodd yntau aros ychydig yn rhagor yno. Mae wedi gwrthod swydd mewn ysgol breifat yn Llundain. Ni allai ddychmygu ei hun yn rhoi plant yn eu gwelyau. Mae arholiadau ar fynd yn yr ysgol. Rhydd enghreifftiau o atebion doniol a dderbyniwyd yn yr arholiadau. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., t 165.
Diolch am lythyr. Ymddiheuro am ysgrifennu yn Saesneg - nid yw'r sensor yn deall Cymraeg. Maent yn cysgodi mewn hen gwt drafftiog rywle yn Fflandrys ar wely gwellt. Cawsant rai dyddiau o orffwys o'r ffosydd. Mae'n deall bod brawd Kate Roberts drosodd yno yn y rhyfel. Disgrifio'r awch am dderbyn llythyrau. Saesneg/English.
Tywydd gwael. Roedd hi'n nawfed yn ei dosbarth yn ôl ei hadroddiad ysgol. Mae'r geidiau yn bwriadu gwerthu baneri ar gyfer gwlad Belg. Casglwyd pymtheg punt wrth werthu rhosynnau. Nid oes cymaint o bobl wedi mynd ar wyliau ag sy'n arferol. Mae un o'r cynddisgyblion, Trevor Nicholas, yn farw. Saesneg/English.